Toglo gwelededd dewislen symudol

Digwyddiadau Natur a Gwirfoddoli

Mae cymryd rhan mewn digwyddiadau awyr agored a gwirfoddoli'n ffordd wych o ddysgu sgiliau newydd, cysylltu â phobl, bod yn actif, gwella'ch lles corfforol a meddyliol a mwynhau eich hun, wrth helpu'r amgylchedd ar yr un pryd.

Mae nifer fawr o gynefinoedd gwahanol yn Abertawe, sy'n amrywio o glogwyni arfordirol, twyni tywod a morydau i ucheldiroedd, rhosydd a glaswelltiroedd yn ogystal â choetiroedd a gwlyptiroedd. Mae'r cynefinoedd hyn yn darparu cartrefi ar gyfer amrywiaeth o blanhigion ac anifeiliaid gwahanol, gan gynnwys rhai o'r rhywogaethau mwyaf prin a dan fygythiad yn y wlad.  

Mae Cyngor Abertawe a Thirwedd Genedlaethol Gŵyr yn cydnabod ac yn gwerthfawrogi sut y gall gwaith gwirfoddolwyr fod o fudd i'r byd natur, ac maent yn ymroddedig i'w cynnwys, lle bo'n briodol, er mwyn cefnogi gwaith sy'n mynd rhagddo i adfer natur

Mae cymryd rhan mewn digwyddiadau awyr agored a gwirfoddoli'n ffordd wych o ddysgu sgiliau newydd, cysylltu â phobl, bod yn actif, gwella'ch lles corfforol a meddyliol a mwynhau eich hun, wrth helpu'r amgylchedd ar yr un pryd. P'un a ydych chi'n gallu gwirfoddoli am ddiwrnod llawn, neu gwpl o oriau'n unig, mae eich amser yn gwneud gwahaniaeth mawr, a chyda'ch cymorth, gallwn gyflawni cymaint yn fwy.  

Mae ein cyfleoedd a'n digwyddiadau'n dymhorol a gallant gynnwys y canlynol:  

  • Y gwanwyn a'r haf  - rydym yn canolbwyntio ar arolygu (chwilio am) rhywogaethau: arolygon ieir bach yr haf a gwyfynod, teithiau tywys ystlumod, teithiau cerdded adar, glanhau traethau, cyfri tegeirian, arolygon y wennol ddu, digwyddiadau cofnodi rhywogaethau.
  • Yr hydref a'r gaeaf - rydym yn canolbwyntio ar reoli a gwella'n mannau gwyrdd: plannu coed, plannu blodau gwyllt, cael gwared ar rywogaethau goresgynnol, gwaith mynediad, prysgoedio, plygu perthi, codi sbwriel, creu cynefinoedd a chynnal coed.
  • Ar hyn o bryd, nid ydym yn cynnal diwrnodau gwirfoddoli rheolaidd, fodd bynnag, yn ystod yr hydref a'r gaeaf rydym yn trefnu Diwrnodau Tasgau Cadwraeth misol yng Gwarchodfa Natur Leol Coed yr Esgob.  

Rydym yn cymryd rhan yn Her Natur y Ddinas ac Wythnos Natur Cymru ac yn cydweithio'n aml â grwpiau cyfeillion parciau, elusennau, cymdeithasau, grwpiau natur a sefydliadau amrywiol eraill.  

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am ein gweithgareddau a chlywed am ein cyfleoedd a digwyddiadau sydd ar ddod, ymunwch â'n rhestr bostio.

I weld ein cyfleoedd a digwyddiadau presennol, cymerwch gip ar ein tudalen digwyddiadau a Thirwedd Genedlaethol Gŵyr.

Cofrestru i dderbyn diweddariadau e-byst am ddigwyddiadau natur a gwirfoddoli

Cofrestrwch yma i dderbyn ein e-byst am ddigwyddiadau natur a chyfleoedd gwirfoddoli.

Prosiect Pathewod y Cyll Coed yr Esgob

Yr haf hwn rydym yn gwneud arolygon o bathewod y cyll yng Ngwarchodfa Natur Leol Coed yr Esgob.

Achub Gwenoliaid Duon Abertawe

Mae'r Wennol Ddu (Apus apus) bellach ar restr goch Adar o Bryder Cadwraethol Cymru a'r du. Mae hyn oherwydd bod y boblogaeth wedi dirywio'n ddifrifol 58% rhwng 1995 a 2018.

Environmental events

Free and low-cost events in and around Swansea and Gower.

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 30 Gorffenaf 2024