Gwahardd o ysgolion ac unedau cyfeirio disgyblion
Os yw eich plentyn wedi'i wahardd neu mae'n wynebu cael ei wahardd, yna gall yr wybodaeth ganlynol fod o gymorth i chi.
Dim ond pennaeth (neu berson sy'n gweithredu ar ran y pennaeth yn ei absenoldeb) sy'n gwneud penderfyniad i wahardd disgybl am gyfnod penodol neu'n barhaol a dylai'r penderfyniad gael ei wneud dan yr amgylchiadau canlynol:
- Mewn ymateb i achosion difrifol o dorri polisi disgyblu'r ysgol
- Petai caniatau i'r disgybl barhau i fod yn yr ysgol, y byddai niwed difrifol i addysg neu les y disgybl neu bobl eraill yn yr ysgol.
Beth sy'n digwydd os yw fy mhlentyn wedi cael ei wahardd?
Pan fydd y penderfyniad wedi'i wneud i wahardd disgybl, dylai'r 'person priodol', fel arfer rhiant neu ofalwr, gael ei hysbysu ar unwaith, yn ddelfrydol dros y ffon neu drwy ffordd resymol arall, ac yna llythyr o fewn un diwrnod ysgol.
Os yw'r disgybl yn 11 oed neu'n hyn, dylai'r ysgol anfon llythyr ato hefyd. Fel arfer, gwahoddir rhieni a disgyblion i gyfarfod yn yr ysgol er mwyn trafod unrhyw faterion ynghylch y gwahardd.
Bydd cyfle hefyd i gwrdd a Phwyllgor Disgyblu Disgyblion y corff llywodraethu i drafod y gwahardd. Mae rol y Pwyllgor Disgyblu Disgyblion yn cynnwys adolygu'r defnydd o wahardd mewn ysgolion.
Gwahardd 1 - 5 diwrnod mewn tymor
Gall rhieni ofyn i gwrdd a'r Pwyllgor Disgyblu Disgyblion. Rhaid i'r pwyllgor gwrdd ond ni allant ganiatau i'r plentyn ddychwelyd i'r ysgol.
Gwaharddiad 6 - 15 diwrnod mewn tymor
Gall rhieni ofyn i gwrdd a'r Pwyllgor Disgyblu Disgyblion. Ni ddylai'r pwyllgor gwrdd cyn y 6ed diwrnod ysgol ac erbyn yr hanner canfed diwrnod ysgol fan bellaf ar ol diwrnod cyntaf y gwahardd, os bydd y rhiant/disgybl yn gofyn am gyfarfod.
Gwahardd 16 diwrnod neu'n fwy mewn tymor
Ni ddylai'r Pwyllgor Disgyblu Disgyblion gwrdd cyn y 6ed diwrnod ysgol ac erbyn y 15fed diwrnod ysgol fan bellaf ar ol diwrnod cyntaf y gwahardd a rhaid i'r rhiant/disgybl gael gwahoddiad i gyflwyno'i farn.
Gwahardd parhaol
Ni ddylai'r Pwyllgor Disgyblu Disgyblion gwrdd cyn y 6ed diwrnod ysgol ac erbyn y 15fed diwrnod ysgol fan bellaf ar ol diwrnod cyntaf y gwahardd a rhaid i'r rhiant/disgybl gael gwahoddiad i gyflwyno'i farn.
Panel apel annibynnol
Pan fydd Pwyllgor Disgyblu Disgyblion yn cadarnhau penderfyniad y Pennaeth i wahardd disgybl yn barhaol, bydd gan y disgybl a'i riant hawl i apelio i Banel Apeliadau Annibynnol.
Mae'r arweiniad canlynol ar gael i rieni a disgyblion sy'n ystyried Apel Annibynnol:
- Arweiniad am apeliadau gwaharddiad - cyngor i rieni / gofalwyr
- Arweiniad am apeliadau gwaharddiad - cyngor i ddisgyblion ysgolion uwchradd
Gwybodaeth a chyngor
Os hoffech gyngor ynghylch y broses wahardd, cyswlltiwch Yr Uned Ysgolion a Llywodraethwyr.
Mae gwybodaeth hefyd ar gael yng nghyhoeddiad Llywodraeth Cymru 'Ydych chi'n cael eich gwahardd o'r ysgol?'.