Yr 'Hawl i Ymateb' i'ch sgôr hylendid bwyd
Mae gennych yr hawl i ddweud eich dweud os oedd unrhyw amgylchiadau arbennig dros yr amodau a ganfuwyd yn ystod yr archwiliad a/neu eglurhad o unrhyw gamau gweithredu a gymerwyd i unioni'r sefyllfa ers yr archwiliad. Caiff hwn ei arddangos ochr yn ochr â'ch sgôr ar y wefan.
Gallwch gyflwyno sylwadau gan ddefnyddio'r ffurflen hawl i ymateb.
Nid yw'r hawl i ymateb yn caniatáu i chi gwyno na beirniadu'r cynllun na'r swyddog archwilio. Felly byddwn yn gwirio unrhyw destun, ac yn ei olygu os yw'n briodol, cyn ei gyhoeddi ar y wefan er mwyn dileu unrhyw sylwadau sarhaus, difrïol neu rai sy'n amlwg yn wallus neu'n amherthnasol.