Toglo gwelededd dewislen symudol

Grant Gaeaf Llawn Lles 2024 / 2025 - Lleoedd Llesol Abertawe

Diben y cyllid yw helpu i ddarparu lleoedd diogel a chynnes yn y gymuned leol y gall pobl fynd iddynt i elwa o gysylltiadau cymdeithasol.

Mae Lleoedd Llesol Abertawe'n rhaglen sy'n seiliedig ar leoedd.

Diben y cyllid yw helpu i ddarparu lleoedd diogel a chynnes yn y gymuned leol y gall pobl fynd iddynt i elwa o gysylltiadau cymdeithasol. Mae Lleoedd Llesol Abertawe'n agored i bawb, gan gynnwys pobl hŷn neu ddiamddiffyn, gweithwyr cartref, pobl sy'n ynysig.

Gellir defnyddio cyllid i sefydlu / ailsefydlu lleoedd ac ychwanegu gwerth at y rhai hynny sydd eisoes ar waith i gefnogi lles economaidd a chymdeithasol pobl yn Abertawe.

Yn hytrach na disodli neu ddyblygu darpariaethau presennol, bwriedir i'r cyllid hwn gael ei ddefnyddio i estyn neu ehangu lleoedd llesol presennol yn Abertawe neu ddatblygu rhagor ohonynt. Dylid defnyddio'r cyllid i gefnogi'n uniongyrchol Leoedd Llesol Abertawe a'r bobl sy'n eu defnyddio ac ar gyfer unrhyw gostau ychwanegol sy'n gysylltiedig â Lleoedd Llesol Abertawe.

Disgwylir y bydd y cyllid yn cefnogi lleoedd sy'n cynnig amgylchedd croesawgar, hygyrch, diogel a chynnes i unigolion. Bydd y rhain yn fwy na lleoedd cynnes i unigolion fynd iddynt. Byddant hefyd yn lleoedd croesawgar, agored a chynhwysol a fydd ar gael i bawb yn y gymuned.

Bydd y ffocws ar nodi anghenion lleol ac ymateb mewn modd sy'n diwallu'r anghenion hynny.

Gallai darparwyr lleoedd diogel a chynnes gynnwys:

  • lluniaeth sylfaenol a byrbrydau (fel gofyniad lleiaf) yn ogystal â darparu pryd mwy sylweddol lle y bo modd;
  • darparu gwasanaethau cyngor a chymorth i'r rhai hynny sy'n eu defnyddio, e.e. cyngor a chymorth ar faterion ariannol, iechyd a lles neu hygyrchedd digidol;
  • gweithgareddau cyfoethogi eraill megis ymarfer corff, y celfyddydau neu weithgareddau diwylliannol (yn amodol ar leoliad ac argaeledd).

Mae enghreifftiau o wariant cymwys yn cynnwys ond nid yw'n gyfyngedig i'r canlynol:

  • darparu lluniaeth, byrbrydau, a phrydau bwyd mwy sylweddol os bydd hynny'n berthnasol i'r lleoliad;
  • costau ychwanegol sy'n gysylltiedig ag ymestyn oriau agor cyfleusterau presennol neu gyfraniadau at wres a golau os caiff cyfleusterau eu hagor yn benodol;
  • costau ychwanegol sy'n ymwneud â chostau glanhau, cael gwared ar sbwriel (e.e. neuaddau cymunedol);
  • cyfarpar i helpu i addasu lleoedd, cadeiriau, byrddau;
  • cyfraniad at gostau rhyngrwyd (yn enwedig i helpu i ddarparu gwasanaeth cynghori mewn ardaloedd / canolfannau cymunedol) - ni ragwelir y bydd hyn yn cynnwys costau sy'n ymwneud â chaledwedd;
  • cyfleusterau ar gyfer gwefru ffonau symudol/cyfarpar TG;
  • eitemau bach fel tegellau, cwpanau, platiau, etc;
  • eitemau / gweithgareddau cyfoethogi;
  • cludiant i Leoedd Llesol Abertawe ac yn ôl - yn dibynnu ar anghenion unigolion;
  • costau gwirfoddolwyr;
  • cynyddu ymwybyddiaeth o Leoedd Llesol Abertawe a'u hyrwyddo.

Bydd angen gwario'r cyllid erbyn 31 Mawrth 2025

 

Lleoedd Llesol Abertawe

Lleoedd yn Abertawe sy'n cynnig croeso cynnes i breswylwyr.

Cofrestrwch eich lleoliad ar gyfer ein rhestr o Leoedd Llesol Abertawe

Os ydych yn sefydliad neu'n fusnes sydd am helpu pobl Abertawe drwy gynnig lleoliad cynnes, diogel rhowch wybod i ni a byddwn yn eich ychwanegu at ein cyfeiriadur.
Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 08 Tachwedd 2024