Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - Nadolig a'r Flwyddyn Newydd

Gwybodaeth am wyliau'r banc - Nadolig a'r Flwyddyn Newydd Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor, casgliadau ailgylchu a chysylltiadau brys.

Gwirfoddoli yng Nghastell Ystumllwynarth

Gwnewch gais i fod yn wirfoddolwr yng Nghastell Ystumllwynarth

Volunteer at Oystermouth Castle

Sylwer: Cyfeillion Castell Ystumllwynarth fydd yn ymdrin yn uniongyrchol â'r ceisiadau i fod yn wirfoddolwr yng Nghastell Ystumllwynarth a gyflwynir gan ddefnyddio'r ffurflen isod. Os oes gennych unrhyw gwestiynau am fod yn wirfoddolwr neu am eich cais, mae croeso i chi e-bostio'r Cyfeillion yn uniongyrchol yn Cyfeillion Castell Ystumllwynarth

Os oes gennych unrhyw gollfarnau cyfredol efallai y byddwn yn gofyn i chi eu datgan pan fyddwch yn dod i gael sgwrs â ni. Os oes gennych ddiddordeb mewn rôl sy'n ymwneud â gwirfoddoli gyda phlant a/neu oedolion diamddiffyn, byddwn yn gofyn am wybodaeth am gollfarnau troseddol cyfredol neu wedi'u disbyddu. Ni fydd cael cofnod troseddol o angenrheidrwydd yn eich atal rhag gwirfoddoli gyda ni.

Bydd un o'n hyfforddwyr yn cysylltu â chi i drafod sut gallwch helpu yn y castell ac i drefnu eich hyfforddiant. Ar ôl eich hyfforddiant cewch wybod a yw eich cais wedi bod yn llwyddiannus.

Mae'r castell yn weithredol 6 diwrnod yr wythnos gan gynnwys penwythnosau. Gall yr oriau amrywio gan ddibynnu ar y rôl a gyflawnir.

Unwaith eich bod wedi cytuno i weithio ar dasg a neilltuwyd i chi, byddwn yn gofyn i chi anrhydeddu'r ymrwymiad hwnnw pryd bynnag y bo modd.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am y Cyfeillion ar wefan Cyfeillion Castell Ystumllwynarth (Yn agor ffenestr newydd)

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 19 Medi 2024