Gweithredu ar yr hinsawdd - addysg
Yng Nghymru mae gennym gwricwlwm newydd - Dyfodol Llwyddiannus, y mae ei bedwar prif ddiben yn ffurfio'r fframwaith sy'n sail i'r holl ddysgu ac addysgu yng Nghymru.
Y rhain yw:
- dysgwyr uchelgeisiol, galluog sy'n barod i ddysgu drwy gydol eu hoes
- dinasyddion egwyddorol, gwybodus sy'n barod i fod yn ddinasyddion i Gymru a'r byd
- cyfranwyr mentrus, creadigol sy'n barod i chwarae eu rhan yn llawn yn eu bywyd a'u gwaith
- unigolion iach, hyderus sy'n barod i fyw bywyd gan wireddu eu dyheadau fel aelodau gwerthfawr o gymdeithas
Gwnaeth yr ysgolion yn Abertawe ymuno â'r cynllun Eco Ysgolion yn gynnar, ac maent wedi parhau gyda'r diddordeb hwn. Bydd y cwricwlwm newydd yn galluogi ysgolion Abertawe i barhau i ddatblygu eu diddordeb mewn materion amgylcheddol.
Energy Sparks
Elusen gofrestredig yw Energy Sparks, sy'n darparu offeryn dadansoddi ynni ar-lein a rhaglen addysg ynni a ddyluniwyd yn benodol i helpu ysgolion i leihau eu defnydd o drydan a nwy, drwy ddadansoddi data mesurydd deallus. Mae Energy Sparks yn helpu disgyblion a'r gymuned ysgol ehangach i leihau allyriadau carbon eu hysgol a gwneud cyfraniad go iawn o ran mynd i'r afael â'r 'argyfwng hinsawdd'.
Mae Energy Sparks yn gweithio gyda 220 o ysgolion ar draws 16 o awdurdodau lleol ar hyn o bryd, gan gynnwys 30 o ysgolion yn ardal Cyngor Abertawe.
![](/image/3032/Extension-at-YG-Gwyr/gi-responsive__100.jpg?m=1631788939743)
Views to be sought on plans to boost Welsh medium education
![](/image/2712/School-Meal/gi-responsive__100.jpg?m=1629978435477)
Price of school meals held as pupils set for return to school
![](/image/2363/Contractor-fixing-a-window/gi-responsive__100.jpg?m=1629284389807)
Record investment in essential school repairs
Play area gets the thumbs up from pupils
- Blaenorol tudalen
- 1
- 2
- Nesaf tudalen