Toglo gwelededd dewislen symudol

Parciau a gweithgareddau awyr agored

Mae Abertawe'n ffodus o gael erwau o le agored i'w fwynhau drwy gydol y flwyddyn.

A-Y o barciau, gwarchodfeydd natur a mannau awyr agored

Mwy o wybodaeth am barciau, gerddi a gwarchodfeydd natur o amgylch Abertawe.

Prom Abertawe

Mwynhewch ddiwrnod mas gwych ar hyd Prom Abertawe.

Lleoedd Chwarae

Mae'r holl ardaloedd chwarae bellach ar agor i'r cyhoedd.

Blodau gwyllt

Ar hyn o bryd rydym yn hau oddeutu 40,000 metr sgwâr (bron 10 erw neu tua 6 cae pêl-droed) o flodau gwyllt ar draws oddeutu 190 o safleoedd yn Abertawe.

Cerdded

Mae digon o ddewis i gerddwyr yn Abertawe a phenrhyn Gŵyr. Mae popeth ar gael yno, o bromenadau gwastad a pharcdir ar gyfer tro hamddenol i deithiau cerdded mwy heriol dros draethau, gweundir a thrwy goedwigoedd hynafol.

Basgedi crog

Rydyn ni'n creu basgedi crog ac arddangosfeydd blodau eto eleni i roi rhywfaint o liw i strydoedd a blaenau siopau o amgylch Abertawe.

Chwiliad parciau a gweithgareddau awyr agored

Defnyddiwch ein chwiliad parciau a gweithgareddau awyr agored i ddod o hyd i leoedd yn yr awyr agored yn Abertawe, gan gynnwys pa gyfleusterau a gweithgareddau sydd ar gael.

Mabwysiadwch fainc coffa

Byddwn yn gosod plac dur gwrthstaen wedi'i bersonoli gyda'r geiriau o'ch dewis wedi'u hysgythru ar fainc yn y parc y mae'r rhoddwr wedi'i ddewis o'r lleoliadau sydd ar gael.

Rhandiroedd

Mae 16 o randiroedd a reolir gan gymdeithasau rhandiroedd. Yn ogystal, mae 1 safle ar dir preifat sydd hefyd yn cael ei reoli'n breifat.

Campfeydd awyr agored

Mae gennym 10 gorsaf ffitrwydd o gwmpas Llyn y Fendrod a llwybr ffitrwydd ar hyd Promenâd Abertawe gyda chyfarpar am ddim i bawb ei ddefnyddio.

Pysgota

Llynnoedd, pyllau a chlybiau pysgota bras yn Abertawe.

Cyfeiriannu

Mae Abertawe a Gŵyr yn fannau bendigedig i ymarfer cyfeiriannu.

Geogelcio

Rhowch gynnig ar geogelcio o gwmpas Abertawe a Gŵyr i weld beth gallwch ei ddarganfod!

Cyfleusterau hurio yn y parc

Mae Tŷ'r Blodau ym Mharc Singleton ar gael i'w hurio'n breifat at amrywiaeth o ddibenion gwahanol.

Parciau: rhifau ffôn defnyddiol

Ein nod yw sicrhau yr erys ein holl barciau'n lleoedd diogel a chyfeillgar fel y gall pawb fwynhau'r amrywiaeth o ddigwyddiadau a gweithgareddau a gynhelir drwy gydol y flwyddyn.

Mabwysiadu neu roddi coeden

Byddwn yn gosod plac dur gwrthstaen wedi'i bersonoli, wedi'i ysgythru a'r geriau o'ch dewis ar y goeden a fabwysiedir neu a roddir o'ch dewis.

Treial torri a chasglu - yn hybu bioamrywiaeth

Rydym yn brwydro yn erbyn yr argyfyngau hinsawdd a natur gyda chyfarpar newydd.

Mabwysiadu gwely blodau

Mabwysiadu gwely blodau hyfryd yng ngerddi godidog a mawreddog Abertawe.

Torri glaswellt a chynnal coed

Gwybodaeth am waith torri glaswellt a chynnal coed rydym yn ei wneud.

Cynnal coed - arweiniad i berchnogion cartrefi a pherchnogion tir

Cyngor sylfaenol ac ymarferol ar yr ymholiadau mwyaf cyffredin a geir gan arddwyr, perchnogion cartrefi a pherchnogion tir yn ymwneud â choed a phlanhigion prennaidd tebyg.

Canclwm Japan

Mae canclwm Japan yn rhywogaeth ymledol o blanhigyn a dyma'r cyflymaf ei dwf yn y DU.

Clefyd coed ynn

Clefyd ffwngaidd yw clefyd coed ynn, a adwaenir hefyd fel clefyd (Chalara) coed ynn, sy'n effeithio ar bob rhywogaeth o goed ynn (Fraxinus). Mae'r clefyd wedi ymledu i'r gorllewin ar draws y wlad ac mae'n effeithio ar bron pob rhan o Gymru erbyn hyn.

Sesiynau a Gweithgareddau Chwaraeon ac Iechyd

Mae Chwaraeon ac Iechyd yn cynnig gweithgareddau difyr mewn parciau, gan annog pobl i wneud ffrindiau newydd a mwynhau mannau gwyrdd yn eu cymunedau lleol.

Adrodd am drysor

Os ydych chi'n dod o hyd i eitem a allai fod yn hanesyddol neu'n werthfawr ('trysor') yn ardaloedd cynghorau Abertawe neu Gastell-nedd Port Talbot, mae'n rhaid i chi adrodd amdano i'r crwner lleol cyn gynted â phosib.
Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 28 Mawrth 2024