Toglo gwelededd dewislen symudol

Grant Gaeaf Llawn Lles 2024 / 2025 - COAST

Mae Cronfa COAST yn adeiladu ar rowndiau blaenorol COAST a'i rhagflaenwyr. Mae'n ceisio darparu gweithgareddau am ddim neu fforddiadwy i bobl sy'n preswylio neu'n cael eu cefnogi yn Abertawe.

Mae Cronfa Grant Gweithgareddau COAST wedi'i hariannu gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU.

Bydd y gronfa'n targedu gweithgareddau'n benodol ar gyfer:

  • Plant, pobl ifanc a theuluoedd - a ddarperir yn ystod gwyliau ysgol a phenwythnosau tan 28 Chwefror 2025.
  • Pobl dros 50 oed - a ddarperir rhwng 14 Rhagfyr 2024 a 28 Chwefror 2025.

I gyflawni hyn, rydym yn darparu cyllid i gyflwyno cyfleoedd a gweithgareddau sydd:

  • Am ddim / fforddiadwy i bobl sy'n gymwys ar eu cyfer.
  • Yn hawdd eu cyrchu ac yn cael eu cynnal o fewn cymunedau lleol.
  • Yn briodol i oedran.
  • Yn cefnogi mynediad cyfartal i bobl o bob gallu.

Amlinellir rhai ystyriaethau isod:

  • Sicrhau bod rhaglen gynhwysol a chytbwys o weithgareddau sy'n briodol i oedran, y gall pawb sydd am gymryd rhan gael mynediad atynt yn hawdd.
  • Cynnig amrywiaeth o weithgareddau chwarae, chwaraeon, diwylliannol ac eraill mewn amrywiaeth o leoliadau.
  • Lle bynnag y bo modd, dylid cynnal gweithgareddau mewn lleoliadau hygyrch y gellir eu cyrraedd ar droed neu ar gludiant cyhoeddus.
  • Dylai ceisiadau ar gyfer prosiectau a gyflwynir gan ddarparwyr / grwpiau / glybiau presennol fod yn ychwanegol at weithgareddau neu ddarpariaeth.
  • Bydd ceisiadau ar gyfer gweithgareddau rheolaidd grŵp gyda'i garfan sefydledig yn aflwyddiannus.
  • Ni fydd teithiau y tu allan i ardal Abertawe'n gymwys am gyllid.

Bydd angen gwario'r cyllid erbyn 28 Chwefror 2025.

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 12 Tachwedd 2024