Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwasanaeth Ymgynghorol Tai Amlfeddiannaeth (HMO)

Os ydych yn berchen ar eiddo, neu os ydych yn meddwl am brynu eiddo, ac rydych yn bwriadu ei drawsnewid i fod yn Dŷ Amlbreswyl rydym yn cynnig gwasanaeth ymgynghorol.

Am ffi o £400 gall swyddog o'r tîm Tai Amlbreswyl archwilio'r eiddo a rhoi amserlen waith i chi i'w hystyried.  Nid oes rhwymedigaeth arnoch i gwblhau'r gwaith os na fydd yr eiddo yn amlbreswyl yn y pen draw. 

Os ydych yn ystyried dau opsiwn posibl i'r eiddo, efallai naill ai fel tŷ a rennir neu fflatiau un ystafell neu ddau gynllun bosibl i greu cyfleusterau ystafell ymolchi ychwanegol, gall y swyddog roi dwy amserlen i chi am ffi uwch o £450.

Ar ôl cwblhau'ch cais, bydd Swyddog Iechyd yr Amgylchedd yn cysylltu â chi i drefnu dyddiad ac amser addas (yn ystod oriau swyddfa) i archwilio'r eiddo. Yna, anfonir adroddiad atoch am ganfyddiadau gydag opsiynau ar gyfer 1 neu 2 gynllun posib (gan ddibynnu ar y ffi a delir).

Dylech fod yn ymwybodol y bydd angen cymeradwyaeth gynllunio a/neu reoliadau adeiladu ar gyfer eiddo preswyl sy'n newid defnydd i HMOs ac addasiadau eraill a bydd angen i chi geisio cyngor gan y swyddogion perthnasol.

Os yw'r HMO yn drwyddedadwy, bydd angen i chi wneud cais am drwydded HMO o hyd.

Sut i ofyn am gyngor

Llenwch y ffurflen isod a nodwch a hoffech chi gael cyngor ar un neu ddau gynllun.