Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwasanaethau Cymdeithasol - Polisi Codi Ffïoedd

Lluniwyd y polisi hwn yn unol â'r gofynion cyfreithiol a amlinellir yn Neddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 ("y Ddeddf") ac mae'n nodi sefyllfa Cyngor Abertawe o ran codi ffïoedd am wasanaethau cymdeithasol.

Cofnod newidiadau:

Polisi Codi Ffïoedd (Gwasanaethau Cymdeithasol) Fersiwn 4
Dyddiad pan ddaw'r Polisi Diwygiedig i Rym (Fersiwn 4): Ebrill 2023
Dyddiad yr Adolygiad Nesaf: erbyn diwedd Mawrth 2026
Perchennog y Polisi: Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol
Llywodraethu: polisi diwygiedig wedi'i gymeradwyo gan Grŵp Cyllid a Chodi Ffïoedd am Wasanaethau Cymdeithasol ym mis Rhagfyr 2022

Prif Newidiadau fel y'u gwnaed i fersiwn 3 (cymeradwywyd gan Grŵp Cyllid a Chodi Ffïoedd am Wasanaethau Cymdeithasol):

  • Clawr- dileu Cyfarwyddiaeth Pobl/Diweddaru'r Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol
  • Ychwanegu Cofnod Newidiadau, ychwanegu taflen reoli newydd
  • Cynnwys / rhifo tudalennau
  • Dileu cyfeiriadau at 'y Ddeddf' fel rhai newydd
  • Y dyddiad y mae'r polisi newydd yn berthnasol (yn amodol ar gymeradwyaeth)
  • NODYN PWYSIG (tud4) Nid yw dull Abertawe o godi ffïoedd wedi newid yn y polisi diwygiedig hwn.
  • Adran 12 - newidiadau i adlewyrchu'r broses adolygu flynyddol a'r rhagolygon chwyddiant ychwanegol
  • Rhestr o Ffïoedd ddiweddaraf i'w rhoi ar waith yn ystod y flwyddyn i ddod wedi'i hatodi i'r polisi (ond ar gael drwy wefan gyhoeddus).
  • Rhai newidiadau gramadegol/atalnodi fel yr awgrymwyd.
  • Newidiadau i dablau adran 7 i adlewyrchu'r sefyllfa bresennol.
  • Ychwanegwyd yn Atodiad 1: Rhestr o Ffïoedd i'w rhoi ar waith - dolen i wefan gyhoeddus ar gyfer y fersiwn ddiweddaraf.
  • Atodiad 2 - dolenni wedi'u diweddaru i Reoliadau/Godau Ymarfer Llywodraeth Cymru sy'n ymwneud â chodi tâl am wasanaethau cymdeithasol (wedi'u tynnu o'r prif bolisi).
  • Dolen wedi'i diweddaru i'r polisi cyfredol ar wefan gyhoeddus newydd.

 


Cynnwys:

  1. Cyflwyniad
  2. Fframwaith cyfreithiol
  3. Esboniad o godi ffïoedd ac asesiadau ariannol, a'r gwasanaethau sy'n gynwysedig
  4. Beth yw asesiad ariannol?
  5. Asesiadau ariannol ac asesiadau o anghenion gofal
  6. Ymagwedd Cyngor Abertawe at ffïoedd
  7. Ffïoedd am wasanaethau gofal a chefnogaeth
  8. Cyfrifo faint y bydd person yn ei dalu tuag at ei ofal
  9. Sut y cynhelir asesiad ariannol
  10. Hawliau dinasydion
  11. Datganiad o Ffïoedd
  12. Codiadau i'r ffïoedd
  13. Gofal dibreswyl
  14. Gofal Preswyl (tymor hir), tymor byr (seibiant), preswyl (dros dro)
  15. Hunanariannwyr
  16. Gwasanaethau Plant a Theuluoedd
  17. Taliadau Uniongyrchol
  18. Gwasanaethau Eraill
  19. Galluedd meddyliol
  20. Cytundebau Taliadau Gohiriedig (DPA)
  21. Adolygiadau

Atodiad 1: Rhestr o ffïoedd (yn dilyn yr adolygiad blynyddol) - dolen i'r wefan gyhoeddus
Atodiad 2: Dolenni i Reoliadau/Godau Ymarfer Llywodraeth Cymru sy'n ymwneud â chodi ffïoedd am wasanaethau cymdeithasol

 

 

1.  Cyflwyniad

1.1.  Daeth Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) i rym ar 6 Ebrill 2016. Newidiodd hon y ffordd y darperir gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru er mwyn diwallu anghenion yr unigolyn a sicrhau bod gwasanaethau'n gynaliadwy ar gyfer y dyfodol. 

Mae'r Ddeddf yn rhoi llais cryfach i bobl a rheolaeth iddynt dros y gefnogaeth y mae ei hangen arnynt er mwyn chwalu'r rhwystrau i'w lles. Mae'n canolbwyntio ar ymyrryd yn gynnar er mwyn atal anghenion rhag troi'n argyfwng, ac mae'n hybu buddsoddiad adnoddau yn y tymor byr er mwyn sicrhau'r gwerth gorau posib i gyllid cyhoeddus yn gyffredinol.

Mae'r Ddeddf hefyd yn hyrwyddo integreiddio'r sectorau iechyd a gofal cymdeithasol i'r graddau mwyaf sy'n bosib er mwyn sicrhau canlyniadau lles.

O dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (Deddf GCLl), gall awdurdod lleol godi ffi:

  • hyd at y gost o ddarparu'r gwasanaeth
  • y gall y person ei fforddio yn unig.

1.2    Lluniwyd y polisi hwn yn unol â'r gofynion cyfreithiol a amlinellir yn Neddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 ("y Ddeddf") ac mae'n nodi sefyllfa Cyngor Abertawe o ran codi ffïoedd am wasanaethau cymdeithasol.

Daeth polisi codi ffïoedd am wasanaethau cymdeithasol Cyngor Abertawe i rym ar 6 Ebrill 2016 ar gyfer pob cleient gwasanaethau cymdeithasol, gyda fersiwn 4 y Polisi yn disodi fersiwn 3, i ddod i rym o 1 Ebrill 2023.

Nodyn pwysig: NID YW DULL Abertawe o godi ffïoedd am ofal cymdeithasol wedi newid yn y fersiwn ddiweddaraf hon. Mae'r polisi wedi'i adolygu o ran cywirdeb, a'i ddiweddaru, fel rhan o'r adolygiad blynyddol o daliadau gwasanaethau cymdeithasol. Mae'r Rhestr Ffïoedd i'w cyflwyno yn y flwyddyn i ddod yn cael ei hadolygu'n flynyddol, a rhaid i'r Cabinet gytuno ar hyn cyn ei chyhoeddi.

1.3  Bwriedir i'r fframwaith cyfreithiol cenedlaethol gynnwys gwasanaethau cymdeithasol i oedolion a phlant ac mae'n mynnu bod yr awdurdod lleol yn disodli'r trefniadau codi ffïoedd teg a'r arweiniad ar godi ffïoedd am lety preswyl i greu un Polisi Codi Ffïoedd.

Mae Polisi Codi Ffïoedd Cyngor Abertawe (y Gwasanaethau Cymdeithasol) yn manylu ar y canlynol:

i.    Fframwaith codi ffïoedd cenedlaethol Llywodraeth Cymru.

ii.   Ein hymagwedd a'r egwyddorion allweddol sy'n sail i'r ffïoedd a godir.

iii.  Sut y codir ffïoedd am wahanol fathau o wasanaethau a chefnogaeth ac nid am eraill.

iv.  Sut y bydd newidiadau'n effeithio ar wasanaethau yn y gymuned, gofal preswyl, taliadau uniongyrchol, gwasanaethau i blant a theuluoedd, gofal seibiant a gwasanaethau eraill.

v.   Sut y bydd unrhyw ddisgresiwn a roddir i awdurdodau lleol yn cael ei weithredu'n ymarferol, gan gynnwys cytundebau talu wedi'u gohirio.

vi.  Prosesau asesu ariannol, gan gynnwys adolygiadau ac apeliadau.

vii. Rhestr o ffïoedd sy'n berthnasol yn y flwyddyn i ddod (wedi'i hatodi).

 

2.  Fframwaith cyfreithiol

2.1 Mae'r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, Rheoliadau Gofal a Chymorth (Gosod Ffïoedd) (Cymru) 2015 a'r Côd Ymarfer a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru'n pennu'r gofynion y mae'n rhaid i awdurdodau lleol eu bodloni wrth benderfynu a ddylid codi ffi am wasanaethau gofal a chefnogaeth neu beidio ac wrth asesu cyfraniad y cleient tuag at y costau hynny. Er enghraifft:

i.  Gall pobl sydd ag anghenion gofal a chefnogaeth fod yn destun asesiad ariannol er mwyn cyfrifo faint y mae'n rhaid iddynt ei dalu, pa gefnogaeth bynnag y maent yn ei derbyn.

ii.  Ceir uchafswm ffi wythnosol ar gyfer gofal a chefnogaeth ddibreswyl (sy'n cynnwys seibiannau preswyl) ac ni fydd unrhyw un yn talu mwy na hynny ar gyfer gofal a chefnogaeth ddibreswyl.

iii.  Bydd person y mae cyfanswm ei asedau yn fwy na'r terfyn cyfalaf a osodwyd yn atebol am dalu'r costau llawn os yw'n penderfynu byw mewn cartref gofal preswyl.

iv.  Wrth ddefnyddio Adran 5.12 (Rhan 5 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014), gall pobl fod yn gymwys ar gyfer 6 wythnos o ofal yn y cartref am ddim, lle darperir gofal a chefnogaeth fel gwasanaeth 'ailalluogi' o dan Ran 2 o'r Ddeddf.

v.  Ceir eithriadau rhag codi ffi lle mae'r gwasanaethau a'r gefnogaeth yn cael eu darparu o dan adran 117 o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983 ac yn achos pobl sy'n dioddef o Glefyd Creutzfeldt-Jacob sy'n derbyn gofal a chefnogaeth.

vi.  Ni ddylid codi ffi ar unrhyw un am wybodaeth neu gyngor.

vii.  Mae'n bosib y codir ffi am helpu pobl neu ofalwyr i ddod o hyd i wasanaethau penodol a'u defnyddio.

viii.  Rhaid i gynghorau lleol sicrhau bod pawb yn ymwybodol o'r ffi sy'n cael ei chodi arnynt a pham (Datganiad o Ffïoedd).

