Toglo gwelededd dewislen symudol

Achub Gwenoliaid Duon Abertawe

Mae'r Wennol Ddu (Apus apus) bellach ar restr goch Adar o Bryder Cadwraethol Cymru a'r du. Mae hyn oherwydd bod y boblogaeth wedi dirywio'n ddifrifol 58% rhwng 1995 a 2018.

Saving Swansea's Swifts logo

 

Mae Cymdeithas Adaregol Gŵyr (CAG) a Chyngor Abertawe yn cydnabod bod angen camau gweithredu cadwraeth i fynd i'r afael â'r dirywiad mewn niferoedd gwenoliaid duon, ac yn chwilio am gefnogaeth gan bobl leol i helpu i warchod gwenoliaid duon yn Abertawe a Gŵyr. Mae amcanion y prosiect yn cynnwys:

Cofnodi gweithredol

Cynyddu ymwybyddiaeth o wenoliaid duon yn ein hardal gofnodi a'n helpu i gasglu gwybodaeth sylfaen er mwyn cynllunio arolygon y dyfodol.

Helpwch ni i ychwanegu cofnodion gwenoliaid duon at yr ap SwiftMapper am ddim: https://www.swiftmapper.org.uk/

Cynyddu cyfleoedd bridio

Cynyddu cyfleoedd bridio i adar drwy osod blychau a siarad â chyrff cyhoeddus, cwmnïau preifat a grwpiau amgylcheddol ar lawr gwlad.

Cynnal arolygon

Ychwanegu at y data cyfyngedig sydd ar gael ar hyn o bryd ar ble mae gwenoliaid duon yn bridio yn ein hardal gofnodi.

 

Mae Saving Swansea's Swifts yn brosiect Cymdeithas Adaregol Gŵyr a gefnogir gan Gyngor Abertawe.

Gwefan y prosiect: Saving Swansea's Swifts - Gower Ornithological Society

I ofyn cwestiynau am ymgyrch Saving Swansea's Swifts, e-bostiwch: swanseaswifts@gmail.com

X @SwanseaSwifts

Instagram @swanseaswifts

 

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 10 Gorffenaf 2024