Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwneud eich gwelliannau eich hun i'ch tŷ cyngor

Mae'r hawl gan bob deiliad contract i wneud gwelliannau i'w gartref, fel gosod unedau cegin, adeiladu wal yn yr ardd neu osod cawod neu fath newydd.

Fodd bynnag, bydd angen caniatâd ysgrifenedig gennym ni. Ni fyddwn yn gwrthod rhoi caniatâd ar yr amod bod y cais yn rhesymol ac nad yw'n gwneud y tŷ yn llai diogel, yn creu costau i'r awdurdod neu'n lleihau gwerth y tŷ.

Ysgrifennwch at eich swyddfa dai ardal leol gan amlinellu eich cynlluniau drwy ddarparu cynifer o fanylion â phosib. Bydd y tîm yn gwirio nad oes gwrthwynebiad i'ch cynlluniau gan y rheolwyr ac yna'n trosglwyddo'r cynlluniau i'r Uned Cynnal a Chadw. Bydd Swyddog Technegol yn ymweld â'ch cartref i wneud penderfyniad ynglŷn â dichonoldeb y gwaith a pha wybodaeth y mae angen i chi ei rhoi fel y gellir bwrw ymlaen â'r gwaith. Os bydd angen caniatâd cynllunio neu ddilyn rheoliadau adeiladu, bydd y ffurflenni priodol yn cael eu hanfon atoch.

Os ydym yn cymeradwyo eich cynnig, byddwn yn anfon cymeradwyaeth amodol atoch a byddwch yn derbyn unrhyw ganllawiau y bydd rhaid eu dilyn yn ystod ac ar ôl y gwaith. Byddwn yn ymateb i'ch cais am ganiatâd o fewn 1 mis i'w dderbyn (neu o fewn 1 mis i dderbyn gwybodaeth ychwanegol os gofynnwyd amdani). Ar ôl i'r gwaith gael ei gwblhau bydd Swyddog Technegol yn ymweld eto i archwilio'r gwaith. Os nad ydynt yn fodlon ar y gwaith, cewch 28 niwrnod i'w adfer. Os nad yw'r gwaith wedi'i gwblhau o hyd ar ôl y cyfnod hwn, efallai byddwn yn cwblhau'r gwaith ein hunain ac yn codi tâl yn eich erbyn.

Os ydych eisoes wedi cwblhau gwelliannau i'ch cartref heb ganiatâd, dylech wneud cais am ganiatâd ôl-weithredol.

Os dewiswch symud o'ch cartref, gallai fod hawl gennych i gael iawndal am unrhyw welliannau yr ydych wedi'u gwneud ar yr amod y rhoddwyd caniatâd gennym.

Asbestos

Dylech fod yn ymwybodol am beryglon asbestos cyn gwneud unrhyw welliannau i'ch cartref.

Pan fyddwch yn cyflwyno manylion eich gwelliannau cynlluniedig, efallai y bydd angen i ni drefnu i archwiliwr technegol ymweld â chi.

Gwneir hyn i sicrhau bod y dulliau rheoli cywir ar waith i leihau unrhyw bosibilrwydd y gallech chi, eich teulu a'r person sy'n gwneud y gwaith (os nad y chi yw) ddod i gysylltiad â rhywbeth. Mae rheoliadau llym ar waith ynghylch cael gwared ar asbestos, ac os ydych chi'n gwneud unrhyw waith heb ganiatâd ysgrifenedig, gallech fod yn atebol am unrhyw gostau yr eir iddynt.

Os ydych chi'n amau a yw unrhyw ddeunydd eisoes yn cynnwys asbestos, neu os ydych chi'n meddwl y gall fod eich cartref yn cynnwys deunydd asbestos wedi'i ddifrodi, cysylltwch â'ch swyddfa dai ardal.

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 27 Medi 2023