Toglo gwelededd dewislen symudol

Plac Glas i Glendinning Moxham

Plac i goffáu'r pensaer siartredig a'r athro dylanwadol

Lleoliad y plac: i'r chwith o brif fynedfa Bristol Channel Yacht Club, y Mwmbwls.

Roedd Glendinning Moxham (1865-1946) yn bensaer a ddyluniodd lawer o adeiladau amlwg a nodedig Abertawe. Roedd yn un o hyrwyddwyr y mudiad Celf a Chrefft ac mae ei ddyluniadau cymesur a chain yn adlewyrchu hyn. Roedd yn gyfrifol am ddylunio rhai o adeiladau mwyaf eiconig Abertawe a'r cyffiniau.

Fe'i ganwyd yn Abertawe, yn fab i fasnachwr pren, Marcus Moxham, ac yn ŵyr i'r pensaer o Gastell-nedd, Egbert Moxham. Astudiodd ym Mhrifysgol a Choleg Celf Nottingham a hyfforddodd fel pensaer gyda Richard Charles Sutton o Nottingham. Teithiodd yn helaeth yn Ewrop a daeth yn bensaer siartredig ym 1887. Yn yr un flwyddyn, dechreuodd bartneriaeth â phensaer sefydledig o Abertawe, James Buckley Wilson. Roedd eu swyddfeydd yn rhif 39 Castle Street a thros y tair blynedd ar ddeg nesaf, dyluniwyd rhai o adeiladau mwyaf neilltuol y dref ganddynt, gan gynnwys y farchnad newydd ar Stryd Rhydychen.

Ar ôl marwolaeth Wilson ym 1900, parhaodd Glendinning Moxham i weithio ar ei ben ei hun. Mae ei ddylanwad ar amgylchedd adeiledig Abertawe yn sylweddol. Dyma rai o'r adeiladau mwyaf adnabyddus a ddyluniwyd ganddo:

  • Oriel Gelf Glynn Vivian
  • Adeilad YMCA ar St Helen's Road, Abertawe
  • Pafiliwn Chwaraeon y Brifysgol ger Sketty Lane
  • The London and Provincial Bank, Wind Street (tafarn y Bank Statement heddiw)
  • Tŷ'r Olchfa, Sgeti (Miller and Carter Steakhouse bellach)
  • The Midland Bank, Castell-nedd
  • Ysbyty Gorseinon
  • Ychwanegiadau at Ysbyty Cyffredinol Abertawe (Homegower House yn awr)
  • Eglwys Santes Hilary, Cilâ
  • Bristol Channel Yacht Club

Goruchwyliodd waith adfer ar sawl eglwys, gan gynnwys Eglwys Sant Paul, Sgeti; Eglwys Sant Barnabas, Waunarlwydd; Eglwys Sant Samlet, Llansamlet (dyluniodd y tŵr); Eglwys Sant Pedr, Pontardawe; ac Eglwys Dewi Sant, Ystalyfera Roedd llawer o'i gomisiynau hefyd yn dai preifat, yr oedd y rhan fwyaf ohonynt yn Uplands, Sgeti a Chilâ. Mewn rhai achosion, priodolwyd rhannau cyfan o strydoedd iddo, gan gynnwys Eden Avenue, oddi ar Glanmor Road, Abertawe.

Daliodd Glendinning Moxham nifer o swyddi yn ystod ei fywyd, gan gynnwys pensaer i Esgobaeth Abertawe ac Aberhonddu a llywydd Sefydliad Penseiri De Cymru, ac addysgodd bensaernïaeth hefyd yng Ngholeg Celf Abertawe. Cyflogodd brentis o'r enw Ernest Morgan, a fyddai'n ddiweddarach yn dod yn Bensaer Bwrdeistref Abertawe, y cyntaf i ddal y swydd, a bu â rhan yn y gwaith o ddylunio datblygiad Garden City yn Townhill.

Datgelwyd y plac ar 29 Awst 2025.


Sut i gyrraedd yno:

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 03 Hydref 2025