Yn fyr, rhaid i awdurdodau lleol sicrhau na chodir mwy ar bobl nag y mae'n rhesymol ymarferol iddynt dalu am eu gwasanaethau ac ni ddylent godi mwy na'r gost i'r awdurdod o ddarparu neu drefnu'r gofal a'r cymorth y maent yn eu derbyn neu y maent yn eu derbyn eu hunain drwy daliadau uniongyrchol.

2.2 Crynodeb o'r fframwaith deddfwriaethol codi ffïoedd ac asesiadau ariannol cenedlaethol.

i.  Mae'r Ddeddf yn darparu ar gyfer un fframwaith cyfreithiol ar gyfer codi ffi am ofal a chymorth, neu yn achos gofalwr, ar gyfer codi ffi am gymorth. Bwriad y fframwaith codi ffïoedd ac asesu ariannol a gyflwynir gan y Ddeddf yw gwneud y broses o godi ffi yn gyson, yn deg ac yn ddealladwy.

ii.  Dylid darparu gwybodaeth benodol i berson cyn iddo gael ei asesu, gan adael 15 niwrnod gwaith iddo ddarparu'r wybodaeth a'r ddogfennaeth sydd ei hangen ar yr awdurdod.

iii.  Lle mae person yn breswylydd dros dro (hynny yw, arhosiad nad yw'n para mwy nag wyth wythnos, a elwir yn ofal seibiant yn aml) mewn cartref gofal, a phan fydd awdurdod lleol yn arfer ei ddisgresiwn i godi ffi am yr arhosiad hwn, mae'n rhaid i'r awdurdod lleol gynnal asesiad ariannol o foddau'r person i dalu amdano fel petai'r person yn derbyn gofal a chefnogaeth ddibreswyl neu'n derbyn taliadau uniongyrchol ar gyfer gofal a chefnogaeth ddibreswyl.

iv.  Diystyrir incwm o Bensiwn Anabledd Rhyfel.

v.  Gofyniad i roi llawer o wybodaeth i gleient cyn y gellir cynnal asesiad ariannol.

vi.  Rhaid darparu datganiad o ffïoedd, cyfraniad neu ad-daliad cyn y gellir casglu'r ffi. Bydd ffi'n berthnasol o'r adeg y mae person yn dechrau derbyn gofal a chefnogaeth.

vii.  Y gallu i ohirio cytundeb taliadau gohiriedig os yw incwm yr unigolyn yn fwy na'r lleiafswm warant addas.   

vii.  Y gallu i godi llog a ffïoedd gweinyddol ar y swm a ohirir er mwyn sicrhau bod cytundebau'n fforddiadwy i awdurdodau lleol.

ix.  Bydd y broses ar gyfer adolygu ffïoedd a phenderfynu a ddylid codi ffïoedd ar gyfer gofal dibreswyl yn cael ei hestyn i ofal preswyl.

 

3. Esboniad o godi ffïoedd ac asesiad ariannol

3.1  Mae polisi Cyngor Abertawe yn dilyn rheoliadau a chanllawiau Llywodraeth Cymru drwy sicrhau ei fod yn gweithredu un 'polisi codi ffi', sy'n cydymffurfio â gofynion Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.

3.2  Disgresiwn cyngor i godi ffi am wasanaethau cymdeithasol

O dan y Ddeddf, mae gan bob awdurdod lleol ddisgresiwn i godi ffi, neu bennu cyfraniad tuag at gostau gofal cymdeithasol neu ad-daliad ar gyfer taliadau uniongyrchol.  Wrth wneud hyn, mae'n rhaid i'r awdurdod ddilyn y gofynion a nodwyd yn y Ddeddf, y Rheoliadau a'r Côd Ymarfer.

Wrth osod y ffïoedd hyn, ni all yr awdurdod lleol godi ffi ar unigolion penodol (eithriadau) na chodi ffi am fathau penodol o ofal a chefnogaeth, a rhaid iddo roi 'cyfyngwyr' ariannol penodol ar waith er mwyn sicrhau y gall yr unigolyn dalu'r ffi'n rhesymol a chadw rhywfaint o'i incwm hefyd i dalu costau byw o ddydd i ddydd.

Mae'r 'cyfyngwyr' neu'r rheolau hyn yn amrywio gan ddibynnu a yw'r person yn derbyn gofal a chefnogaeth breswyl neu ddibreswyl. Er enghraifft:

i.  Mae'n ofynnol i berson dalu hyd at swm uchafswm wythnosol gosodedig ar gyfer gofal a chefnogaeth ddibreswyl.

ii.  Gall person gadw rhywfaint o'i asedau cyfalaf na ellir ei ddefnyddio i dalu costau gofal a chefnogaeth.

iii.  Bellach, mae'n ofynnol i awdurdod lleol ddarparu datganiad o ffïoedd, ad-daliad neu gyfraniad y cytunwyd arno ac adolygu'r datganiad hwn fel bo angen.

iv.  O dan rai amgylchiadau, gall awdurdod lleol osod ffi cyfradd safonol am wasanaethau ataliol a 'chymorth'.

3.3  Ar gyfer pa wasanaethau gofal a chefnogaeth y gall awdurdod lleol arfer ei ddisgresiwn i godi ffi

a)  Gall Gofal a Chefnogaeth gynnwys un gwasanaeth neu fwy o amrywiaeth o wasanaethau, gan gynnwys:

  • Cymorth (Rhan 2 o'r Ddeddf: Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth).
  • Ailalluogi - gwella sgiliau byw beunyddiol ar ôl arhosiad yn yr ysbyty neu gyfnod o salwch
  • Gofal dibreswyl (Gofal yn y Cartref / Gofal Cartref).
  • Gofal seibiant preswyl neu seibiannau byr.
  • Gofal Preswyl.
  • Gofal dydd, p'un a yw person yn mynd i ganolfan ddydd neu'n cymryd rhan mewn gweithgareddau eraill yn ystod y dydd.
  • Cefnogaeth hyblyg / cefnogaeth i'r teulu.
  • Offer cymunedol a mân addasiadau.
  • Llinellau bywyd ac offer a gwasanaethau Tele-ofal eraill.
  • Trefniadau byw â chymorth.
  • Cludiant.
  • Sebiannau yn y gymuned..
  • Gwasanaethau a ariennir ar y cyd.

b)  Gall gofal a chefnogaeth ddiwallu anghenion yn y meysydd canlynol:

  • Y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd (adran 14 o'r polisi hwn)
  • Taliadau uniongyrchol (adran 15 y polisi hwn)
  • Cefnogaeth i ofalwyr (adran 16 y polisi hwn)
  • Gwasanaethau ataliol (adran 16 y polisi hwn)
  • Sefydliadau Diogel (adran 16 y polisi hwn)
  • Penodeiaeth (adran 16 y polisi hwn).

Bydd gwybodaeth i'r cyhoedd am godi ffïoedd ar gael i ddinasyddion, eu gofalwyr neu eu heiriolwyr yn ystod y broses asesu i sicrhau eu bod yn ymwybodol o'r ffaith ein bod yn codi ffïoedd am wasanaethau gofal cymdeithasol a beth mae hynny'n ei olygu iddynt.

 

4.  Beth yw Asesiad Ariannol?

4.1  Mae'r Rheoliadau'n amlinellu cyfres o ofynion y mae'n rhaid i awdurdod lleol eu hystyried wrth ymgymryd ag asesiad ariannol o allu person i dalu ffi, neu wrth osod cyfraniad tuag at eu costau gofal cymdeithasol neu ad-daliad i berson sy'n derbyn taliadau uniongyrchol (gweler pwynt 2.2).   

4.2  Mae'r Rheoliadau'n nodi'r wybodaeth y mae'n rhaid i'r awdurdod ei rhoi i berson cyn cynnal asesiad ariannol, faint o amser sydd gan awdurdod lleol i ofyn am wybodaeth gan berson a'i derbyn, a'r prosesau sy'n dilyn.

4.3  Mae'r Rheoliadau hefyd yn pennu'r amgylchiadau lle nad oes dyletswydd i gwblhau asesiad ariannol (Eithriadau). Mae'r rheoliadau hyn hefyd yn cynnwys cyfarwyddiadau ar drin a chyfrifo incwm a chyfalaf. Mae atodlenni gwahanol yn nodi mathau penodol o asedau cyfalaf ac incwm ac yn nodi sut y dylid ymdrin â phob un ohonynt yn ystod asesiad ariannol.

4.4  Unwaith y bydd asesiad ariannol wedi'i gwblhau, anfonir datganiad o'r ffi asesedig at y cleient (neu ei gynrychiolydd ariannol).

4.5  Disgresiwn i ddefnyddio meini prawf y penderfynwyd arnynt yn lleol mewn asesiadau ariannol. Mae'n rhaid i awdurdodau lleol benderfynu pa lwfansau, anwybyddiadau neu agweddau eraill yr hoffent eu cynnwys yn yr asesiadau ariannol y maent yn eu cynnal y tu hwnt i'r rheini sy'n ofynnol yn ôl y gyfraith. Nid oes unrhyw newidiadau yn y polisi diwygiedig hwn i sut mae'r fframwaith cenedlaethol, a'r rhestr o ffïoedd, yn cael eu cymhwyso'n lleol.

4.6  Mae'n rhaid i unrhyw lwfansau dewisol, mewn achos o galedi er enghraifft, gael cytundeb ysgrifenedig gan Bennaeth Gwasanaethau i Oedolion neu gan Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol, a chaiff y cytundeb hwn ei ddatgan yn eglur yn yr asesiad ariannol a'r cynllun gofal a chefnogaeth.

4.7  Os penderfynir caniatáu lwfans gan Bennaeth Gwasanaethau i Oedolion, yna dylai'r penderfyniad barhau tan i'r cynllun gofal a chefnogaeth gael ei adolygu neu y cynhelir asesiad ariannol newydd.

O dan y Polisi Codi Ffïoedd hwn, dylid adolygu'n flynyddol ddisgresiwn yr awdurdod lleol mewn perthynas â'r gwasanaethau y codir ffïoedd amdanynt, ynghyd â'r eithriadau, y cyfraniadau neu'r ad-daliadau, ochr yn ochr â'r rhestr o ffïoedd (atodwyd - ar gael drwy wefan: Polisi Codi Tâl (y Gwasanaethau Cymdeithasol)).

