Toglo gwelededd dewislen symudol

Help mewn Argyfwng gan y Gwasanaethau Cymdeithasol yn y Nos, ar Benwythnosau a Gwyliau Banc

Gwybodaeth ar gyfer pobl y mae angen iddynt gysylltu â'r Gwasanaethau Cymdeithasol y tu allan i'n horiau gwaith arferol.

Mae'r Yr Tîm Dyletswydd Brys Gwasanaethau Cymdeithasol yn dîm bach o weithwyr cymdeithasol profiadol sy'n trafod galwadau brys.

Pwy mae'r Tîm Dyletswydd Brys yn eu helpu?

Gan mai gwasanaeth y tu allan i'r oriau arferol ydyn ni, dim ond mewn sefyllfa o argyfwng byddwn ni'n cynnig help i bobl.  Mae hynny'n golygu y byddwn ni'n helpu mewn argyfwng annisgwyl neu sydyn os yw'n rhaid datrys y broblem ar unwaith.  

Dyma enghraifft neu ddwy o'r bobl neu'r sefyllfaoedd y gallwn ni eu helpu:

  • Rhywun sy'n amau bod plentyn mewn perygl o ddioddef niwed neu esgeulustod uniongyrchol;
  • Rhywun sy'n pryderu'n fawr am les a diogelwch uniongyrchol person bregus, anabl, sâl neu'n sâl yn feddyliol;
  • Rhywun sy'n pryderu'n ddybryd am iechyd meddwl person arall a allai beryglu'r person hwnnw neu berson arall.
  • Digwyddiad o drais yn y cartref lle mae plant;
  • Plant neu bobl ifanc sy'n chwilio'n daer am gyngor ar frys;
  • Teuluoedd y mae ganddynt broblemau difrifol â'u plant;
  • Pobl y mae angen cefnogaeth arnynt cyn iddynt gael eu cyfweld gan yr heddlu e.e. pobl ifanc hyd at 18 oed neu bobl â phroblemau salwch meddwl;
  • Pobl ifanc 16 oed a throsodd sy'n ddigartre.

 

Nid rhestr gyflawn yw hon.

Sut ydw i'n cael help?

Mae'r gwasanaeth ar gael ar yr amserau canlynol:

Dydd Llun - Dydd Iau 5.00pm tan 1.00am

Dydd Gwener 4.30pm tan 1.00am

Dydd Sadwrn / Dydd Sul / Gwyliau Banc 9.00am tan 1.00am.

Gallwch gysylltu â ni yn ein Swyddfa Ganolog ar 01792 775501.

Nid yw'r Tîm Dyletswydd Brys yn derbyn ymwelwyr byth.

Yn yr achosion mwyaf enbyd, mae gweithiwr cymdeithasol 'ar alwad' bob dydd o'r flwyddyn o 1.00 am tan 9.00 am. Defnyddiwch yr un rhif ffôn.

Pa fath o help allwn ni gynnig?

Rydyn ni'n cynnig y mathau canlynol o help:

  • Gwybodaeth a Chyngor;
  • Ymweliad gan Weithiwr Cymdeithasol.

Beth bynnag fo'r help byddwn ni'n ei gynnig, y bwriad yw diogelu sefyllfa tan y diwrnod gwaith nesaf.

Gwybodaeth a chyngor

Ni fydd angen mwy na gwybodaeth neu gyngor ar y rhan fwyaf o alwadau.  Gallwn gynnig gwybodaeth a chyngor ar:

  • Broblemau personol
  • Problemau teuluol
  • Llety
  • Problemau ariannol.

Fel arfer byddwn yn gallu cynnig cyngor a gwybodaeth ar unwaith.  Os na fyddwn yn gallu helpu galwr ein hunain, byddwn yn ceisio eu cysylltu â gwasanaeth arall a allai helpu.

Yn ôl eich amgylchiadau, efallai y bydd yn rhaid i ni gysylltu â gwasanaeth arall, gan gynnwys y gwasanaeth iechyd neu'r heddlu.  Mae'n bosib y byddwn yn eich cynghori i gysylltu â gwasanaethau eraill eich hunan.

Ymweliad gan weithiwr cymdeithasol

Ni fydd angen ymweliad gan weithiwr cymdeithasol o'r Tîm Dyletswydd Brys ar y rhan fwyaf o alwyr.

Yn gyffredinol, dim ond mewn sefyllfaoedd argyfyngus iawn neu anodd iawn y bydd gweithiwr cymdeithasol yn ymweld.  Fel arfer byddwn dim ond yn trefnu ymweliad pan nad yw'n bosib datrys y broblem dros y ffôn neu ei gadael tan y diwrnod gwaith canlynol.  Mewn rhai achosion, mae'n rhaid i ni ymweld yn ôl y gyfraith.

Byddwn yn penderfynu a fydd angen ymweliad gan weithiwr cymdeithasol yn eich sefyllfa chi. Byddwn yn seilio'r penderfyniad hwnnw ar yr hyn byddwch chi'n ei ddweud wrthon ni.  Mae'n rhaid i ni hefyd ddilyn rheolau sydd yn ein helpu ni i benderfynu beth sydd fwyaf argyfyngus.  Os bydd gweithiwr cymdeithasol yn ymweld â chi, bydd yn cymryd tua 20-45 munud i gyrraedd yn ôl ble rydych chi'n byw.  Efallai y bydd hi'n cymryd mwy na hynny os ydyn nhw ar alwad arall yn barod.  (Mewn achosion argyfyngus iawn gallwn alw ar weithiwr cymdeithasol ychwanegol).

A fydd defnyddio'r Tîm Dyletswydd Brys yn costio rhywbeth i fi?

Na fydd.   Dim ond cost yr alwad ffôn.  Mae gwasanaeth y Tîm Dyletswydd Brys am ddim.

Os oedolyn ydych chi, a bod penderfyniad yn ddiweddarach fod angen trefnu gwasanaethau i'ch helpu chi, mae'n bosib y bydd tâl a hynny'n dibynnu ar y gwasanaeth a'ch gallu i dalu.

Beth arall dylwn i wybod am y Tîm Dyletswydd Brys?

Gwybodaeth amdanoch chi

Mae gan y Gwasanaethau Cymdeithasol bolisi ynghylch defnyddio gwybodaeth bersonol y mae'n rhaid i ni ei dilyn.

Bydd yn rhaid i ni ofyn am wybodaeth er mwyn i ni eich helpu chi.  Fel arfer, cyn rhannu gwybodaeth am eich argyfwng gyda gwasanaeth arall y tu allan i'r Gwasanaethau Cymdeithasol, byddwn yn gofyn am eich caniatâd.

Ond mewn argyfyngau difrifol iawn lle gallai olygu marwolaeth neu anafiadau difrifol, mae'n bosib y bydd yn rhaid i ni rannu gwybodaeth gyda gwasanaethau eraill cyn gofyn am ganiatâd.  Os bydd yn rhaid i ni wneud hynny, byddwn dim ond yn rhannu'r wybodaeth sy'n angenrheidiol ar gyfer eich diogelwch personol neu ddiogelwch pobl eraill.

Gweithio gyda'n gwasanaethau dyddiau'r wythnos

Os oes gennych gysylltiad â thîm neu wasanaeth gwaith cymdeithasol yn barod, byddwn yn trosglwyddo unrhyw wybodaeth berthnasol neu fuddiol iddyn nhw er mwyn iddyn nhw wybod beth sydd wedi digwydd.

Ond, cofiwch nad ydyn ni'n cymryd negeseuon dros y gwasanaethau sy'n gweithio yn ystod yr oriau gwaith arferol - trafod sefyllfaoedd gwirioneddol argyfyngus yn unig y byddwn ni.

Gweithio gyda sefydliadau eraill

Mae ein gwaith yn cael ei archwilio yn aml gan sefydliadau yr ydym yn ymwneud tipyn â nhw.  Rydyn ni'n cwrdd â nhw'n rheolaidd i drafod cryfderau a gwendidau ein gwasanaeth.

Close Dewis iaith