Gardd 'Byth yn angof' amlosgfa Abertawe
Crëwyd yr ardd 'Byth yn Angof' yn fwriadol yn nhiroedd yr amlosgfa.
Mae cysyniad yr ardd yn cynnwys cadwraeth bywyd gwyllt yn ogystal â chefnogaeth iechyd meddwl i'r galarus drwy wahodd pobl i ysgrifennu eu teimladau ar ein papur â hadau i helpu gyda'r broses wella, wrth greu gobaith i gadw bywyd gwyllt sy'n dirywio'n gyflym.
Mae maen coffa yn yr ardd gyda blwch postio arbennig ar gyfer amlenni sydd wedi'u dylunio'n arbennig gyda chelfwaith sy'n berthnasol i ddinas Abertawe. Mae darn o bapur ysgrifennu bioddiraddadwy y tu mewn i bob amlen a phecyn o hadau, sydd yn rhad ac am ddim.
Cesglir yr amlenni sydd wedi cael eu postio bob hyn a hyn, a'u storio'n ddiogel gan staff a'u paratoi ar gyfer eginiad i flodau gwyllt i'w plannu yn yr ardd. Bydd hyn yn helpu gyda chadwraeth rhywogaethau o ieir bach yr haf a gwenyn lleol sydd mewn perygl.
Felly, wrth i bobl gofio'u hanwyliaid, gallwn helpu i wrthdroi dirywiad a diflaniad ein bywyd gwyllt gwerthfawr.