 

5.  Asesiadau ariannol ac asesiadau o anghenion gofal

5.1 Er y darperir rhai mathau o ofal cymdeithasol a chefnogaeth am ddim, codir ffi am rai ohonynt. Ar ôl i'r awdurdod gwblhau asesiad o anghenion gofal i weld faint o gymorth y mae ei angen ar berson a faint y bydd yn ei gostio i'w ddarparu, bydd y cyngor, lle y bo'n briodol, yn cynnig cynnal asesiad ariannol i gyfrifo faint o'r gost honno y bydd y cyngor yn ei thalu, a faint y gall y person fforddio'i dalu ei hun. Yn ystod y broses asesu ariannol, gofynnir i ddefnyddiwr y gwasanaeth ddatgan ei incwm, ei gynilon a'i gyfalaf a darparu tystiolaeth o'r rhain.  Rhoddir cyfnod penodol o amser iddo wneud hyn. Os na chaiff yr wybodaeth neu'r dystiolaeth angenrheidiol ei rhoi mewn da bryd, bydd gofyn i ddefnyddiwr y gwasanaeth ariannu ei ofal ei hun (yn amodol ar unrhyw gyfyngiadau a nodir yn y ddeddfwriaeth berthnasol).

5.2 Fel arfer, bydd unrhyw ostyngiad yn y cyfraniad llawn a gyfrifir gan yr asesiad ariannol yn weithredol o'r un dyddiad ag y mae'r gofal a nodwyd yn asesiad o anghenion defnyddiwr y gwasanaeth yn dechrau. Ar gyfer unrhyw gyfnod nad yw wedi'i gynnwys mewn asesiad o anghenion gofal, bydd angen i ddefnyddiwr y gwasanaeth ariannu ei ofal ei hun. Adolygir y swm y mae'n ofynnol i berson ei dalu o leiaf unwaith bob blwyddyn. Os bydd amgylchiadau personol neu ariannol defnyddiwr gwasanaeth yn newid, ei gyfrifoldeb ef (neu ei gynrychiolydd) yw hysbysu'r cyngor o unrhyw newidiadau.

 

6.  Ymagwedd Cyngor Abertawe at godi ffïoedd

6.1  Yn ôl ymagwedd Cyngor Abertawe at godi ffïoedddylai gefnogi blaenoriaethau strategol corfforaethol, dylai fod yn gynaliadwy yn y tymor hwy a dylid gweithredu trefniadau codi tâl mewn ffordd deg a chyson. Hynny yw, dylid trin yr holl gleientiaid yn gyfartal lle mae ganddynt anghenion gofal a chefnogaeth gymharol yn gyffredinol. O ganlyniad, dylai'r un ffïoedd fod yn berthnasol, gan ddibynnu ar yr asesiad ariannol.

6.2  Mae'r Ddeddf yn caniatáu i awdurdodau lleol weithredu'n fasnachol ac ennill incwm o'r broses codi ffioedd.  Mae hyn yn rhan bwysig o'r opsiynau amrywiol sy'n ein helpu i reoli ein hadnoddau'n effeithiol. Gall codi ffïoedd helpu'r cyngor i ddiwallu anghenion poblogaeth leol sy'n cynyddu wrth i adnoddau leihau.

Wrth i fodelau newydd o ddarparu gwasanaethau sy'n grymuso oedolion ac yn rhoi mwy o reolaeth iddynt gael eu comisiynu neu eu darparu, gan gefnogi pobl i fod yn fwy annibynnol, gall fod angen ystyried ymhellach yr ystod lawn o ffïoedd a nodir yn y polisi hwn.

6.3  Crynodeb o'r Rheoliadau Gosod Ffïoedd o dn y Ddeddf

  • Mae Adran 59 yn rhoi disgresiwn i'r awdurdod lleol godi ffi am y gofal a'r gefnogaeth y mae'n eu darparu neu'n eu trefnu, neu am gefnogaeth i ofalwr, o dan adrannau 35 i 45 y Ddeddf er mwyn diwallu anghenion unigolyn.
  • Mae adran 60 i 62, 66 a 67yn amlinellu, neu'n caniatáu amlinellu mewn rheoliadau, sut y gellir arfer y disgresiwn hwn, gan gynnwys y dylai penderfyniad i osod ffi fod yn seiliedig ar asesiad ariannol a gynhaliwyd i nodi gallu unigolyn i dalu ffi.
  • Mae adran 63 i 65yn caniatáu llunio rheoliadau sy'n rheoli asesiadau ariannol.
  • Mae adrannau 50, 52 a 53(3) yn caniatáu llunio rheoliadau sy'n adlewyrchu'r darpariaethau codi ffïoedd hyn mewn perthynas â chyfraniadau neu ad-daliadau ar gyfer taliadau uniongyrchol.
  • Mae adran 69yn caniatáu llunio rheoliadau ynghylch ffïoedd ar gyfer gwasanaethau ataliol a chymorth a roddir o dan adrannau 15 a 17 o'r Ddeddf.

6.4  Mae polisi codi ffïoedd Abertawe yn sicrhau bod disgresiwn yr awdurdod (a amlygir yn Nhablau 3 a 4 ar dudalen 11 i 13) o dan y Ddeddf yn cael ei arfer yn deg a bod pob arfer codi ffïoedd, megis cynnal asesiad ariannolneu gytuno i ddatganiad o ffïoedd, bob amser yn canolbwyntio ar leihau unrhyw anghysondeb neu anomaledd yn achos gofal a chefnogaeth yr unigolyn.

6.5  Mae Cyngor Abertawe wedi penderfynu arfer ei ddisgresiwn ynghylch a ddylid codi ffi am y gwasanaethau gofal a chefnogaeth y mae'n eu darparu. Mae'r gwasanaethau gofal a chefnogaeth y codir ffïoedd amdanynt, ynghyd â lefel y ffïoedd hynny, wedi'u cynnwys yn Atodiad 1 i'r polisi hwn.

Tabl 1 - Egwyddorion Allweddol Abertawe
Egwyddor allweddolDisgwyliad pob dinesyddDisgwyliad Cyngor Abertawe
DilyniantMae angen amser arna'i i gynllunio ar gyfer fyd nyfodol, ac i ddod o hyd i'r adnoddau a all ddiwallu fy anghenion gofal a chefnogaeth fy hun

Mae gennym bolisi codi ffïoedd corfforaethol sy'n ceisio adennill cost lawn gwasanaethau lle ceir caniatâd cyfreithiol i wneud hynny a lle bo'n berthnasol.

Byddwn yn codi ffi am wasanaethau gofal cymdeithasol yn unol â'r fframwaith codi ffïoedd cenedlaethol (gweler Atodiad 1) ac yn cynnal y ffïoedd presennol lle bo'n bosib.

Mae ffïoedd llog a ffïoedd gweinyddol sy'n berthnasol i gytundebau Taliadau Gohiriedig yn unol â'r rheoliadau dan ystyriaeth (gweler tabl 3

TegwchRwy'n talu cyfraniad teg at gost fy ngofal

Rydym yn rhoi'r wybodaeth gywir ynghylch codi ffïoedd ar yr adeg gywir.

Rydym yn rhoi esboniadau clir o'r ffordd rydym yn codi ffïoedd a'r hyn rydyn ni'n codi ffi amdano.  

Rydym yn sicrhau bod yr wybodaeth a ddarperir i unigolion am y ffordd yr amcangyfrifir eu cyfraniadau'n glir.

Nid ydym yn codi ffi ar unigolion sy'n fwy na'r hyn y maent yn gallu'i fforddio.

Rydym yn gweithredu'r rheolau'n deg ac yn dryloyw.

CyfartalRwy'n deall bod gan Abertawe bolisi codi ffïoedd teg sy'n cydymffurfio â'r rheoliadau a'r côd ymarfercenedlaethol

Byddwn yn trin pawb ag urddas a pharch, gan gydnabod gwerth pob unigolyn.

Mae Abertawe'n ymroddedig i gael gwared ar bob math o wahaniaethu ar sail oedran, rhyw, anabledd, priodas neu bartneriaeth sifil, hil, crefydd, credoau neu dueddfryd rhywiol.

Rydym yn gweithio tuag at Safonau'r Gymraeg a'r cynnig rhagweithiol i ddarparu gwasanaethau yn Gymraeg.   Gellir gofyn am wybodaeth gyhoeddus mewn fformatau eraill

TryloywderRwy'n deall fy natganiad o ffïoedd a sut cawsant eu cyfrifo

Rydym yn rhoi gwybodaeth glir a syml am godi ffïoedd.

Rydym yn rhoi gwybodaeth glir am asesiadau ariannol cyn ac yn ystod y broses.

Rydym yn rhoi esboniadau clir o'r ffordd yr amcangyfrifwyd cyfraniad gan yr unigolyn.

Rydym yn rhoi gwybodaeth glir cyn ac yn ystod adolygiad.

CynaliadwyRwy'n disgwyl i'r cyngor edrych tuag at y dyfodol, gan fy mod yn ystyried fy anghenion gofal a chefnogaeth a'm sefyllfa ariannol fy hun.Rydym yn sicrhau ein bod yn gwneud defnydd llawn o'r ystod o wasanaethau cyffredinol, yn ogystal â gwasanaethau ataliol ac ymyrryd yn gynnar i sicrhau canlyniadau lles person. Rydym yn cytuno i gynllun gofal a chefnogaeth sy'n addas ac yn gymesur er mwyn diwallu'r angen asesedig a chymwys am ofal a chefnogaeth gyda'r adnoddau sydd ar gael i ni. Rydym yn sicrhau y caiff cynlluniau gofal a chefnogaeth eu hadolygu'n rheolaidd ac yn flynyddol i sicrhau eu bod yn addas, yn effeithiol ac yn werth da am arian.
Llais a rheolaethDisgwyliaf gael llais a rheolaeth dros benderfyniadau am fy nghynllun gofal a chefnogaeth.Lle nad oes gan berson y gallu i wneud penderfyniad, byddwn yn gweithio gyda chynrychiolydd cytunedig neu'n cynnig eiriolwr lle bo'n briodol, a byddwn yn gweithredu er lles gorau'r unigolyn yn unol â rhan 10 o'r Ddeddf.


7.  Ffïoedd am wasanaethau gofal a chefnogaeth

Mae'r Ddeddf a'r Rheoliadau'n nodi amgylchiadau pan all a phan na all yr awdurdod godi ffi am wasanaethau gofal a chefnogaeth.

