Toglo gwelededd dewislen symudol

Nodiadau arfer ar gyfer ffyrdd o ddianc os bydd tân ar gyfer tai amlfeddiannaeth

Arweiniad i berchnogion a chontractwyr tai rhent preifat.

  • Mae'n rhaid darllen y nodiadau hyn ar y cyd â'ch atodlenni hysbysiadau/ trwyddedau.
  • Ar ôl i'r drws tân a'r ffrâm gael eu gosod, cysylltwch â'r Tîm HMO i gadarnhau bod y drws yn bodloni'r safonau gofynnol.
  • PEIDIWCH â gosod eraill nes cynnal yr archwiliad hwn.
  • Dylid gosod y drysau a'r fframiau hyn ar ôl gwneud yr holl waith plastro a rhoi cyfle i'r tŷ sychu.
  • Pan fo'ch contractwr ar y safle, neu ar fin dechrau'r gwaith, dylai gysylltu â'r Tîm HMO. Ffôn: 01792 635600 Ebost: evh@abertawe.gov.uk

Nodiadau Arfer 

Drysau tân (gweler ffigwr 1)

Bydd 3 cholfach rholferyn dur gwrthstaen 100mm wedi'u gosod ar bob drws tân. Peidiwch â gosod colfachau bôn codi.

Cloeon (gweler ffigwr 2)

Fel isafswm, bydd clo a dolen fortais metel yn cael eu gosod ar bob drws tân. Os gosodir clo, mae'n rhaid i chi osod clo a dolen proffil Ewropeaidd neu fortais gyda mecanwaith clo troad bawd y tu mewn i'r ystafell.

  • Peidiwch â gosod cloeon dull Yale
  • Nid oes modd defnyddio cloeon plastig neu belen fetel
  • Dylai'r lle ar gyfer y cloeon hyn fod y lleiaf sydd ei angen i atal gwagleoedd, a gwendidau cloeon o ganlyniad, y gall tân dreiddio trwyddynt. Mae'n rhaid llenwi gwagleoedd â phâst chwyddedig neu fastig.

Lle mae drws yn agor i wal neu reiddiadur, mae'n rhaid gosod stopiwr i atal difrod i'r drws, y wal neu'r rheiddiadur. Dylid defnyddio stopiwr rwber solet neu fetel/rwber yn hytrach na'r stopiwr sbring troellog gwannach.

Pethau cau drysau

Mae'n rhaid gosod peth cau drws effeithiol ar BOB drws tân.

Bydd hyn ar ffurf un o'r canlynol:

  • braich uwchben rhac a phiniwn,
  • colyn rholferyn dur gwrthstaen a chaewr ynghlwm wrtho

Ni dderbynnir math arall o gaewr.

Drysau tân

  • Mae'ch atodlenni hysbysiadau/trwyddedau'n nodi gosod drws tân a ffrâm. Fel arfer, bydd y rhain i safon hanner awr ond gallant, mewn rhai amgylchiadau, fod yn safon un awr. Gwiriwch eich atodlen yn ofalus i gadarnhau pa fath sydd ei hangen.
  • Gellir prynu'r drysau a'r fframiau hyn fel pecyn gan weithdai saernïaeth arbenigol neu gan werthwyr coed. Dylech wybod nad yw nwyddau rhai cyflenwyr yn bodloni safonau'r awdurdod hwn.
  • Peidiwch byth â gosod mwy nag un drws a ffrâm cyn i swyddog o Dîm HMO y cyngor eu harchwilio.
  • Nid oes modd lleihau na thorri drysau safonol o gwbl. Mae'n rhaid peflu'r ymyl arweiniol ar ochr y colfach i atal y drws rhag bod yn golfach-glwm, ond ni dderbynnir dim plaenio, lleihau na thorri arall. