Toglo gwelededd dewislen symudol

Y Gronfa Ffyniant Gyffredin - gwybodaeth galwad agored

Dyma'r alwad agored am brosiectau o dan Gronfa Ffyniant Gyffredin y Deyrnas Unedig ar gyfer ardal sir Abertawe, sy'n rhan o ranbarth De-orllewin Cymru.

Sut galla' i wneud cais trwy'r alwad agored hon am brosiectau?

Mae'r alwad agored hon yn cynnwys tair elfen:

Rhan 1: Gweithgarwch ehangach y rhaglen (lle nad yw hyn yn dyblygu darpariaeth 'angori' a chymorth / cynlluniau grant) - gweler isod. 

Rhan 2: Ymyriadau sgiliau wedi'u targedu at anghenion rhanbarthol a lleol 

Rhan 3: Ymyriadau Multiply ar gyfer ymyriadau rhifedd wedi'u targedu at anghenion rhanbarthol a lleol 

Mae Cyngor Abertawe yn cynnal chwech prosiectau 'angori' ar themâu allweddol y rhaglen sy'n cyd-fynd â strategaethau corfforaethol a phartneriaeth. Mae'r rhain yn cynnwys amrywiaeth o fesurau cymorth, gweithgareddau wedi'u comisiynu a chynlluniau grant trydydd parti, y mae eu manylion wedi'u hamlinellu isod:

Enw'r Prosiect Angori

Gweithgarwch

Prosiect Angori Cefnogi Cymunedau

Cyllid grant ar gyfer prosiectau cymunedol/trydydd sector

Prosiect Angori Trawsnewid Lleoedd ar draws y Sir

Cronfa dichonoldeb a phrosiect ar gyfer strwythurau hanesyddol ac ardaloedd cadwraeth

Gwelliannau ar raddfa fach i bentrefi a chanol trefi

Grantiau gwella busnes

Gweithgareddau a llwybrau adfywio economaidd a arweinir gan dreftadaeth

Mannau yn y cyfamser (comisiynu)

Astudiaethau dichonoldeb strategol

Yn amodol ar gymeradwyaeth derfynol, bydd y prosiect angori Trawsnewid Lleoedd ar draws y Sir yn cynnwys amrywiaeth o weithgareddau i gefnogi adfywio trefi a phentrefi ar draws y sir, ac yn ategu at yr arian sydd eisoes ar gael trwy Raglen Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru.

Bydd y cynlluniau grant canlynol ar gael:

Prosiect Adeileddau Hanesyddol a Chronfa Dichonoldeb: Grantiau o £5,000 hyd at £450,000 i hwyluso prosiectau neu astudiaethau dichonoldeb a fydd yn golygu bod adeileddau hanesyddol rhestredig yn cael eu defnyddio eto at ddibenion buddiol. Bydd angen i'r holl gynlluniau gael eu cwblhau erbyn mis Rhagfyr 2024, felly bydd angen i brosiectau sy'n gofyn am gyllid grant mwy fod ar gam 3 RIBA o leiaf i wneud cais. Mae'n rhaid i ddefnydd terfynol o'r adeilad gynnwys arwynebedd llawr masnachol. Ni fydd cynlluniau preswyl yn unig a chynlluniau sy'n creu llety i fyfyrwyr yn gymwys. Bydd hyd at 100% o gyllid ar gael i gynlluniau cymunedol neu a arweinir gan yr awdurdod lleol, ond byddai arian cyfatebol yn fanteisiol. Bydd hyd at 70% o gyllid ar gael i ymgeiswyr o'r sector preifat sy'n destun rheolau Rheoli Cymorthdaliadau a thystiolaeth o fwlch dichonoldeb. Disgwylir i'r gronfa agor ym mis Ebrill 2023. 