Ni fydd Cyngor Abertawe'n codi ffïoedd am wasanaethau:

i.  Lle na chaniateir iddo wneud hynny o dan y rheoliadau neu pan gaiff ei gynghori i beidio â gwneud hynny yng Nghôd Ymarfer Llywodraeth Cymru.

NEU

ii. Lle bydd wedi dewis arfer ei ddisgresiwn i beidio â gwneud hynny ar ôl iddo ystyried blaenoriaethau strategol corfforaethol a chanlyniadau lles y boblogaeth.

Bydd ffïoedd yn berthnasol i bob gwasanaeth cymdeithasol a ddarperir yn uniongyrchol neu a gomisiynir, boed yn wasanaeth cymunedol neu breswyl, oni bai eu bod wedi'u heithrio'n benodol gan y Ddeddf a'r Rheoliadau neu gan yr awdurdod sy'n arfer ei ddisgresiwn i beidio â chodi ffi.

7.1  Mae'r tabl canlynol (Tabl 2) yn manylu ar ffïoedd na ellir eu codi, dan y fframwaith codi ffïoedd cenedlaethol.

 

Tabl 2 - Ffïoedd nad ydynt yn cael eu codi'n gyffredinol gan gynghorau yng Nghymru
Enw'r gwasanaethCodwyd ffi amdano cyn Ebrill 2016Gellir codi ffi amdano o dan y ddeddf / rheoliadauFfïoedd yn berthnasol yn eang ar draws Cymru
Gwasanaethu plantNaNaNa
Gofal a chefnogaeth a ddarperir i blentynNaNaNa
Gofal a chefnogaeth a ddarperir i blentyn sy'n ofalwrNaNaNa
Gofal canolraddol / ailalluogi - hyd at chwe wythnos gyntaf ar ôl gadael yr ysbytyNaNaNa
Arfer gwaith cymdeithasolNaNaNa
Asesu anghenion gofal a chefnogaeth, cynllunio gofal a chefnogaeth neu adolygu'r cynllun hwn, darparu cynlluniau goal a chefnogaeth, darparu datgaiadau o ffïoedd, adolygu penderfyniad i godi ffi neu'r ffi ei hunNaNaNa
Cynnal asesiad ariannolNaNaNa
Gofal nyrsioNaNaNa
Eiriolaeth annibynnol (a ddarperir o dan Ran 10 o'r Ddeddf)NaNaNa
Gofal a chefnogaeth a ddarperir i'r rhai sydd â chlefyd Creutzfeldt-JacobNaNaNa
Gwasanaethau / cefnogaeth ôl-ofal a ddarperir o dan adran 117 o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983NaNaNa
Cludiant i ganolfan ddydd pan ddarperir y cludiant gan awdurdod lleol fel rhan o'r broses o ddiwallu anghenion gofal a chefnogaeth personNaNaNa

7.2  Mae'r tablau canlynol (Tabl 3 a Thabl 4) yn manylu pryd mae'r awdurdod wedi gwneud penderfyniadau dewisol i osod ffi/beidio â gosod ffi. Ar gyfer gwasanaethau gofal cymdeithasol.

 

Tabl 3 - Gwnaeth Cyngor Abertawe benderfyniadau i osod ffi o fis Ebrill 2016
Enw'r gwasanaethCodwyd ffi amdano cyn mis Ebrill 2016Gellir codi ffi amdano 0 dan Ddeddf GCLI
Gellir / ni ellir / dewisol
Cyfradd safonol / prawf modd os caiff ei ddefnyddioYdy'r ffi yn berthnasol yn Abertawe ar hyn o bryd
Gofal preswylIeDewisolPrawf moddYdy
Gofal yn y cartref / gofal cartrefIeDewisolPrawf modd hyd at uchafswm ffiYdy
Seibiant (preswyl tymor byr) a seibiant yn y cartrefIeDewisol hyd at 8 wythnos / cyfnodPrawf modd hyd at uchafswm ffiYdy
Gwasanaethau dyddNaDewisolPrawf modd am hyd at uchafswm taliad wythnosolYdy
Cefnogaeth hyblygNaDewisolPrawf modd am hyd at uchafswm taliad wythnosolYdy
Preswylydd dros droIeDewisol hyd at 52 wythnosPrawf moddYdy
Ailalluogi - 7fed wythnos ymlaenIeDewisolPrawf modd (asesiad ariannol gofal prewyl dros dro neu asesiad ariannol dibreswyl lle bo'n briodol)Ydy
Tele-ofalIeDewisolCyfradd safonolYdy
Larymau Llinell FywydIeDewisolCyfradd safonolYdy

 

Tabl 4 - Mae Cyngor Abertawe wedi penderfynu peidio â chodi ffi am y gwasanaethau canlynol
Enw'r gwasanaethCodwyd ffi amdano cyn mis Ebrill 2016Gellir codi tâl o dan y ddeddf / rheoliadau gellir / ni elir / disgresiwnCyfradd safonol / prawf modd os caiff ei ddefnyddioYdy'r ffi yn berthnasol ar hyn o bryd ydy / nac ydy
Darparu gwybodaeth a chyngorNaNaDD/ANac ydy
CymorthNaDewisolCyfradd safonolNac ydy
Gwasanaethau ataliolNaDewisolCyfradd safonolNac ydy
Gofal nosNaDewisolPrawf moddNac ydy
GofalwyrNaDewisolPrawf moddNac ydy
PenodeiaethNaDewisolCyfradd safonol ag eithriadauYdy
Cludiant e.e. costau cludiant i ddiwallu anghenion teitio heb eu cynnwys yng nghynllun gofal y cleientNaDewisolCyfradd safonol ag eithriadauNac ydy
Costau gweinyddol sy'n gysylltiedig â Thaliadau GohiriedigNaDewisolCyfradd safonolYdy

 

Adolygir penderfyniadau i godi ffi neu beidio yn ôl disgresiwn yr awdurdod yn flynyddol wrth bennu'r gyllideb ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf, neu'n fwy rheolaidd os oes angen, ac yn unol â threfniadau rheoli corfforaethol Bydd y ffïoedd adolygedig hyn, mewn amgylchiadau arferol, yn berthnasol ar ddechrau'r flwyddyn ariannol nesaf.

Efallai y bydd amgylchiadau dan y Ddeddf, pan fydd angen codi ffi newydd neu newid y ffi bresennol yn ystod blwyddyn ariannol. Bydd unrhyw newidiadau i'r ffïoedd yn destun prosesau adolygu achos busnes, ymgynghori'n gyhoeddus ac asesu effaith ar gydraddoldeb arferol yn ôl y gofyn.

 

8.  Cyfrifo faint y bydd person yn ei dalu tuag at ei ofal

8.1  Yr egwyddor gyffredinol yw y dylai unrhyw berson y gofynnir iddo dalu ffi dalu'r hyn y gall fforddio ei dalu'n unig. Wrth benderfynu a ddylid codi ffi neu beidio a nodi lefel unrhyw ffi, cyfraniad neu ad-daliad y mae angen eu gosod neu eu talu, mae'n rhaid i'r awdurdod ystyried yr egwyddorion sy'n sail i'r polisi hwn.

Bydd gan y bobl y mae angen gofal a chefnogaeth arnynt hawl i dderbyn cefnogaeth ariannol gan y cyngor mewn amgylchiadau penodol yn seiliedig ar eu gallu i dalu, a bydd gan rai ohonynt hawl i ofal a chefnogaeth am ddim.

Adolygir a chyhoeddir rhestr o ffïoedd gwasanaethau cymdeithasol Cyngor Abertawe bob blwyddyn:

Mae tri chategori codi ffi yn berthnasol i wasanaethau cymdeithasol:

  1. Codi ffi ar sail prwf modd ar ôl asesiad ariannol.
  2. Ffïoedd cyfradd safonol sy'n daladwy heb asesiad ariannol.
  3. Gofal a chefnogaeth a ddarperir am ddim (wedi'u heithrio o ffioedd neu lle caiff disgresiwn ei arfer). 

Cynhelir asesiad ariannol ar gyfer yr holl ofal a chefnogaeth sy'n destun ffïoedd ar sail prawf modd a gynhelir neu a drefnir gan yr awdurdod.

Er mwyn cynnal asesiad ariannol, bydd yr awdurdod, yn anochel, yn gorfod gofyn i'r unigolyn perthnasol roi gwybodaeth fanwl am ei amgylchiadau ariannol a phersonol a bydd yn caniatáu 15 niwrnod iddo wneud hynny.

Bydd y cyngor yn ystyried ac yn penderfynu ar achosion lle bydd defnyddiwr gwasanaeth yn cyflwyno cais rhesymol am estyniad amser, hynny yw mwy na 15 niwrnod, sy'n rhoi rhesymau dros yr angen am ragor o amser ac, os caiff ei wrthod, bydd yn rhoi'r rhesymau dros ei wrthod.

8.2  Nid yw asesiad ariannol yn ofynnol

Mae rhai amgylchiadau lle nad yw'n ofynnol i'r awdurdod lleol gynnal asesiad ariannol.  Maent yn cynnwys sefyllfaoedd lle:

i.  Rydym yn codi ffi cyfradd safonol ar gyfer gofal a chefnogaeth benodol (gan gynnwys gwasanaethau a chymorth ataliol, er ni chodir ffi am y rhain ar hyn o bryd) ac, o ganlyniad, byddai cynnal asesiad ariannol yn anghymesur â'r ffi a godir.

ii.  Mae'r unigolyn yn methu neu'n gwrthod rhoi gwybodaeth a/neu ddogfennaeth sy'n rhesymol ofynnol er mwyn cynnal yr asesiad.   Mewn amgylchiadau o'r fath, gallwn godi hyd at yr uchafswm ffi wythnosol ar ddefnyddiwr y gwasanaethau lle bo'n berthnasol.

D.S.: lle derbynnir gwybodaeth anghyflawn, gallwn godi ffi yn seiliedig ar yr wybodaeth/ddogfennaeth sydd ar gael os ystyriwn fod gwybodaeth ddigonol gennym i wneud hynny

iii.  Mae unigolyn yn derbyn gofal a chefnogaeth na ellir codi ffi amdano.

 

9.  Sut y cynhelir asesiad ariannol

9.1  Bydd asesiad ariannol yn cyfrifo faint, os unrhyw beth, y mae person yn gallu fforddio ei dalu tuag at gost ei ofal (neu gyfrannu tuag at ei gyllideb bersonol) bob wythnos.

