Toglo gwelededd dewislen symudol

Calendr Cynllunio Digwyddiadau y Grŵp Cynghori ar Ddiogelwch

Gellir edrych ar galendr osgoi gwrthdaro'r Grŵp Cynghori ar Ddiogelwch ar y dudalen hon.

Darperir yr wybodaeth ganlynol i helpu partïon â diddordeb i gynllunio dyddiadau eu digwyddiadau ac i hysbysu rhanddeiliaid am weithgareddau a gynllunnir yn y dyfodol.

Gallwch ddewis pa fath o ddigwyddiadau i'w gweld yn y calendr trwy glicio ar y saeth ar ochr dde uchaf y calendr a dewis/dad-ddewis y categorïau.

Os ydych am ychwanegu dyddiadau i'r dyddiadur hwn neu'n sylwi ar unrhyw gamgymeriadau, e-bostiwch special.events@abertawe.gov.uk gyda'r wybodaeth ganlynol:

  • Teitl y Digwyddiad
  • Dyddiad dechrau
  • Dyddiad dod i ben
  • Lleoliad
  • Disgrifiad
  • Manylion cyswllt y trefnydd*

*Dylai'r manylion cyswllt fod yn wybodaeth y mae'r trefnydd yn hapus i'w gael yn gyhoeddus.

Er y gwneir pob ymdrech i gadw'r wybodaeth hon mor gywir â phosib, fe'i cynhyrchir fel canllaw yn unig a chyfrifoldeb eraill yw gwirio cywirdeb dyddiadau wrth gynllunio digwyddiadau. Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu ymholiadau, e-bostiwch special.events@abertawe.gov.u

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 15 Ionawr 2025