Grant Creu Lleoedd Trawsnewid Lleoedd ar draws y Sir: Grantiau cyfalaf gwerth hyd at £30,000 i gefnogi prosiectau creu lleoedd yn y sir ehangach, y tu allan i ganol y ddinas. Caiff canolfannau masnachol a chanolfannau ardal eu blaenoriaethu dros leoliadau eraill. Bydd y grant yn darparu cyllid ar gyfer adnewyddu eiddo masnachol gwag; gwelliannau i flaenau siopau (Grantiau Gwella Busnes); isadeiledd gwyrdd a phrosiectau man gwyrdd; cynlluniau teithio llesol ar raddfa fach a mannau cyhoeddus. Bydd deiliaid neu berchnogion eiddo masnachol, ymddiriedaethau a gyfansoddwyd yn gyfreithiol a chanddynt hanes da, yr awdurdod lleol a chynghorau tref/cymuned yn gymwys i wneud cais. Mae hyd at 70% o gyllid ar gael sy'n destun rheolau rheoli cymorthdaliadau. Disgwylir i'r gronfa agor ym mis Ebrill 2023. 

Yn ogystal â'r cynlluniau arian grant bydd y Prosiect Angori Trawsnewid Lleoedd ar draws y Sir hefyd yn darparu'r canlynol:

Gwelliannau ar raddfa fach i Bentrefi a Chanolau Trefi: arweiniodd yr awdurdod lleol welliannau glasu/isadeiledd gwyrdd a mannau cyhoeddus mewn trefi a phentrefi yn y sir. 

Gweithgareddau adfywio a arweinir gan dreftadaeth: gweithgareddau i gynyddu nifer yr ymwelwyr a chefnogi busnesau presennol mewn canolfannau ardal trwy gefnogaeth barhaus ar gyfer ymgyrchoedd Siopa'n Lleol a digwyddiadau lleol fel y Ffair Nadolig Fictoraidd yn Nhreforys. 

Llwybrau Treftadaeth - arian i gomisiynu ap ffonau clyfar a fyddai'n cynnig teithiau cerdded tywys ar lwybrau treftadaeth. 

Mannau Dros Dro: arian i gomisiynu cyflwyno prosiect mannau dros dro a fyddai'n defnyddio eiddo masnachol gwag yng nghanol y ddinas a chanolfannau ardal i ddarparu lle ar gyfer busnesau newydd i dreialu presenoldeb ar y stryd fawr am gost isel, a/neu gyflwyno gweithgareddau dros dro er mwyn ychwanegu bywyd a chynyddu nifer yr ymwelwyr i gefnogi busnesau sydd eisoes yn bodoli. 

Cyllido torfol: llwyfan cyllido torfol er mwyn galluogi grwpiau cymunedol lleol i godi arian ar gyfer prosiectau mewn cymunedau lleol ar draws Abertawe. 

Astudiaethau Dichonoldeb Strategol: arian i gomisiynu astudiaethau dichonoldeb su'n cefnogi blaenoriaethau adfywio strategol ar draws Dinas a Sir Abertawe. 

Prosiect Angori Diwylliant a Thwristiaeth

Datblygu rhwydwaith creadigol, cymorth i'r sector, sgiliau digidol cyfunol, strategaeth a dichonoldeb

Prosiect Angori Gwledig

Olynydd-brosiect i'r Rhaglen Datblygu Gwledig sy'n darparu cyllid ar gyfer datblygu cymunedol gwledig, gweithgareddau wedi'u seilio ar y newid yn yr hinsawdd a sero net a gweithgareddau busnes gwledig

Prosiect Angori Cefnogi Busnes

Grantiau Busnes - grantiau dechrau busnes, grantiau twf, grantiau datblygu gwefan, grantiau datblygu cyflenwyr

Digwyddiadau cymorth busnes a hunangyflogaeth, gweithdai datblygu cyflenwyr, digwyddiadau cynhyrchwyr bwyd lleol

Grantiau a hyfforddiant lleihau carbon i fusnesau

Digwyddiadau yng nghanol y ddinas sy'n gysylltiedig â Marchnad Abertawe er mwyn cynyddu nifer yr ymwelwyr

Cronfa Datblygu Eiddo Masnachol

Cymorth datblygu busnes i'r trydydd sector

Grantiau Busnes:

Grant Busnes Cyn Dechrau

Dyma grant gyda'r nod o gefnogi busnesau newydd. Mae'r grant ar gael i'r rheini sy'n bwriadu dechrau busnes yn unig a gall ariannu costau gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i offer, hyfforddiant, achredu a marchnata.

Yr uchafswm grant sydd ar gael yw £10,000. Mae'r gronfa'n cynnig hyd at 95% o gostau'r prosiect ar gyfer y £1,000 cyntaf o wariant a 50% ar gyfer gwariant rhwng £1,000 a £10,000. Bydd yn ofynnol i bob ymgeisydd ddarparu cynllun busnes a rhagolwg llif arian 12 mis.

Grant Datblygu Gwefannau

Dyma grant gyda'r nod o fabwysiadu technoleg newydd drwy ddatblygiad ar-lein/gwefannau. Gall y grant ariannu costau sy'n ymwneud â chreu gwefan fusnes am y tro cyntaf neu wella gwefan sy'n bodoli eisoes.

Yr uchafswm grant sydd ar gael yw £1,500. Bydd y grant yn ei gwneud yn ofynnol i ymgeiswyr ddarparu 50% o gostau arian cyfatebol. Bydd yn ofynnol i bob ymgeisydd ddarparu cynllun busnes/crynodeb a rhagolwg llif arian 12 mis.

Grant Lleihau Carbon

Dyma grant gyda'r nod o alluogi busnesau i weithio tuag at ddod yn garbon sero net. Gall y grant ariannu costau gan gynnwys cynhyrchu ynni adnewyddadwy, mesurau arbed ynni a newidiadau i brosesau gweithgynhyrchu sy'n arwain at leihau allyriadau carbon; rhaid i ymgeiswyr allu cyfrifo'u harbedion carbon rhagweledig.

Yr uchafswm grant sydd ar gael yw £10,000. Bydd y grant yn ei gwneud yn ofynnol i ymgeiswyr ddarparu 50% o gostau arian cyfatebol.Bydd yn ofynnol i bob ymgeisydd ddarparu cynllun busnes/crynodeb a rhagolwg llif arian 12 mis.

Grant Twf Busnesau

Dyma grant gyda'r nod o gefnogi twf busnes drwy gyflwyno cynnyrch neu wasanaeth newydd. Gall y grant ariannu costau gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i offer, systemau TG a pheiriannau.

Uchafswm y grant sydd ar gael yw £50,000 yn seiliedig ar derfyn uchaf o £5,000 fesul swydd a gaiff ei chreu a/neu ei diogelu. Rhaid i'r swyddi sy'n cael eu creu a/neu eu diogelu, y cynnyrch neu'r gwasanaeth newydd a'r gwariant arfaethedig i gyd gysylltu'n uniongyrchol â'i gilydd. Bydd yn ofynnol i bob ymgeisydd ddarparu cynllun busnes/crynodeb a rhagolwg llif arian 12 mis.

Grant Datblygiad Cyflenwyr

Dyma grant gyda'r nod o ddarparu gwasanaeth newydd wrth ymgymryd â hyfforddiant er mwyn ennill achrediad a gydnabyddir gan y sector. Bydd hyn o gymorth i fusnesau sy'n dymuno gwneud cais am gontractau sector cyhoeddus a/neu ar raddfa fwy.

Yr uchafswm grant sydd ar gael yw £1,000. Bydd y grant yn ei gwneud yn ofynnol i ymgeiswyr ddarparu 50% o gostau arian cyfatebol. Bydd yn ofynnol i bob ymgeisydd ddarparu crynodeb busnes a rhagolwg llif arian 12 mis.

Gweithgareddau Cymorth i Fusnesau:

Rhaglen o weithdai a digwyddiadau Busnes Abertawe i gefnogi busnesau newydd a rhai sydd eisoes wedi'u sefydlu trwy drafod pynciau fel cyfraith cyflogaeth, mynediad at gyllid, seiberddiogelwch, cyfrifeg a marchnata ar y cyfryngau cymdeithasol. Gallai hyn gynnwys cyrsiau cyflwyniad i hunangyflogaeth i unigolion sy'n ystyried dechrau eu busnes eu hunain (sy'n gysylltiedig â phrosiectau cyflogadwyedd).

Byddai'r Rhaglen Datblygu Cyflenwyr yn mynd i'r afael â'r angen hwn ac yn darparu gwasanaethau GwerthwchiGymru, e-dendro Cymru a sut i gyflenwi gweithdai Cyngor Abertawe i roi'r sgiliau i fusnesau bach i allu tendro ar gyfer y cyngor a chontractau eraill trwy GwerthwchiGymru.

Cefnogi busnesau bwyd lleol a chyflwyno rhaglen waith 'Hyrwyddo Bwyd Lleol' yn y Cynllun Adferiad Economaidd mewn partneriaeth â Phartneriaeth Bwyd Abertawe. Bwriad y gwaith hwn yw lleihau'r cadwyni cyflenwi bwyd yn Abertawe, cynyddu ymwybyddiaeth o fwydydd lleol a chynyddu proffil Abertawe fel cyrchfan bwyd.

Cefnogi Busnesau i Gyrraedd y Targed Sero Net:

Ynghyd â'r Grant Lleihau Carbon i Fusnesu, byddai Angor Busnes Abertawe'n cyfrannu tuag at gyrsiau hyfforddi Tuag at Garbon Sero a fyddai'n cynnwys archwiliadau ynni/lleihau carbon ar gyfer busnesau bach a chanolig yn Abertawe.

Denu mwy o ymwelwyr trwy ddigwyddiadau:

Cyllid ar gyfer swyddog digwyddiadau canol y ddinas i fod yn rhan o Dîm Rheoli Canol y Ddinas a chyllideb digwyddiadau i gyflwyno digwyddiadau sy'n gysylltiedig â Marchnad Abertawe i gynyddu niferoedd ymwelwyr er budd busnesau presennol.

Cronfa Datblygu Eiddo:

Arian o gronfa arian grant gwerth £1.5m, ar raddfa ymyriad o 45% ar y mwyaf, i ariannu bylchau mewn datblygiad arwynebedd llawr masnachol mewn lleoliadau cyflogaeth strategol ar draws y sir. Bydd hyn yn cyd-fynd â chyllid datblygu eiddo Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru, sydd ar gael yng nghanol dinesydd a threfi'n unig.

Prosiect Angori Cyflogadwyedd - Llwybrau at Waith

Darpariaeth gyflogadwyedd amlasiantaethol a gydlynir gan y Cyngor a fydd yn cynnwys:

Atal NEET (pobl nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant) (olynydd Cynnydd)

Cymorth NEET ôl-16 (olynydd Cam Nesa)

Cymorth cyflogadwyedd gwell i bobl 16+ oed Economaidd Anweithgar a Di-waith Hirdymor

Lleoliadau Gwaith am Dâl

Hyb Cyflogaeth Canol y Ddinas

Cymorth i'r rhai sy'n gadael y carchar

Cronfa cymorth cyflogadwyedd arbenigol o £2m i'w lansio fel galwad agored. I gynnwys darpariaeth Saesneg ar gyfer Siaradwyr Ieithoedd Eraill (ESOL), a chynorthwyo pobl ag anableddau a chyflyrau iechyd sy'n cyfyngu ar waith.

Mae Cyngor Abertawe yn lansio Rhaglen Angori Cyflogadwyedd newydd (Yn amodol ar gymeradwyaeth), Llwybrau at Waith dan flaenoriaeth Pobl a Sgiliau Cronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU.

Mae'r Rhaglen Angori Cyflogadwyedd newydd yn adeiladu ar lwyddiant  prosiect 'Llwybrau at Waith' UKCRF i barhau ymagwedd amlasiantaeth gydlynol at gyflwyno darpariaeth cyflogadwyedd a sgiliau.