Dylai'r asesiad ariannol ystyried incwm a chyfalaf y person dan sylw a neb arall. Os delir unrhyw fath o gyfalaf ar y cyd (ac eithrio tir), ystyrir bod gan y person dan sylw gyfran gydradd o'r cyfalaf, h.y., 50%, oni fydd yr awdurdod yn fodlon bod gan y person a asesir ganran fwy neu lai o'r cyfalaf.

i.  Ymdrin â chyfalaf

Ystyrir cyfalaf unigolyn fel rhan o'r asesiad ariannol, oni bai ei fod yn destun un o'r anwybyddiadau. Rhoddir gwybodaeth fanwl am drin a chyfrifo cyfalaf wrth gynnal asesiad ariannol yn:

  • Rhan 4 - Rheoliadau Gofal a Chymorth (Asesiad Ariannol) (Cymru) 2015
  • Atodiad A - rhannau 4 a 5 o'r Côd Ymarfer (Gosod Ffi ac Asesiad Ariannol)

ii. Ymdrin ag incwm

Wrth asesu faint y gall unigolyn fforddio ei dalu, bydd yr awdurdod yn ystyried ei incwm.  Gan amlaf, ymdrinnir ag incwm yn yr un ffordd, p'un a yw person mewn cartref gofal neu'n derbyn gofal a chefnogaeth yn y gymuned.

Fodd bynnag, mae rhai gwahaniaethau rhwng y ddau o ran ymdrin ag incwm.

Rhoddir gwybodaeth fanwl am ymdrin ag incwm a'i gyfrifo wrth gynnal asesiad ariannol yn:

  • Rhan 3 - Rheoliadau Gofal a Chymorth (Asesiad Ariannol) (Cymru) 2015
  • Atodiad B - Rhannau 4 a 5 o'r Côd Ymarfer (Gosod Ffi ac Asesiad Ariannol)

Rhai eitemau i'w nodi:

  • Rhaid ystyried incwm net ar ôl treth neu yswiriant gwladol.
  • Caiff enillion defnyddwyr gwasanaethau a'u partneriaid eu diystyru yn yr asesiad o foddau ariannol.
  • Yn yr un modd, bydd enillion aelodau eraill yr aelwyd y mae eu hincwm yn ffurfio rhan o'r asesiad o foddau ariannol hefyd yn cael eu diystyru.
  • Ymdrinnir â chredydau treth fel incwm a chânt eu diystyru yn yr asesiad o foddau ariannol.
  • Ystyrir incwm o bensiynau wrth asesu moddau ariannol defnyddiwr gwasanaeth.
  • Caiff unrhyw fudd-daliadau nad ydynt wedi'u diystyru'n benodol eu hystyried wrth nodi moddau ariannol defnyddiwr gwasanaeth.
  • Bellach, mae anwybyddiadau rhannol yn berthnasol i Bensiynau Rhyfel Gwŷr/Gwragedd Gweddw a phensiynau Anabledd Rhyfel.

Lle bydd defnyddiwr gwasanaeth neu ei gynrychiolydd yn hysbysu'r awdurdod o unrhyw gostau y gellir eu diystyru fel incwm, bydd yn ofynnol iddo ddarparu tystiolaeth ddogfennol resymol o'r costau hynny cyn iddynt gael eu diystyru fel incwm. 

Os na chyflwynir tystiolaeth o'r fath, neu os nad yw'r dystiolaeth a ddarperir yn foddhaol ym marn yr awdurdod, cynhelir yr asesiad ariannol heb ddiystyru'r costau dan sylw.

iii. Trothwy'r Isafswm Incwm a Ddiogelir

Mae cyfraniadau defnyddwyr gwasanaethau'n destun trothwy isafswm incwm a ddiogelir, sydd wedi'i osod ar lefel benodol er mwyn diogelu eu hannibyniaeth a'u cynhwysiad cymdeithasol.

Cyflwynir sut y cyfrifir y trothwy isafswm incwm wedi'i ddiogelu yn y Rheoliadau.

Amlinellir gwerth y trothwy yn y Rhestr o Ffïoedd (Atodiad 1 i'r polisi hwn).

9.2  Newidiadau mewn Amgylchiadau Ariannol

Lle mae amgylchiadau ariannol defnyddiwr gwasanaeth yn newid, mae'n rhaid i'r defnyddiwr neu ei gynrychiolydd hysbysu'r awdurdod fel y gellir ailasesu ei hawl i gymorth ariannol. Pan fydd ailasesiad yn newid cyfraniad y defnyddiwr gwasanaeth, caiff ei hysbysu o'r cyfraniad diwygiedig sy'n daladwy o'r dyddiad newydd mewn Datganiad o Ffïoedd adolygedig.

Fel arfer, y dyddiad y daw'r ffi i rym fydd y dyddiad y cafwyd y newid mewn amgylchiadau.

9.3  Newidiadau yn lefel y gwasanaeth a ddarperir

Lle mae newid yn lefel y gwasanaeth a ddarperir, gall fod angen ailasesu'r ffi ar gyfer y gwasanaethau.

Pan fydd ailasesiad yn newid cyfraniad y defnyddiwr gwasanaeth, caiff ei hysbysu o'r cyfraniad diwygiedig sy'n daladwy o'r dyddiad newydd mewn datganiad o ffïoedd adolygedig.

Fel arfer, y dyddiad y daw'r ffi i rym fydd y dyddiad y cafwyd y newid yn lefel y gwasanaeth a ddarperir.

10.  Hawl dinasyddion

Nod y polisi hwn yw hyrwyddo annibyniaeth a chynhwysiad cymdeithasol y sawl sy'n derbyn gofal a chefnogaeth, dinasyddion a gofalwyr.

O ganlyniad, ystyriwyd y canlynol yn ofalus:

  • Egwyddorion y Cenhedloedd Unedig ar gyfer Pobl Hŷn
  • Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn
  • Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl ag Anableddau, fel y'u cynhwysir yn Neddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.

10.1  Atebolrwydd

Wrth weithredu'r polisi hwn, mae Cyngor Abertawe wedi cynnig cyd-destun cyfreithiol ar gyfer yr ymagwedd hon, ein hegwyddorion allweddol ar gyfer rheoli'r newidiadau a'r hyn a ddisgwylir o ran arfer.

Mae'r trefniadau codi ffïoedd hyn wedi'u hatgyfnerthu gan linellau atebolrwydd a dyletswydd clir drwy drefniadau llywodraethu corfforaethol y cyngor ac o fewn swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol ac ariannol.

10.2  Grymuso

Gall pob person ddisgwyl tegwch, triniaeth gyfartal a thryloywder ar ei daith drwy'r trefniadau codi ffïoedd hyn, a lle bydd mater sy'n ymwneud â hawliau dynol neu alluedd meddwl, gall ddisgwyl cael defnyddio gwasanaethau eiriolaeth i'w helpu i ddod dros unrhyw anhawster fel bod y canlyniad yn foddhaol iddo.

10.3  Cyngor ar fudd-daliadau lles

Gall Cyngor Abertawe drefnu bod cyngor priodol ar fudd-daliadau lles ar gael, yn enwedig i'r rheiny sy'n derbyn gofal a chefnogaeth er mwyn gwella eu dealltwriaeth o'r budd-daliadau y gallant fod â hawl iddynt. Dylid trefnu bod cyngor arbenigol ar gael i ofalwyr y rheini sy'n derbyn gofal pan ofynnir amdano.

Gall yr wybodaeth a gesglir fel rhan o'r asesiad ariannol gael ei rhannu â'r Tîm Cyngor ar Fudd-daliadau er mwyn cynnig cyngor ar les a fyddai'n fuddiol i ddefnyddiwr y gwasanaeth.

 

11.  Datganiad o Ffïoedd

11.1  Mae'r ffordd y mae pobl yn talu am ofal os oes ganddynt y modd ariannol i wneud hynny bellach yn unffurf ledled Cymru - bydd un set o drefniadau asesu a chodi ffïoedd ar gyfer pob oedolyn sy'n gorfod talu am ei ofal. Bydd y fframwaith codi ffïoedd cenedlaethol yn berthnasol i ofal preswyl a gofal dibreswyl. Mae ambell faes lle gall awdurdodau lleol arfer disgresiwn ac amlinellir y rhain yn y polisi lleol hwn.

11.2  Yn ôl Rheoliadau Gofal a Chymorth (Gosod Ffïoedd) (Cymru) 2015, mae'n ofynnol i awdurdod lleol benderfynu faint y mae'n rhesymol ymarferol i berson ei dalu am ofal a chefnogaeth a darparu datganiad neu lythyr sy'n amlinellu sut mae'r taliad sy'n daladwy wedi'i gyfrifo.

Nid yw'r rheoliadau'n nodi'r hyn y dylid ei gynnwys yn y datganiad neu ym mha fformat y dylai fod.

 

12.  Codiadau / newidiadau i ffïoedd

12.1  Mae'r cyngor wedi cael y pŵer disgresiwn i ystyried unrhyw godiadau neu newidiadau posib i ffïoedd yn rheolaidd, er mwyn ystyried costau chwyddiant i wasanaethau gwariant a, lle bo modd, weithredu ar sail adennill costau llawn.

12.2  O ganlyniad bydd cyfrifo unrhyw newidiadau i'r Rhestr Ffïoedd yn ystyried sawl ffactor:

  • Rhagolygon Chwyddiant Cenedlaethol.
  • Costau staffio (gofal cymdeithasol).
  • Costau gweinyddol.
  • Cynnydd i gyfraddau fesul awr.
  • Costau darparwyr gwasanaethau allanol y mae'n rhaid i'r awdurdod eu talu.

12.3  Bydd adolygiad blynyddol manwl yn dilyn dull gweithredu arfer gorau Archwilio Cymru yn cael ei gynnal gan Grŵp Cyllid a Chodi Ffïoedd am Wasanaethau Cymdeithasol, i benderfynu ar y rhestr newydd o newidiadau, a lle bo angen, cynhelir Asesiad Effaith Integredig, ac, os caiff ei nodi, gall ymgynghoriad cyhoeddus gael ei gynnal, er enghraifft, pan fydd taliadau newydd yn berthnasol.

 

13.  Gofal dibreswyl

Mae'r term "gofal dibreswyl" yn berthnasol i'r  gwasanaethau canlynol:

a)  Gwasanaethau yn y Gymuned h.y. Gwasanaethau Gofal Cartref / Yn y Cartref Gwasanaethau Gofal Seibiant

b)  Gofal dydd

c)  Tele-ofal a Llinellau Bywyd

Bydd angen un asesiad ariannol cyflawn ar ddefnyddwyr gwasanaeth sy'n derbyn y gwasanaethau a restrir ym mhwyntiau b) a/neu c) yn ogystal â gwasanaethau pwynt a), yn seiliedig ar gost lawn yr holl wasanaethau a ddarperir er mwyn penderfynu a oes gan yr unigolyn yr hawl i dderbyn cymorth gyda chost y gwasanaeth.

Os yw'r defnyddiwr gwasanaeth yn derbyn y gwasanaethau a restrir ym mhwyntiau b) a/neu c) yn unig, ni fydd angen asesiad ariannol am fod ffïoedd cyfradd safonol yn berthnasol.

Bydd yn ofynnol i ddefnyddwyr gwasanaeth nad ydynt am gael asesiad ariannol dalu cost lawn y gwasanaethau a ddarperir, hyd at uchafswm wythnosol lle bo'n berthnasol.

Yn 2011, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru uchafswm ffi wythnosol neu derfyn ar y swm y gall cynghorau ei godi am ofal a chefnogaeth ddibreswyl.  O dan adran 59 o'r Ddeddf, neu o dan adrannau 50 i 53 o'r Ddeddf mewn cysylltiad â thaliadau uniongyrchol, ni all awdurdodau lleol godi mwy nag uchafswm ffi wythnosol ar berson sy'n derbyn gofal a chefnogaeth ddibreswyl (nodir yr uchafswm yn Atodiad 1). 

Cyfrifir y ffi am ofal a ddarperir fel a ganlyn:

13.a)  Gwasanaethau Cymunedol

Cyfrifir y ffi wythnosol asesedig ar gyfer gofal cartref drwy luosi union nifer yr oriau gofal â'r gyfradd fesul awr dybiannol y cytunwyd arni. Ni fydd cynnydd yn nifer yr oriau i adlewyrchu staff dwbl, gwaith ar y penwythnos nac ymweliadau y tu allan i oriau swyddfa. Yn yr un modd, diystyrir yr amser a dreulir yn teithio i gartref defnyddiwr gwasanaeth ac oddi yno wrth gyfrifo nifer yr oriau gofal a dderbyniwyd. Caiff y gyfradd fesul awr dybiannol a fydd yn berthnasol mewn unrhyw flwyddyn unigol ei phennu gan y cyngor.

Amlinellir y cyfraddau fesul awr yn Atodiad 1 i'r polisi hwn. Fel eithriad, mae'n bosib y bydd angen adolygu'r gyfradd yn ystod y flwyddyn. Ni fydd y gyfradd fesul awr yn fwy na chost lawn y gwasanaeth, ac ni fydd o reidrwydd yn adlewyrchu gwir gost darparu neu gomisiynu gwasanaethau gofal cartref i'r cyngor.  Mae'r gwasanaeth hwn yn destun adolygiad comisiynu fel rhan o'r rhaglen Abertawe Gynaliadwy - Yn Addas i'r Dyfodol. Byddai unrhyw newidiadau i ffïoedd yn cael eu hystyried fel rhan o adolygiad blynyddol o ffïoedd.

13.b)  Gwasanaethau Dydd

Darperir gwasanaethau dydd fel arfer mewn lleoliad heblaw cartref person, ac felly cânt eu hystyried yn wasanaethau cymunedol. Gellir amlinellu amserlen mynychu gwasanaeth dydd yr awdurdod lleol am ran o ddiwrnod neu ddiwrnod llawn neu sawl diwrnod yn y cynllun gofal a chefnogaeth y cytunwyd arno gyda defnyddiwr y gwasanaeth.

O 2018/19, yn dilyn yr adolygiad blynyddol o ffioedd yn 2017, codir ffïoedd ar bobl sy'n derbyn gwasanaethau dydd i bobl hŷn, ac ar bobl sy'n derbyn gwasanaethau dydd i oedolion/anghenion arbennig, yn amodol ar asesiad ariannol.

13.c)  Tele-ofal a Llinellau Bywyd

Defnyddir y term Tele-ofal i ddisgrifio amrywiaeth o ddyfeisiau electronig, trydanol ac eraill sy'n helpu i gynnal annibyniaeth, diogelwch, iechyd a lles unigolyn, gan amlaf, ond nid bob amser, yn ei gartref ei hun.  

Yr enghraifft fwyaf cyfarwydd o hyn yw'r Ffôn Llinell Fywyd a ddefnyddir gan filoedd o ddinasyddion Abertawe sy'n cysylltu ar unwaith â chanolfan alwadau wedi'i staffio'n barhaus mewn argyfwng.  

Weithiau, mae'r ddarpariaeth hon yn gweithredu islaw'r trothwyon cymhwysedd ar gyfer gofal cymdeithasol; mae'n canolbwyntio'n fwy ar atal, a chodir ffi cyfradd safonol ar gyfer llinellau bywyd i dalu costau'r cyfarpar, costau gosod a chostau ymateb i alwadau.  

Bydd trefniadau codi ffïoedd sydd eisoes ar waith yn berthnasol i dele-ofal ar gyfer pobl â hawl i'w dderbyn. Nid yw ffïoedd cyfradd safonol ar gyfer tele-ofal a llinellau bywyd yn cael eu cynnwys yn y broses asesu ariannol ar hyn o bryd.

 

14.  Gofal Preswyl

Am ragor o fanlyion, cyfeiriwch at y canlynol:

  • Rheoliadau Gofal a Chymorth (Gosod Ffïoedd)(Cymru) 2015
  • Rheoliadau Gofal a Chymorth (Asesiad Ariannol)(Cymru) 2015
  • rhannau 4 a 5 o'r Côd Ymarfer (Gosod Ffïoedd ac Asesiad Ariannol)
  • Pennod 9 - Codi ffïoedd am ofal a chymorth mewn cartref gofal
  • Atodlen D: Cytundebau talu wedi'u gohirio.

14.a)  Gofal preswyl tymor hir

Pan benderfynir codi ffi am ofal preswyl, fel gyda phob ffi, bydd asesiad ariannol yn cael ei gynnal.  Nod yr awdurdod yw cefnogi'r unigolyn a nodi'r opsiynau gorau ar gyfer talu unrhyw ffi. Pan benderfynir bod gan unigolyn anghenion gofal a chefnogaeth tymor hir a fydd yn cael eu diwallu orau gan wasanaeth gofal preswyl, caiff eiddo ei ystyried fel rhan o'r asesiad ariannol.

Y prif enghreifftiau o gyfalaf sy'n cael eu hystyried yw gwerth yr eiddo a'r cynilon sydd gan unigolyn.

Gall amgylchiadau ariannol unigolyn arwain at gynnig o gytundeb taliad gohiriedig (DPA) yn erbyn gwerth eiddo a gymerwyd i ystyriaeth yn yr asesiad ariannol. Disgrifir Taliadau Gohiriedig mewn mwy o fanylder yn Atodiad Ch y Côd Ymarfer.

Mae'r Ddeddf yn datgan bod yn rhaid i awdurdod lleol sicrhau bod gan yr unigolyn ddewis go iawn a bod mwy nag un opsiwn ar gael iddo o fewn y gyfradd gomisiynu arferol (y gyfradd safonol) am gartref preswyl o'r fath sy'n ofynnol ar yr unigolyn yn dilyn asesiad. Fodd bynnag, mae'n rhaid i unigolyn hefyd allu dewis opsiynau amgen, gan gynnwys cartref preswyl drutach. 

Pan fydd cartref preswyl yn costio mwy nag y byddai'r awdurdod lleol fel arfer yn ei dalu, mae'n rhaid i'r unigolyn allu cael ei leoli yno os bodlonir amodau penodol ac os bydd trydydd parti (neu mewn rhai amgylchiadau, y preswylydd) yn fodlon ac yn gallu talu'r gost ychwanegol.

Serch hynny, mae'n rhaid i gostau ychwanegol bob amser fod yn ddewisol. Ni ddylent byth gael eu codi i ymgodymu â diffyg yn y cyllid y mae awdurdod lleol yn ei ddarparu i gartref preswyl er mwyn diwallu anghenion gofal asesedig yr unigolyn. Mae'n rhaid i awdurdodau lleol ddilyn Rheoliadau Gofal a Chymorth (Dewis o Lety) (Cymru) 2015.

Mae'r gwasanaeth hwn yn destun adolygiad comisiynu fel rhan o'r rhaglen Abertawe Gynaliadwy - Yn Addas i'r Dyfodol. Byddai unrhyw newidiadau i ffïoedd yn cael eu hystyried fel rhan o adolygiad blynyddol o ffïoedd. Mae'r gyfradd gomisiynu (safonol) hefyd yn destun adolygiad blynyddol, fel pob ffi.

14.b)  Lleoliadau Gofal Preswyl Tymor Byr (a elwir yn aml yn ofal seibiant) a Lleoliadau Preswyl Dros Dro

Ym mhob achos, ni fydd y ffi yn fwy na chost lawn y gwasanaeth, ac ni fydd o reidrwydd yn adlewyrchu gwir gost darparu neu gomisiynu gwasanaethau gofal seibiant.

14.bi)  Lleoliadau preswyl tymor byr (Gofal Seibiant) yw'r rheini sydd fel arfer yn para hyd at 8 wythnos yn unig. Yn ymarferol, maent yn tueddu i bara wythnos, pythefnos neu 3 i 4 wythnos mewn amgylchiadau eithriadol. Bellach, gellir codi'r uchafswm ffi wythnosol am leoliadau tymor byr gydag asesiad ariannol.  Mae'r canllawiau wedi ystyried y ffaith y byddai gan unigolyn nad yw'n breswylydd parhaol gostau byw dyddiol i'w talu o hyd (fel morgais) a dyhead i gefnogi gofalwyr.

Pan fydd unigolyn yn breswylydd tymor byr mewn cartref gofal (gofal seibiant), mae'n rhaid i'r awdurdod lleol gynnal asesiad ariannol o foddau fel petai'r unigolyn yn derbyn gofal a chefnogaeth ddibreswyl neu daliadau uniongyrchol am ofal a chefnogaeth ddibreswyl.

