Toglo gwelededd dewislen symudol

Gardd 'Byth yn angof' amlosgfa Abertawe

Crëwyd yr ardd 'Byth yn Angof' yn fwriadol yn nhiroedd yr amlosgfa.

Memorial Boulder

Mae cysyniad yr ardd yn cynnwys cadwraeth bywyd gwyllt yn ogystal â chefnogaeth iechyd meddwl i'r galarus drwy wahodd pobl i ysgrifennu eu teimladau ar ein papur â hadau i helpu gyda'r broses wella, wrth greu gobaith i gadw bywyd gwyllt sy'n dirywio'n gyflym.

Mae maen coffa yn yr ardd gyda blwch postio arbennig ar gyfer amlenni sydd wedi'u dylunio'n arbennig gyda chelfwaith sy'n berthnasol i ddinas Abertawe. Mae darn o bapur ysgrifennu bioddiraddadwy y tu mewn i bob amlen a phecyn o hadau, sydd yn rhad ac am ddim. ond byddem yn ddiolchgar pe gallech roi rodd fach i'n helusen ddynodedig ar gyfer 2023, Tŷ Olwen.

Cesglir yr amlenni sydd wedi cael eu postio bob hyn a hyn, a'u storio'n ddiogel gan staff a'u paratoi ar gyfer eginiad i flodau gwyllt i'w plannu yn yr ardd. Bydd hyn yn helpu gyda chadwraeth rhywogaethau o ieir bach yr haf a gwenyn lleol sydd mewn perygl.

Felly, wrth i bobl gofio'u hanwyliaid, gallwn helpu i wrthdroi dirywiad a diflaniad ein bywyd gwyllt gwerthfawr.

Memorial Boulder at Swansea Crematorium

Close Dewis iaith