Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweithio Abertawe - Arweiniad ar gynllunio a chyrraedd nodau

Gallwn eich helpu gyda chynllunio fel y gallwch gyrraedd eich nodau.

  • Ble ydw i'n dechrau?
  • Sut rwyf yn gwneud cynlluniau a nodau?
  • Sut rwyf yn ailosod fy ysgogwyr?

Bydd staff Abertawe'n Gweithio yn eich arwain i'r cyfeiriad iawn i gael gwasanaethau mentora un i un am ddim gyda'n staff neu gyfle i ymuno ag unigolion eraill ar lwybr tebyg i'ch un chi.

Gall Abertawe'n Gweithio ddefnyddio cynlluniau datblygu gyda chi i fapio'ch taith. Gall AG eich helpu i gynllunio pob cam tuag at ddatblygu'ch gyrfa, bodloni'ch amcanion a chael a chadw'ch swydd ddelfrydol.

Eich anghenion chi fydd ffocws y berthynas fentora hon. ANELWCH YN UCHEL gan y byddwn yn gwneud y gorau y gallwn i'ch cefnogi chi os ydych chi'n dangos eich bod yn ymroddedig.

Bydd y mentor yn gofyn i chi ystyried nodau eich gyrfa; gallai'r rhain fod yn rhai tymor hir a thymor byr, ond dylent bob amser fod yn rhai CAMPUS:

Cyraeddadwy

Amserol

Mesuradwy

Penodol

Uchelgeisiol

Unwaith eich bod wedi gosod eich nodau tymor hir a thymor byr, bydd eich mentor yn gweithio gyda chi i lunio cynllun gweithredu. Weithiau nid yw pobl 100% yn siŵr o'r hyn maen nhw am ei wneud a gallwn eich cefnogi drwy hyn drwy ddeall eich gwerthoedd.

 

Cynllunio ar gyfer Gweithredu

Bydd angen cefnogaeth ar rai o gyfranogwyr Abertawe'n Gweithio gyda:

  • Gofal plant    
  • Problemau ariannol
  • Diffyg cymwysterau addas    
  • Iechyd meddwl neu gorfforol gwael
  • Cludiant    
  • Diffyg profiad gwaith
  • Euogfarnau blaenorol    
  • Problemau camddefnyddio sylweddau

Bydd yn cymryd ymroddiad ar eich rhan chi i gyrraedd eich nodau. Bydd angen i chi nodi'ch cryfderau a'ch gwendidau er mwyn symud ymlaen â'ch gyrfa. Drwy drafodaethau agored a gonest â ni, byddwn yn gallu'ch helpu chi i ddod o hyd i'ch cryfderau a goresgyn eich gwendidau.