Toglo gwelededd dewislen symudol

Gofalu am eich basged grog

Arweiniad ar sut i ofalu am eich basged grog fel y gallwch wneud yn fawr ohoni a'i chadw yn ei blodau cyhyd â phosib.

Hanging basket - wood background (Rake and Riddle).

Os ydych yn gofalu'n dda am eich basged, dylech fod yn gallu'i mwynhau drwy gydol misoedd yr haf tan fis Medi/Hydref.

Cyn i ni ddanfon eich basged atoch, gwnewch yn siŵr fod gennych fraced diogel yn ei le fel y gallwn ei hongian yn ddiogel i chi.

Ar ôl i'ch basged gael ei danfon atoch, eich cyfrifoldeb chi yw gofalu amdani a'i bwydo a'i dyfrio fel ei bod yn edrych ar ei gorau.

Yn gyffredinol, os yw'ch basged yn sych yna dyfriwch hi'n drylwyr (y pridd nid y planhigion), ac os oes angen help ar eich blodau i flodeuo gallwch eu bwydo â bwyd tomato.

Dyfrhau

Dyfrhewch eich basged yn rheolaidd - yn syth i mewn i'r pridd yn hytrach na thros y planhigion/blodau eu hunain, hyd yn oed os yw hi'n bwrw glaw. Ni fydd dŵr glaw bob amser yn cyrraedd y pridd, yn enwedig pan fydd y planhigion yn eu blodau, ac mae'n debygol o redeg oddi ar y dail a'r petalau.

Yn ystod diwrnodau poeth yr haf, efallai bydd angen i chi ddyfrhau ddwywaith y dydd i atal y pridd rhag sychu. Gwnewch yn siŵr bod y fasged yn cael gwlychiad da a cheisiwch osgoi dyfrhau pan fo'r haul ar ei anterth fel bod y dŵr yn trwytho'r pridd yn hytrach na sychu'n rhy gyflym.

Cofiwch, po fwyaf y mae'r planhigion yn tyfu, mwyaf o ddŵr y bydd ei angen arnynt.

Bwydo

Dyma'r mathau o fwyd planhigion y mae'n bosib y bydd angen i chi eu defnyddio: bwyd sy'n uchel mewn nitrogen ar gyfer tyfiant; bwyd tomato ar gyfer y blodau; a bwyd cytbwys Miracle Grow fel bwyd cyffredinol.

Gan ddibynnu ar y tywydd:

  • yn ystod yr wythnos 1af a'r 2il wythnos ar ôl i chi dderbyn eich basged, defnyddiwch fwyd cyffredinol gan wneud yn siŵr bod y fasged wedi'i dyfrio'n ddigonol - peidiwch byth â gadael i'r fasged sychu
  • yn ystod y 3edd a'r 4edd wythnos, defnyddiwch fwyd tomato i hybu blodau newydd

Os yw'r fasged yn edrych fel pa bai'n cael trafferthion tyfu, defnyddiwch fwyd sy'n uchel mewn nitrogen.

Ailadroddwch y broses fwydo drwy gydol misoedd yr haf.

Gwiriwch/dilynwch y cyfarwyddiadau ar y pecyn bwyd er mwyn ei ddefnyddio'n ddiogel.

Torri pennau gwywedig blodau

Mae'r rhan fwyaf o'r blodau yn y fasged yn rhai sy'n glanhau eu hunain ac ni fydd angen torri'r pennau gwywedig.

 

Sylwer: arweiniad yn unig yw hwn, nid cyfarwyddiadau. Bydd angen gofal gwahanol ar fasgedi gan ddibynnu ar a ydyn nhw mewn heulwen llawn neu rannol.

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 04 Tachwedd 2024