Bydd amryfal bartneriaid cyflwyno'n dod ag arbenigeddau ynghyd i ddarparu cynnig cefnogaeth mwy cyfannol i unigolion a chreu llwybrau i feysydd gwaith allweddol drwy ddarparu cefnogaeth cyflogadwyedd, sgiliau a hyfforddiant, sgiliau chwilio am swyddi, cyfleoedd gwirfoddoli a lleoliadau.

Mae'r prosiect yn canolbwyntio ar fylchau yn y ddarpariaeth bresennol ac anghenion lleol i ategu darparwyr presennol drwy greu llwybrau cyflogadwyedd a gyflwynir gan weithwyr allweddol drwy ddarpariaeth:

  • Cefnogaeth atal NEET mewn ysgolion uwchradd/UCD
  • Cefnogaeth ymgysylltu ar gyfer pobl ifanc NEET a'r rheini sy'n anweithgar yn economaidd
  • Cefnogaeth cyflogadwyedd fanwl
  • Cefnogaeth sgiliau a hyfforddiant
  • Sgiliau digidol
  • Gwirfoddoli, profion gwaith a lleoliadau gwaith â thâl
  • Clwb swyddi'n gysylltiedig â chyflogwyr lleol
  • Darpariaeth cyflogadwyedd arbenigol drwy gynllun grant trydydd parti

Y nod yw symud unigolion di-waith neu sy'n anweithgar yn economaidd drwy becyn pwrpasol o ymyriadau i mewn i'r farchnad lafur neu'n agosach ati.

Bydd galwad agored yn cael ei lansio yn ystod yr wythnos sy'n dechrau 27 Mawrth ar gyfer darpariaeth gyflogadwyedd arbenigol i ymuno â'r bartneriaeth llwybrau.

I gael rhagor o wybodaeth, e-bostiwch dîm y Gronfa Ffyniant Gyffredin ar SPF@abertawe.gov.uk neu'r tîm llwybrau ar pathwaystowork@abertawe.gov.uk.

Os yw'ch cynnig yn cyd-fynd a'r Cynllun Buddsoddi Rhanbarthol ac yn tu allan i weithgareddau'r Prosiect Angori, fe allech ddymuno cyflwyno'ch cynnig trwy'r Alwad Agored hon.

Faint o arian sydd ar gael?

  • O leiaf £8m o gyllid ar gael ar gyfer yr Alwad Agored Rhaglen Ehangach
  • O leiaf £3m ar gael am yr Alwad Agored Sgiliau 
  • Mae na £5,207,661 ar gael am yr Alwad Agored Multiply

Rhaglen cyllid refeniw yw Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU yn bennaf, fodd bynnag, mae lleiafswm o 10% o gyfalaf ar gael. Gall ymgeiswyr ofyn am gymysgedd o gyllid refeniw a chyfalaf fel sy'n briodol.

Sut i wneud cais am holl brosiectau'r Alwad Agored

  • I ddechrau, dylai ymgeiswyr sicrhau nad yw eu gweithgareddau arfaethedig yn dyblygu'r Prosiectau Angori
  • Mae Prosiectau Angori'n darparu llwybrau mynediad wedi'u teilwra ar gyfer sefydliadau llai o faint, felly fe'ch cynghorir i wirio'r ddewislen opsiynau sydd ar gael cyn cyflwyno cynnig i'r alwad agored gyffredinol.
  • Rhaid llenwi eich ffurflen gais ar-lein, ynghyd ag Atodiad A. Bydd angen i bob ymgeisydd lenwi ffurflen gais yr SPF gan ddefnyddio'r Canllawiau Ymgeisio.
  • Gofynnir i ymgeiswyr preifat a sector gwirfoddol anfon copi o'r cyfrifon diweddaraf hefyd. Sicrhewch fod yr holl ddogfennaeth yn cael ei gwblhau cyn dyddiad cau'r cais neu ni dderbynnir y cais.
  • Bydd Tîm yr SPF yn asesu'ch cais ac yn cysylltu â chi gyda rhagor o wybodaeth.

Mae'r dogfennau canlynol ar gael trwy'r ddolen isod neu i'w lawrlwytho:

A oes unrhyw gymorth ar gael gyda'r broses ymgeisio? 

Cynghorir ymgeiswyr i anfon neges e-bost at SPF@swansea.gov.uk os oes arnynt angen cymorth gyda'r broses ymgeisio. Bydd y tîm yn falch o esbonio unrhyw agweddau ar y broses sy'n aneglur, ond nid oes mentora manwl unigol ar gael. 

 

Rhan 1: Galwad agored rhaglen ehangach

Prosiectau sy'n cynnig gweithgarwch sydd yn cyd-fyn a'r Cynllun Buddsoddi Rhanbarthol nad yw'n cael ei ddarparu trwy Brosiect Angori.

Rhaid i bob cais prosiect a gyflwynir drwy alwad agored gysylltu'n uniongyrchol â'r problemau a'r cyfleoedd a nodir yn y Cynllun Buddsoddi Rhanbarthol, a rhaid iddynt gyflwyno yn erbyn allbynnau a chanlyniadau Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU.

 

Rhan 2: Galwad agored sgiliau

Yn unol â'r portffolio ymyriadau UKSPF a nodwyd gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig a'r blaenoriaethau a amlinellwyd yng Nghynllun Buddsoddi Rhanbarthol De-orllewin Cymru, mae'r fframwaith hwn yn disgrifio'r dull arfaethedig o ddarparu ymyriadau cysylltiedig â sgiliau yn Abertawe fel sail i alwad am gynigion gan sefydliadau sydd â'r capasiti a'r gallu i ddarparu ar y raddfa, y cwmpas, y cyflymder a'r effaith sy'n ofynnol.

Y gofyniad craidd yw darparu cymorth hyfforddi, ailhyfforddi ac uwchsgilio hanfodol, technegol a galwedigaethol wedi'i dargedu ar gyfer oedolion 19+ oed yn unol ag anghenion sgiliau lleol a blaenoriaethau economaidd rhanbarthol.

Bydd angen i'r darparwr / darparwyr llwyddiannus ddangos tystiolaeth o'u profiad o ddarparu cymorth sgiliau, datblygu'r gweithlu a chamu ymlaen yn y gwaith wedi'i dargedu, a'u gallu i wneud hynny, ar gyfer unigolion a busnesau yn Abertawe yn rhan o gyfres gysylltiedig a chyson o gymorth cyfatebol (a gaffaelir ar wahân gan awdurdodau lleol eraill) ledled rhanbarth De-orllewin Cymru. Bydd hefyd angen iddynt ddangos tystiolaeth o'u gallu i ddarparu dysgu gyda phwyslais clir ar gyflawni canlyniadau pendant (cymwysterau, cyflogaeth a chamu ymlaen mewn swydd) wrth ymadael.

Bydd angen i'r ddarpariaeth gynnwys cymysgedd o gymwysterau byr a gydnabyddir gan ddiwydiant, cymwysterau hwy a gydnabyddir yn genedlaethol (e.e. cymwysterau NVQ) a chyrsiau anachrededig wedi'u teilwra lle mae tystiolaeth glir o'r angen a'r galw.

Bydd angen i'r ddarpariaeth fynd i'r afael ag anghenion cyflogwyr ac unigolion a chyd-fynd yn glir â chynlluniau twf lleol sy'n gysylltiedig â'r Fargen Ddinesig, y Cynllun Cyflawni Economaidd Rhanbarthol a'r Cynllun Cyflogaeth a Sgiliau Rhanbarthol. Felly, bydd angen i gynigion ddangos sut maen nhw'n mynd i'r afael ag anghenion sgiliau lleol presennol a rhai sy'n dod i'r amlwg, ac yn ategu buddsoddiad ehangach wedi'i seilio ar le ar draws Dinas a Sir Abertawe a rhanbarth ehangach De-orllewin Cymru. Felly, disgwyliwn i'r ddarpariaeth gynnwys cyfuniad o weithgareddau sy'n:

