Gwybodaeth am ardrethi busnes
Gwybodaeth gyffredinol am ardrethi busnes fel pwy sy'n gyfrifol am eu talu a sut y cânt eu cyfrifo.
Gelwir ardrethi busnes hefyd yn ardrethi annomestig cenedlaethol.
Oes gennych ymholiad am eich gwerth ardrethol?
Wyddech chi y gallwch wirio gwybodaeth am eich eiddo a chyflwyno diweddariadau i'ch manylion ar-lein? Gallwch gael rhagor o wybodaeth a chofrestru nawr yn: Cyfrif prisiad ardrethi busnes: mewngofnodi neu gofrestru (GOV.UK) (Yn agor ffenestr newydd)
- Pwy sy'n gorfod talu trethi busnes?
- Sut y caiff ardrethi busnes eu cyfrif
- Sut i apelio yn erbyn eich gwerth ardrethol
- Gwybodaeth ychwanegol i gyd-fynd ag ardrethi busnes
Pwy sy'n gorfod talu trethi busnes?
- Pan fo eiddo wedi'i feddiannu, mae'r trethi busnes fel arfer i'w talu gan yr unigolyn, y bartneriaeth neu'r cwmni sy'n ei feddiannu.
- Pan fo'r eiddo'n wag, mae'r trethi i'w talu gan yr unigolyn sydd â hawl i'w feddiannu.
Os oes cytundeb rhwng y meddiannwr a'r landlord lle mae'r landlord yn derbyn rhent sy'n cynnwys trethi busnes, y meddiannwr sydd fel arfer yn gyfrifol am dalu trethi busnes. Os mai chi yw'r meddiannwr ac rydych yn trosglwyddo'r bil trethi i'r landlord ei dalu, rydych yn parhau i fod yn atebol am y taliad os na fydd y landlord yn ei dalu ar eich rhan.
Hyd yn oed pan fo adeilad busnes yn wag, mae'n rhaid talu ardrethi busnes (gelwir y rhain yn ardrethi eiddo gwag).
Sut y caiff ardrethi busnes eu cyfrif
Llywodraeth y DU sy'n pennu'r fformiwla ar gyfer cyfrifo'ch bil.
Ardrethi busnes = gwerth ardrethol yr eiddo x y lluosydd ar gyfer y flwyddyn ariannol
Y gwerth trethadwy - Dyma asesiad o werth rhent blynyddol eiddo ar ddyddiad penodol (1 Ebrill 2021 ar hyn o bryd). Gwneir yr asesiad hwn gan Asiantaeth y Swyddfa Brisio nid y cyngor lleol.
Gwiriwch brisiad eich ardrethi busnes (Asiantaeth y Swyddfa Brisio) (Yn agor ffenestr newydd)
Y lluosydd - Llywodraeth Cymru sy'n pennu'r lluosydd bob blwyddyn.
Y lluosydd yng Nghymru ar gyfer 2024/25 yw 56.2 ceiniog y bunt.
Lluosydd y flwyddyn flaenorol:
2023/24 - 53.5p
2022/23 - 53.5p
2021/22 - 53.5p
2020/21 - 53.5p
2019/20 - 52.6p
Cyfrifiad enghreifftiol
Bydd gan eiddo busnes â gwerth trethiannol o £15,000 fil treth gwerth £8,430 am y flwyddyn ariannol rhwng 1 Ebrill 2024 a 31 Mawrth 2025:
- £15,000 x £0.562 = £8,430
Mae nifer o gynlluniau cymorth trethi ar gael a allai leihau swm y trethi busnes y mae'n rhaid i chi ei dalu.
Sut i apelio yn erbyn eich gwerth ardrethol
Dylid cyflwyno apeliadau yn erbyn gwerthoedd ardrethol i Asiantaeth y Swyddfa Brisio: Cysylltu ag Asiantaeth y Swyddfa Brisio (GOV.UK) (Yn agor ffenestr newydd).
Pan fyddwch yn cysylltu â nhw bydd angen i chi nodi'r rhesymau pam nad yw'ch gwerth ardrethol yn gywir yn eich tyb chi.
Byddant yn cymharu eich gwerth ardrethol ag eiddo tebyg yn yr ardal ac yn ystyried unrhyw resymau eraill rydych wedi'u nodi wrth iddynt wirio'ch gwerth ardrethol.
Os nad ydych chi'n cytuno â chanlyniad y drafodaeth, gallwch apelio yn erbyn y gwerth ardrethol.
Gallwch gael rhagor o wybodaeth am apelio yn erbyn eich gwerth ardrethol ar wefan Asiantaeth y Swyddfa Brisio (Yn agor ffenestr newydd).
Gwybodaeth ychwanegol i gyd-fynd ag ardrethi busnes
Gwybodaeth i gyd-fynd â biliau trethi annomestig cenedlaethol 2024-25 (PDF, 447 KB)