Gymunedau Digidol Cymru
Mae Cymunedau Digidol Cymru wedi datblygu sawl cwrs hyfforddi cynhwysiad digidol ar-lein am ddim, gan gynnwys gweminarau a chymorthfeydd digidol.
Mae Cymunedau Digidol Cymru yn cynnig gweminarau o bell, cymorthfeydd ac adnoddau AM DDIM:
Sesiynau Galw heibio Digidol - Bob dydd Iau, bydd Cymunedau Digidol Cymru'n cynnal gweithdai galw heibio am ddim lle byddwn yn rhoi gwersi rhithwir un-i-un neu fesul grŵp ar ddefnyddio apiau neu ddyfeisiau.
Rydym yn cynnwys y dyfeisiau canlynol:
- Tabledi neu ffonau Android
- iPads ac iPhones Apple
- Dyfeisiau clyfar megis Alexa
- Ceisiadau am ddyfeisiau sy'n unigryw i sefyllfaoedd personol.
Yn y gwersi hyn, gallwn drafod a datrys problemau materion defnyddwyr a chynnig cyngor ar wneud y mwyaf o feddalwedd hygyrchedd ar ddyfeisiau personol.
Gweminarau Cymunedau Digidol Cymru - Yng Nghymunedau Digidol Cymru rydym wedi bod yn gweithio'n galed i ddatblygu rhaglen gweminar ar-lein ar 'Gadw'n Brysur', 'Aros Mewn Cysylltiad', 'Nodi Gwybodaeth Iechyd Ddibynadwy Ar-lein', a 'Siopa Ar-lein'.Cyflwynir yr holl sesiynau ar wahân yn Gymraeg ac yn Saesneg.
Padletau Cymunedau Digidol Cymru - Er mwyn helpu pobl i aros mewn cysylltiad, cadw'n ddiogel ac yn iach yn ystod y pandemig hwn, mae Cymunedau Digidol Cymru wedi llunio Padletau ar-lein i'w defnyddio a'u rhannu. Mae'r Padlet yn hawdd i'w ddefnyddio ac mae'n caniatáu i ni grynhoi gwybodaeth yn ôl pwnc. Rydym yn diweddaru pob tudalen Padlet cyn gynted ag y byddwn yn darganfod adnodd newydd, felly cadwch lygad am ddiweddariadau dyddiol.
Cliciwch ar bob un o'r dolenni isod i gael rhagor o wybodaeth: