Gordaliadau Budd-dal Tai
Gall gordaliadau ddigwydd os na roddwyd gwybod i ni am newid yn eich amgylchiadau ar y pryd y digwyddodd.
Os ydych chi wedi derbyn gordaliad, byddwn yn anfon llythyr atoch yn rhoi gwybod i chi, a fydd yn cynnwys y canlynol:
- y rheswm pam y digwyddodd
- y cyfnod y mae'n ei gwmpasu
- y swm i'w ad-dalu
- cyfeirnod (mewn blwch o'r enw 'rhif hawlio budd-dal')
Efallai bydd gofyn i chi ddarparu rhagor o wybodaeth os yw'ch amgylchiadau wedi newid ond nid yw'ch manylion cyfredol gennym (fel eich incwm newydd).
Os ydych yn y manylion yr ydym wedi gofyn amdanynt, efallai y bydd modd i ni leihau'r gordaliad.
Ad-dalu'r gordaliad
Does dim angen i chi ad-dalu'r swm mewn un taliad os nad ydych chi'n gallu fforddio gwneud hynny. Penderfynwch faint rydych yn meddwl y gallwch ei dalu i ni bob wythnos a rhowch wybod i ni trwy ffonio 01792 635877.
Os yw'ch cynnig yn rhesymol, efallai y bydd modd i ni gytuno ar yr ad-daliadau ar unwaith. Os na, efallai byddwn yn gofyn i chi lenwi ffurflen gyllideb: Gordaliadau Budd-dal Tai - ffurflen gyllideb bersonol (Word doc) [32KB].
Mewn rhai achosion gallwn adennill y gordaliad trwy ddidynnu swm wythnosol o unrhyw Fudd-dal Tai y mae gennych hawl i'w dderbyn. Os yw hyn yn bosib, byddwn yn anfon llythyr atoch i esbonio'r swm sy'n cael ei adennill bob wythnos. Mae'n rhaid i chi dalu'r swm a ddidynnir i'ch landlord yn ogystal ag unrhyw rent yr ydych eisoes yn ei dalu er mwyn sicrhau nad ydych yn cronni ôl-ddyledion.
Os na allwn adennill y ddyled trwy'r dull hwnnw dros gyfnod rhesymol, byddwn yn anfon bil atoch gan ofyn am ad-daliad.
Ffyrdd o dalu
Mae nifer o ffyrdd y gallwch wneud ad-daliad:
- Talu ar-lein
- Dewiswch a ydych am wneud ad-daliad o ordaliad Budd-dal Tai i denant preifat neu ordaliad Budd-dal Tai i denant y cyngor.
- Trwy system dalu awtomataidd dros y ffôn
- Sicrhewch fod gennych rif eich anfoneb a'ch manylion debyd neu gredyd wrth law a ffoniwch 0300 4562765 (cyfradd leol) a dilynwch y cyfarwyddiadau a roddir.
- Dros y ffôn gan ddefnyddio'ch cerdyn debyd neu gredyd
- Ffoniwch ni ar 01792 635877 gyda manylion y taliad.
- Trwy gerdyn debyd neu gredyd yn eich swyddfa dai ardal leol
- Trwy siec neu archeb bost yn y Ganolfan Ddinesig
- Drwy'r post
- Anfonwch siec sy'n daladwy i 'Dinas a Sir Abertawe' at: Pennaeth Cyllid a Chyflwyno, Canolfan Ddinesig, Oystermouth Road, Abertawe SA1 3SN.
- Trwy archeb sefydlog: Gordaliadau Budd-dal Tai - Mandad Archeb Reolaidd (Word doc) [47KB]
- Trwy ddidyniadau o'ch cyflog
- Os ydych chi'n gweithio i Gyngor Abertawe ffoniwch ni ar 01792 635877 i wneud y trefniadau angenrheidiol
- Ar gyfer gweithwyr/cyflogwyr sefydliadau eraill - gweler Atodiad Enillion Uniongyrchol (DEA)
Rhagor o wybodaeth
Os oes angen rhagor o gymorth neu wybodaeth arnoch, gallwch gysylltu â ni drwy'r dulliau isod:
- ffoniwch: 01792 635877
- e-bostiwch: Gordaliadau.Budd-daliadau@abertawe.gov.uk