Gwaith adeiladu neu addasiadau sy'n effeithio ar y briffordd, yn hongian neu'n estyn allan drosti neu'n gorgyffwrdd â hi e.e. inswleiddio waliau allano
Os rydych eisiau adeiladu neu addasu'ch eiddo mewn modd a fydd yn peri i'r gwaith estyn allan dros y briffordd neu orgyffwrdd â hi, bydd yn rhaid i chi geisio caniatâd gennym.
Ni chyflwynir hawlen os bydd yn peri aflonyddwch neu anghyfleuster i bobl sy'n defnyddio'r briffordd neu'r llwybr troed.
Bydd angen i chi gael yswiriant atebolrwydd cyhoeddus gwerth o leiaf £5 miliwn. Rhaid cyflwyno copi cyfredol o'ch tystysgrif yswiriant gyda'ch cais. Byddwch yn gallu lanlwytho fersiwn electronig fel rhan o'r ffurflen.
Bydd hefyd angen i chi ddarparu copïau o'r cynllun safle a'r cynllun lleoliad. Gellir lanlwytho fersiynau electronig o'r cynlluniau hyn fel rhan o'r ffurflen. The copy of the site plan should show the applicant's property marked in red and proposed works. The location plan should be in a scale should show the location of the site in relation to its surroundings.
Dylid talu ffi o £60.00 fesul cais. Rhaid i chi gyflwyno'ch ffi gyda'r cais.
Caniatâd Dealledig
Er budd y cyhoedd mae'n rhaid i'r awdurdod brosesu eich cais cyn iddo gael ei ganiatáu. Os nad ydych wedi clywed gennym o fewn cyfnod rhesymol, e-bostiwch Priffyrdd@abertawe.gov.uk
Os oes gennych unrhyw broblemau gyda'ch cais neu os oes angen mwy o wybodaeth arnoch, ffoniwch ni ar 01792843330 neu e-bostiwch Priffyrdd@abertawe.gov.uk.