  1. manteisio ar gyfleoedd ac anghenion yr ardal leol, yn enwedig y rhai hynny sy'n bodloni anghenion economi gynyddol werdd a digidol; 
  2. darparu cymorth wedi'i dargedu i fusnesau sy'n profi heriau yn ymwneud â'r gweithlu a/neu sy'n dangos potensial i dyfu o bob maint ac ar draws pob sector, gyda phwyslais arbennig ar ynni, adeiladu, diwydiannau creadigol, gwyddoniaeth, gweithgynhyrchu uwch, TGCh, modurol, peirianneg, gwasanaethau proffesiynol ac ariannol, bwyd, gofal a thwristiaeth; a 
  3. chynorthwyo cyflogwyr a mentrau i addasu i heriau economaidd a marchnad lafur presennol ac yn y dyfodol trwy godi lefelau sgiliau a chynyddu gallu'r gweithlu i addasu, ei symudedd a'i gynhyrchedd, yn enwedig trwy gaffael sgiliau y mae galw mawr amdanynt, fel:
  • Sgiliau mewn technoleg newydd 
  • Sgiliau TG uwch neu arbenigol
  • Sgiliau ynni adnewyddadwy 
  • Sgiliau peirianneg arbenigol 
  • Sgiliau gweithgynhyrchu clyfar
  • Sgiliau codio/datblygu'r we 
  • Sgiliau gyrru HGV/LGV 
  • Sgiliau adeiladu ôl-osod 
  • Sgiliau Cymraeg llafar 
  • Sgiliau Cymraeg ysgrifenedig
  • Sgiliau llythrennedd
  • Sgiliau llythrennedd digidol.

Er mwyn sicrhau'r effaith fwyaf, bydd angen i gynigion gael eu targedu'n briodol tuag at sectorau sy'n cynnig y potensial mwyaf i alluogi unigolion a busnesau i gynyddu eu sgiliau, eu gallu i addasu, a'u gallu cynhyrchiol, ac yn yr un modd tuag at gaffael sgiliau trosglwyddadwy a galwedigaethol sydd â'r potensial mwyaf i fod o fudd i unigolion, busnesau a'r economi ehangach. Felly, mae'n ofynnol i gynigwyr amlinellu yn eu cynigion pa sectorau/sgiliau maen nhw'n bwriadu eu targedu a pham, gan ddangos tystiolaeth o angen. Bydd angen iddynt hefyd ddangos ychwanegedd h.y. sut a pham na ellir cyflawni'r cynnig trwy ddarpariaeth sydd eisoes yn cael ei hariannu. 

Dylai cynigwyr hefyd amlinellu pa agweddau ar eu cynnig maen nhw'n ystyried eu bod yn arloesol, gan gynnwys sut bydd y ddarpariaeth yn cael ei haddasu i weddu i anghenion ac amgylchiadau cyflogwyr a chyflogeion, yn enwedig y rhai hynny sydd wedi profi rhwystrau rhag cael mynediad at addysg a hyfforddiant, a sut byddant yn sicrhau bod dysgwyr yn cael eu cynorthwyo i ddefnyddio sgiliau i'r eithaf e.e. trwy gadw swydd, camu ymlaen yn y gwaith a/neu newid gyrfa. 

 

Rhan 3: Galwad agored multiply

Yn unol â'r portffolio ymyriadau UKSPF a nodwyd gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig a'r blaenoriaethau a amlinellwyd yng Nghynllun Buddsoddi Rhanbarthol De-orllewin Cymru, a chan ychwanegu at y dull llwyddiannus o ddarparu sgiliau hanfodol a dreialwyd yn Abertawe trwy'r prosiect Llwybrau at Waith a ariennir gan y Gronfa Adnewyddu Cymunedol a modelau llwyddiannus diweddar eraill o ddarparu sgiliau hanfodol yn y gymuned a'r gweithle, mae'r fframwaith hwn yn disgrifio'r dull arfaethedig o gyflwyno'r rhaglen Multiply yn Abertawe fel sail i alwad am gynigion gan sefydliadau sydd â'r capasiti a'r gallu i ddarparu ar y raddfa, y cwmpas, y cyflymder a'r effaith sy'n ofynnol.

