Toglo gwelededd dewislen symudol

Gofalu am stadau

Mae gofalwyr ystadau'n cael gwared ar sbwriel, yn gwneud gwaith cynnal a chadw tir isel, yn cael gwared ar nodwyddau ac yn gwirio ardaloedd cymunedol mewn blociau o fflatiau.

I'r rheiny sy'n byw mewn fflatiau, mae mynediad ac ardaloedd allanol eich fflatiau'n rhoi'r argraff gyntaf a pharhaol i'ch ymwelwyr. Er bod y lleoedd cyffredin yn cael eu defnyddio gan yr holl breswylwyr sy'n byw yn y bloc, ac maent yn agored i ymwelwyr, os ydych yn byw mewn bloc o fflatiau, mae'ch tenantiaeth yn nodi bod gennych gyfrifoldeb i'w cadw'n lân ac yn daclus.

Ein nod yw helpu preswylwyr yn y blociau i gynnal a chadw'r mannau hyn yn y cyflwr gorau sy'n bosibl ar bob adeg.  Bydd glanhau ychwanegol i'r blociau cyffredin yn cael ei ddarparu dim ond os bydd y lle'n mynd yn aflan, neu os oes gollyngiad na all preswylydd ei lanhau'n hawdd, ac mae'r lle'n mynd yn berygl i ddefnyddwyr eraill. Yn y fath achosion, dylai preswylwyr gysylltu â'u swyddfa dai ardal lleol.

Rhoi gwybod am dipio'n anghyfreithlon / lanast / sbwriel / chwistrellau / graffiti sarhaus

Cysylltwch ag unrhyw un o'r swyddfeydd tai ardal.

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 13 Mehefin 2023