Rydym yn defnyddio cwcis ar y wefan hon i wella'r profiad i ddefnyddwyr. Gallwch ddilyn y ddolen a ddarperir yma i deilwra'ch profiad, neu dderbyn pob un a pharhau ar y dudalen hon.
Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.
Cyfeillion Castell Ystumllwynarth - Gwirfoddolwyr yn Eisiau!
Ydych chi'n mwynhau cwrdd â phobl newydd?
Oes gennych ddiddordeb mewn hanes, archaeoleg ac addysg?
Hoffech chi gymryd rhan yn eich cymuned leol?
Pwy ydyn ni?
Wedi'i sefydlu ym 1989, mae Cyfeillion Castell Ystumllwynarth yn grŵp gwirfoddol o bobl sy'n rheoli'r castell o ddydd i ddydd yn ystod y tymor agored.
Mae'r castell wedi cael gwaith cadwraeth gwerth miliynau o bunnoedd yn ddiweddar ac mae'r datblygiadau hyn wedi cymryd rhan ym mywyd y castell yn fwy cyffrous nag erioed.
Caiff unrhyw un ymuno fel cyfaill a gwirfoddoli. P'un a ydych chi newydd ymddeol, yn fyfyriwr sy'n chwilio am brofiad gwaith neu'n rhywun sydd ag ychydig oriau'n rhydd - mae llawer o gyfleoedd newydd i gymryd rhan ynddyn nhw yng Nghastell Ystumllwynarth.
Pa rôl bynnag rydych chi'n ei dewis, does dim angen profiad blaenorol arnoch chi a chewch gefnogaeth a hyfforddiant llawn.
Mae dod yn gyfaill yn llawer o hwyl ac yn rhoi'r cyfle i chi ddysgu am hanes y castell, yn ogystal â chwrdd ag ymwelwyr sy'n dod o bedwar ban byd.
Rolau Gwirfoddoli
Fel tywysydd
Datblygu addysg a dysgu gydol oes
Ehangu ein gwybodaeth am hanes y castell trwy ymchwil
Cynorthwyo gyda chreu a threfnu digwyddiadau
Croesawu ymwelwyr a rhannu gwybodaeth
Manteision Gwirfoddolwyr
Mae gan bob cyfaill yr hawl i'r canlynol:
Mynediad am ddim i Gastell Ystumllwynarth, gyda 2 aelod o'r teulu
Cyfleoedd rheolaidd i fynd i ddigwyddiadau cymdeithasol
Y cyfle i gael mynediad i amrywiaeth o gefnogaeth a hyfforddiant parhaus