Y gofyniad craidd yw darparu cymorth sgiliau rhifedd hyblyg i oedolion 19+ oed nad oes ganddynt gymhwyster mathemateg Lefel 2 neu uwch. 

Bydd angen i'r darparwr/darparwyr llwyddiannus ddangos tystiolaeth o'u profiad o ymwneud ag amrywiaeth eang o bartneriaid cymunedol, a'u gallu i wneud hynny, er mwyn ymgysylltu ag unigolion anodd eu cyrraedd a'u cynorthwyo i gael mynediad at ddysgu a chymryd rhan ynddo'n barhaus. Bydd angen iddynt hefyd ddangos tystiolaeth o'u gallu i ddarparu dysgu gyda phwyslais deuol ar gyflawni canlyniadau pendant (cymwysterau, cyflogaeth) a chanlyniadau meddal (cyflogadwyedd, sgiliau bywyd) wrth ymadael.

Bydd angen i'r ddarpariaeth gael ei chyflwyno gan Ymarferwyr Sgiliau Hanfodol cymwysedig sy'n gallu darparu hyfforddiant hyblyg wedi'i deilwra i anghenion, galluoedd ac amgylchiadau unigol. Bydd hyn yn gofyn am raglen dreigl o gyrsiau hyblyg, wyneb yn wyneb, digidol a/neu gyfunol o lefel/hyd amrywiol ynghyd â thiwtora un i un, a ddarperir mewn lleoliadau hygyrch ledled dinas a sir Abertawe. Felly, disgwyliwn y bydd y rhaglen Multiply yn Abertawe yn cael ei darparu trwy gyfuniad o:

  1. Hyfforddiant Rhifedd Personol, a ddarperir ar sail un i un dros gyfnod parhaus ac sy'n cael ei deilwra i gyd-destun amgylchiadau bywyd/gwaith a dyheadau'r dysgwr;
  2. Cyrsiau Rhifedd Dwys, datblygu cyrsiau newydd dwys a hyblyg a gyflwynir mewn grwpiau bach (6-8 ar y mwyaf) dros gyfnod diffiniedig (10-12 wythnos yn nodweddiadol) ac sy'n cyd-fynd â chymwysterau ffurfiol; a
  3. Chyrsiau Rhifedd yn y Gweithle, a gyflwynir trwy gyfuniad o hyfforddiant rhifedd personol a chyrsiau hyblyg/strwythuredig sy'n gweddu i'r cyflogwr ac anghenion ei weithlu. 

Er mwyn sicrhau'r effaith fwyaf, bydd angen i gynigion gael eu targedu'n briodol tuag at grwpiau y mae lefelau isel o rifedd yn effeithio arnynt yn arbennig. Felly, mae'n ofynnol i gynigwyr amlinellu yn eu cynigion pa grwpiau targed maen nhw'n bwriadu gweithio gyda nhw a pham, gan ddangos tystiolaeth o angen. Bydd angen iddynt hefyd ddangos ychwanegedd h.y. sut a pham na ellir cyflawni'r cynnig trwy ddarpariaeth sydd eisoes yn cael ei hariannu. 

Dylai cynigwyr hefyd amlinellu pa agweddau ar eu cynnig maen nhw'n ystyried eu bod yn arloesol, gan gynnwys sut bydd y ddarpariaeth yn cael ei haddasu i weddu i anghenion ac amgylchiadau unigol, yn enwedig ar gyfer y rhai hynny mewn grwpiau anodd eu cyrraedd, a sut byddant yn hwyluso lefelau uchel o ymgysylltiad, ysgogiad, cadw a chyflawniad ymhlith dysgwyr. 

Close Dewis iaith