Gwiriadau diogelwch nwy i landlordiaid preifat
Mae'n rhaid i landlordiaid gael gwiriad diogelwch gan beiriannydd Diogelwch Nwy cofrestredig ar yr holl beiriannau yn eu heiddo bob 12 mis. Mae'n rhaid i chi roi copi o'r gwiriad hwnnw i'ch tenant o fewn 28 niwrnod neu i denant newydd cyn iddo symud i mewn.
Dim ond peirianwyr Diogelwch Nwy cofrestredig a ddylai wneud gwaith ar beiriannau neu osodiadau yn eich cartref.
Gallwch wirio a yw'ch peiriannydd nwy wedi'i gofrestru'n gywir trwy ffonio 0800 408 5500 neu drwy edrych ar wefan y gofrestr Diogelwch Nwy (Yn agor ffenestr newydd).
Mae'n rhaid i chi gadw'ch cofnodion diogelwch nwy am ddwy flynedd.
Dwi'n denant, beth mae hyn yn ei olygu i mi?
Os ydych yn denant, gadewch y peiriannydd Diogelwch Nwy cofrestredig i mewn i'r eiddo i gynnal y gwiriad. Bydd ganddo gerdyn adnabod a dylech ofyn am ei weld.
Os ydych yn meddwl bod nam ar unrhyw beiriant nwy, diffoddwch ef a chysylltwch â'ch landlord neu'ch asiant. Mewn argyfwng, ffoniwch y Rhif Ffôn Argyfwng Nwy, sef 0800 111 999.