14.bii)  Gwasanaethau Seibiant yn y Gymuned (Gofal Cartref a Gwasanaethau Seibiant)

Cyfrifir ffi wythnosol asesedig ar gyfer Gofal Cartref a Gwasanaethau Seibiant drwy luosi union nifer yr oriau gofal â'r gyfradd fesul awr dybiannol y cytunwyd arni. Gellir codi'r uchafswm ffi wythnosol gydag asesiad ariannol.  Caiff y gyfradd fesul awr dybiannol a fydd yn berthnasol mewn unrhyw flwyddyn unigol ei phennu gan y cyngor. Amlinellir y cyfraddau fesul awr yn Atodiad 1 i'r polisi hwn.

14. biii)  

Lleoliadau preswyl dros dro yw'r rheini lle mae'r arhosiad am hyd at 52 wythnos (neu, mewn amgylchiadau eithriadol, yn annhebygol o bara llawer mwy na 52 wythnos) ac felly dylid codi ffi ar y gyfradd breswyl gydag asesiad ariannol. Os yw'n hysbys o'r cychwyn y bydd arhosiad yn para mwy nag 8 wythnos, dylid ei ystyried yn lleoliad dros dro o'r cychwyn yn hytrach na chyfnod (seibiant) tymor byr.

 

15.  Hunanariannwyr

O dan ran 5 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, gall awdurdod lleol godi ffi am ddarparu gofal a chefnogaeth, trefnu i ofal a chefnogaeth gael eu darparu, neu gefnogi dinasyddion sy'n gallu talu.

Gall Cyngor Abertawe fynd i gostau gweinyddol wrth adennill ffïoedd a thaliadau am drefnu i ofal a chefnogaeth gael eu darparu ar gyfer oedolyn y mae gwerth ei adnoddau ariannol yn fwy na'r terfyn ariannol (y cyfeirir ato'n aml fel "hunanariannwr") ond sydd er hynny'n gofyn i'r awdurdod ddiwallu ei anghenion. 

Mewn amgylchiadau o'r fath, bydd y cyngor yn codi ffi yn unol â'i bolisi ariannol ar gyfer adennill costau llawn. Bydd y cyngor hefyd yn ceisio adennill unrhyw ffïoedd ychwanegol (gellir cyfeirio at y rhain fel "ffi froceriaeth" neu "ffi gomisiynu") i gynnal a chefnogi lleoliad. Caiff y fath ffïoedd eu hôl-ddyddio i'r dyddiad y mae'r lleoliad yn cychwyn, neu'r dyddiad pan gysylltodd yr hunanariannwr â'r cyngor i ofyn am gymorth.

 

16.  Gwasanaethau plant a theuluoedd

Mae'r Ddeddf yn atal awdurdodau lleol rhag codi ffi ar blant am y gofal a'r gefnogaeth y maent yn eu derbyn, neu gefnogaeth a roddir i blentyn sy'n ofalwr. 

Er bod y Ddeddf yn cynnwys darpariaeth sy'n caniatáu codi ffi ar riant neu ofalwr, mae'r Rheoliadau a'r côd yn atal hyn rhag digwydd ar hyn o bryd am y rheswm bod y ddarpariaeth hon wedi'i chynnwys yn y Ddeddf er mwyn 'sicrhau ei dyfodol' ac nid oherwydd bod dyhead i gyflwyno codi ffi o'r fath yn awr. 

Felly, ni all yr awdurdod godi ffi am ofal a chefnogaeth a roddir i blentyn, na chefnogaeth a roddir i blentyn sy'n ofalwr, o dan Ran 4 o'r Ddeddf (Diwallu Anghenion). Ni all awdurdodau chwaith geisio cyfraniad neu ad-daliad tuag at gostau o'r fath pan fo taliadau uniongyrchol yn cael eu gwneud er mwyn sicrhau'r gofal a'r gefnogaeth.

 

17.  Taliadau Uniongyrchol

Gweler Rheoliadau Gofal a Chymorth (Taliadau Uniongyrchol) (Cymru) 2015

17.1  O dan y Ddeddf, disgwylir y bydd mwy o bobl yn gallu derbyn Taliadau Uniongyrchol os yw hynny'n well ganddynt. Golyga hyn y bydd arian yn cael ei roi i ddinasyddion er mwyn iddynt drefnu'r gofal a'r gefnogaeth sydd eu hangen arnynt i ddiwallu eu canlyniadau lles, cytunedig eu hunain.

17.2  Gellir defnyddio taliadau uniongyrchol i dalu am ofal a chymorth gan yr awdurdod a wnaeth y taliad yn ogystal â darparwyr eraill. Mae'r Rheoliadau hefyd yn caniatáu defnyddio taliadau uniongyrchol i dalu costau gofal preswyl, cyfnodau ailalluogi byr er enghraifft, neu gyfnodau tymor hwy.

17.3  Lle na wneir taliadau uniongyrchol i ddefnyddiwr y gwasanaeth yn uniongyrchol, rhaid bodloni amodau ychwanegol, er enghraifft, a ellir defnyddio'r taliad i dalu perthnasau, lle mae angen gwiriad neu amodau ynghylch sut gellir defnyddio'r taliad.

17.4  Mewn perthynas â thaliadau uniongyrchol, gall yr awdurdod benderfynu p'un a ddylai wneud taliadau net neu daliadau gros. Ers cyn mis Hydref 2018, mae'r awdurdod wedi gwneud talu taliadau uniongyrchol fel taliadau gros.

17.5  Cyfrifir y ffi wythnosol asesedig am ofal a chefnogaeth a hwylusir gan daliad uniongyrchol drwy luosi oriau nifer yr oriau gofal fel y'u hamlinellir yn y pecyn gofal â'r gyfradd fesul awr dybiannol y cytunwyd arni ar gyfer cymorth personol. Caiff y gyfradd fesul awr dybiannol a fydd yn berthnasol mewn unrhyw flwyddyn unigol ei phennu gan y cyngor.

17.6  Amlinellir unrhyw gyfraniad tuag at daliad uniongyrchol y penderfynwyd arno yn natganiad yr unigolyn o ffïoedd.

17.7  Bydd Cyngor Abertawe'n ceisio diogelu cyllid cyhoeddus rhag twyll, camddefnydd neu gamreolaeth fwriadol, a bydd yn cymryd camau i adennill unrhyw gyllid a gollwyd o ganlyniad i'r fath weithgarwch.

 

18.  Gwasanaethau eraill

Mae dyletswydd ar awdurdodau lleol i drefnu gofal a chefnogaeth i'r rheiny ag anghenion cymwys, ac mae'r gallu ganddynt hefyd i ddiwallu anghenion nad ydynt yn gymwys os yw'n dymuno gwneud hynny. Bellach, mae ganddynt fwy o ddisgresiwn, er enghraifft:

Codi ffïoedd mewn perthynas â gofal a chefnogaeth y mae'n eu darparu neu'n eu trefnu (o dan adran 59 o'r Ddeddf). Gweler rhan 6 o'r polisi hwn.

18.a)  Cymorth neu wasanaethau ataliol

O dan y Ddeddf (adran 69), mae gan awdurdod lleol ddisgresiwn i ddewis p'un a ddylai godi ffi am wasanaethau ataliol a chymorth neu beidio. Ar hyn o bryd, nid yw Cyngor Abertawe'n codi ffïoedd am yr ystod hon o wasanaethau am eu bod yn ffactorau pwysig wrth reoli'r galw amdanynt yn y dyfodol ac yn datblygu gallu dinasyddion, teuluoedd a chymunedau i reoli eu gofal a'u cefnogaeth eu hunain.

Gweler Adran 6 o'r polisi hwn.

18.b)  Gwasanaethau i ofalwyr

Mae Cyngor Abertawe'n comisiynu amrywiaeth o wasanaethau i gefnogi gofalwyr a gofalwyr ifanc. Mae gofalwyr yn hanfodol wrth gynnal gofal a chefnogaeth gartref, gan hyrwyddo annibyniaeth a lles.  Ar hyn o bryd, nid yw Abertawe'n codi ffi am ddarparu cefnogaeth i ofalwyr.

Gweler Adran 6 o'r polisi hwn.

18.c)  Stadau diogel

Mae'r fframwaith codi ffïoedd hefyd yn berthnasol i bobl sy'n cael eu cadw mewn stadau diogel. Er bod y budd-daliadau lles a'r cyfleoedd cyflogaeth â thâl sydd ar gael i bobl sy'n cael eu cadw mewn stadau diogel yn gyfyngedig (a bod enillion yn cael eu diystyru at ddibenion asesiadau ariannol), bydd angen ystyried unrhyw asedau cyfalaf, cynilion, incwm a phensiynau wrth gynnal asesiad ariannol fel gydag unrhyw un arall sy'n derbyn gofal a chefnogaeth.

18.d)  Penodeiaeth

Gellir codi ffi weinyddol wythnosol yn y dyfodol yn erbyn incwm ac asedau cyfalaf rhai defnyddwyr gwasanaeth sy'n derbyn cefnogaeth gan y Gwasanaethau Cymdeithasol i reoli eu materion ariannol lle nodwyd mewn asesiad nad oes ganddo'r gallu meddyliol i wneud hynny (Gweler Tabl 3).

 

19.  Galluedd meddyliol

Mae'r polisi codi ffïoedd yn ystyried galluedd yr unigolyn yn ogystal ag unrhyw gyflwr meddygol neu nam a allai fod ganddo.

Hyd yn oes os caiff ei nodi mewn asesiad nad oes gan berson y gallu meddyliol i reoli ei faterion ariannol ei hun, gellir nodi yn yr asesiad bod y person yn dal i fod â'r gallu gyfrannu at gost ei ofal a'i gefnogaeth.

O dan y Ddeddf, mae'r awdurdod yn cynnig cefnogaeth ychwanegol er mwyn gwella'r gwasanaethau cynrychioli ac eirioli sydd ar gael a gwella'r ffordd y mae'n cyfathrebu, cyfrannu at benderfyniadau, cymryd rhan mewn gweithgareddau megis asesiadau ariannol a chytuno i unrhyw ffïoedd.

Bydd Cyngor Abertawe'n gweithio gyda'r unigolyn a chanddo'r awdurdod cyfreithiol i wneud penderfyniadau ariannol ar ran yr unigolyn na all wneud hynny. 

Er enghraifft:

a.  Atwrneiaeth Arhosol neu Barhaus;
b.  Penodai o'r Adran Gwaith a Phensiynau;
c.  Dirprwy'r Llys Gwarchod ar gyfer eiddo a materion.

