Achub Gwenoliaid Duon Abertawe
Mae'r Wennol Ddu (Apus apus) bellach ar restr goch Adar o Bryder Cadwraethol Cymru a'r du. Mae hyn oherwydd bod y boblogaeth wedi dirywio'n ddifrifol 58% rhwng 1995 a 2018.
Mae Cymdeithas Adaregol Gŵyr (CAG) a Chyngor Abertawe yn cydnabod bod angen camau gweithredu cadwraeth i fynd i'r afael â'r dirywiad mewn niferoedd gwenoliaid duon, ac yn chwilio am gefnogaeth gan bobl leol i helpu i warchod gwenoliaid duon yn Abertawe a Gŵyr. Mae amcanion y prosiect yn cynnwys:
Cofnodi gweithredol
Cynyddu ymwybyddiaeth o wenoliaid duon yn ein hardal gofnodi a'n helpu i gasglu gwybodaeth sylfaen er mwyn cynllunio arolygon y dyfodol.
Helpwch ni i ychwanegu cofnodion gwenoliaid duon at yr ap SwiftMapper am ddim: https://www.swiftmapper.org.uk/
Cynyddu cyfleoedd bridio
Cynyddu cyfleoedd bridio i adar drwy osod blychau a siarad â chyrff cyhoeddus, cwmnïau preifat a grwpiau amgylcheddol ar lawr gwlad.
Cynnal arolygon
Ychwanegu at y data cyfyngedig sydd ar gael ar hyn o bryd ar ble mae gwenoliaid duon yn bridio yn ein hardal gofnodi.
Mae Saving Swansea's Swifts yn brosiect Cymdeithas Adaregol Gŵyr a gefnogir gan Gyngor Abertawe.
Gwefan y prosiect: Saving Swansea's Swifts - Gower Ornithological Society
I ofyn cwestiynau am ymgyrch Saving Swansea's Swifts, e-bostiwch: swanseaswifts@gmail.com
Instagram @swanseaswifts