Os caiff ei nodi nad oes gan unigolyn y gallu meddyliol reoli ei faterion ariannol ei hun ac os nad oes unrhyw un â'r awdurdod cyfreithiol i wneud penderfyniadau ariannol ar ei ran, yna gall yr awdurdod lleol gyflwyno cais fel penodai neu ddirprwy'r llys gwarchod os nad oes trydydd parti addas sy'n fodlon neu'n gallu gweithredu.

Pan fydd galluedd meddwl gan unigolyn, mae'n bosib iddo roi caniatâd i rywun arall fod yn gynrychiolydd ariannol iddo. Lle mae caniatâd wedi'i roi, bydd yr awdurdod yn gweithio gyda'r cynrychiolydd ariannol ar faterion sy'n ymwneud â materion ariannol yr unigolyn (y cleient).

 

20.  Cytundebau Taliadau Gohiriedig (DPA)

Gweler Rheoliadau Gofal a Chymorth (Taliadau Gohiriedig) (Cymru) 2015. Hefyd, gweler Rhannau 4 a 5 o'r Côd Ymarfer, Atodiad Ch

Mae'r rheoliadau newydd yn nodi'r amodau y mae'n rhaid i berson a'i eiddo eu bodloni er mwyn bod yn gymwys ar gyfer cytundeb taliadau gohiriedig, lefel taliad gohiriedig y gall awdurdod lleol ymrwymo iddi, a'r trefniadau ynghylch costau gweinyddol a llog y gellir eu codi wrth lunio a gweithredu cytundeb taliadau gohiriedig. 

O dan y rheoliadau, gall yr awdurdod gytuno i ymrwymo i gytundeb taliad gohiriedig os yw'r unigolyn a'i eiddo'n bodloni amodau penodol. Yn bennaf, dyma le mae gan unigolyn eiddo cymwys ond lle nad yw gwerth ei fathau eraill o gyfalaf yn fwy na'r terfyn cyfalaf a lle nad oes ganddo incwm digonol i dalu ei gostau gofal yn llawn.

Mae cytundeb taliadau gohiriedig yn caniatáu i'r awdurdod lleol dalu cost gofal preswyl unigolyn yn llawn neu'n rhannol, wrth i bridiant gael ei osod ar ei eiddo fel gwarant yn erbyn y gohiriad. Gan nad yw eiddo'n cael ei ystyried wrth gynnal asesiad ariannol i osod ffi ar gyfer gofal a chefnogaeth ddibreswyl, mae taliadau gohiriedig yn berthnasol ar gyfer gofal preswyl yn unig. Byddai eiddo'n cael ei gynnwys fel ased yn yr asesiad ariannol yn seiliedig ar brisiad proffesiynol o'i werth cyfredol (gall y gwerth hwn fod yn destun ailbrisiad yn y dyfodol).

Pwrpas cyffredinol taliad gohiriedig yw galluogi person sy'n mynd i gartref gofal, sydd ag eiddo a ystyriwyd yn ei asesiad ariannol i osod ffi am hyn, i ddewis a ddylai werthu ei eiddo neu beidio i dalu'r ffi hon a phryd i wneud hynny. Nod taliad gohiriedig yw rhoi amser i unigolyn roi trefn ar ei sefyllfa ariannol, neu roi amser iddo werthu ei eiddo os mai hyn sy'n digwydd, gan gynnig hyblygrwydd iddo o ran pryd y mae'n gwerthu'r eiddo.

Gall cytundebau bara hyd arhosiad unigolyn mewn cartref gofal, cyfnod llawer byrrach fel y mae'n dymuno, neu tan iddo benderfynu gwerthu'r eiddo i dalu am ofal preswyl. Gall y cytundeb ddatgan union ddyddiad gwerthu'r eiddo, pennu cyfnod megis 90 niwrnod ar ôl dyddiad marw'r unigolyn sydd wedi llunio'r cytundeb â'r awdurdod, neu gyfnod hwy fel y bo'n briodol.

Cyn ymrwymo i DPA, bydd yr awdurdod yn darparu datganiad o ffïoedd i'r unigolyn a fydd yn cynnwys amcangyfrif o'r ffïoedd gweinyddol sy'n gysylltiedig â llunio'r cytundeb a'r holl gyfnod y mae'r cytundeb ar waith. Sylwer nad yw taliadau atodol trydydd parti wedi'u cynnwys mewn unrhyw gytundeb presennol â'r cyngor.

Terfynu Cytundeb Taliadau Gohiriedig -Gall yr unigolyn derfynu'r cytundeb unrhyw bryd cyn yr adeg a nodwyd drwy roi rhybudd rhesymol i'r awdurdod yn ysgrifenedig a thalu unrhyw symiau sy'n daladwy.

 

21.  Adolygiadau

Rhannau 4 a 5 o'r Côd Ymarfer, Atodiad D - Adolygu Penderfyniadau a Dyfarniadau Gosod Ffi

21.1  Yn ôl adran 73 o'r Ddeddf, mae'n ofynnol i'r awdurdod wneud darpariaethau ar gyfer adolygu'r penderfyniadau a'r dyfarniadau gosod ffi a wnaed. Mae'r egwyddorion a'r gofynion a oedd ar waith cyn mis Ebrill 2016 mewn perthynas ag adolygu dyfarniadau a phenderfyniadau ynghylch gofal dibreswyl a'r ffi amdano bellach yn berthnasol i ddyfarniadau a phenderfyniadau ynghylch gofal preswyl a dibreswyl a'r ffïoedd amdanynt.

21.2  Mae gan unigolyn sy'n derbyn gofal a chefnogaeth, naill ai yn y gymuned neu mewn cartref gofal, yr hawl i ofyn am adolygiad o benderfyniad i godi ffi. Pan fydd unigolyn yn teimlo y gwnaed penderfyniad amhriodol, naill ai o ran lefel y ffi, yr ad-daliad neu'r cyfraniad neu mewn perthynas â sail y penderfyniad, gall yr unigolyn ofyn i'r awdurdod lleol adolygu'r penderfyniad. Fel rhan o'r adolygiad cychwynnol, dylai'r awdurdod ei hun ailasesu'r penderfyniad a wnaed a phenderfynu a oedd y penderfyniad gwreiddiol yn gywir, yn enwedig os oes gwybodaeth newydd wedi dod i law.

21.3  Caiff y broses adolygu ei hestyn hefyd i adolygiadau o sefyllfaoedd lle ystyrir bod unigolyn yn drosglwyddai atebol ar ôl derbyn ased gyda'r bwriad o osgoi neu leihau'r ffïoedd i berson yr ystyrir ei fod yn agored i ffi. Bydd y broses hon yn sicrhau y caiff y fath benderfyniadau eu hadolygu'n gyson. Felly, os bydd person am i benderfyniad ynghylch codi ffi, neu lefel ffi, gael ei adolygu, bydd yn gallu gofyn i awdurdod wneud hyn mewn ffordd gymharol syml ac wrth wneud hynny, mae'n bosibl y gellid dileu'r angen i berson wneud cwyn ffurfiol i'r awdurdod.

21.4  Byddwn yn gweithredu proses adolygu yn unol â'r hyn a amlinellir yn y Rheoliadau a'r Côd Ymarfer er mwyn caniatáu adolygiadau o benderfyniad ynghylch ffi, cyfraniad neu ad-daliad, neu lefelau'r rhain, neu lle ystyriwyd bod unigolyn yn drosglwyddai atebol.

21.5  Y gobaith yw y byddai'r mwyafrif helaeth o'r ceisiadau hyn yn cael eu datrys yn foddhaol yn ystod y broses adolygu. Fodd bynnag, os yw defnyddiwr gwasanaeth neu ei gynrychiolydd yn parhau i fod yn anfodlon â'r penderfyniad ar ôl iddo gael ei adolygu, yna gall ddilyn y weithdrefn gwyno y cyfeirir ati yn Rheoliadau Gweithdrefn Gwynion y Gwasanaethau Cymdeithasol (Cymru) 2014.

21.6 Mae canllawiau Llywodraeth Cymru ar y rheoliadau hyn (sef Canllawiau ar ddelio â chwynion a sylwadau mewn gwasanaethau cymdeithasol awdurdodau lleol) yn argymell y gellir gwneud cwyn neu sylwadau hyd at 12 mis ar ôl y dyddiad y digwyddodd y mater sy'n destun y gŵyn neu'r sylwadau, neu, os yw'n ddiweddarach, y dyddiad y daeth y mater sy'n destun y gŵyn neu'r sylwadau i sylw'r achwynydd neu'r person sy'n gwneud y sylwadau.

Fodd bynnag, ni fydd y terfyn amser hwn yn berthnasol os yw'r awdurdod lleol yn fodlon bod rhesymau da am beidio â chyflwyno'r gŵyn neu'r sylwadau o fewn y terfyn amser ac, er gwaethaf yr oedi, mae o hyd yn bosib archwilio'r mater mewn ffordd effeithiol a theg.

 

Atodiad 1

Rhestr Ffïoedd Cyngor Abertawe

Atodiad 2

Daeth y fframwaith cenedlaethol ar gyfer codi ffi am wasanaethau cymdeithasol i rym ar 6 Ebrill 2016.

Llywodraeth Cymru - Codi ffi am ofal cymdeithasol (LLYW.CYMRU)

Dolen i reoliadau Llywodraeth Cymru - Dolen i reoliadau Llywodraeth Cymru (SOCIALCARE.WALES)

Cyhoeddwyd y côd ymarfer canlynol o dan rannau 4 a 5 o'r Ddeddf ar 18 Rhagfyr 2015, ac fe'i diweddarwyd ddiwethaf ym mis Ebrill 2018 (fersiwn 3)

Côd ymarfer ar godi ffi am wasanaethau gofal cymdeithasol (LLYW.CYMRU)

Adroddiad Pwyllgor y Senedd: "Talu am wasanaethau gofal a chymorth (gofal cymdeithasol i oedolion) - canllaw i etholwyr" a gyhoeddwyd ym mis Ionawr 2022 - Talu am wasanaethau gofal a chymorth (gofal cymdeithasol i oedolion) - canllaw i etholwyr (SENEDD.WALES)

 

Polisi Codi Tâl (y Gwasanaethau Cymdeithasol)

Talu am Wasanaethau Cymdeithasol o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.
Close Dewis iaith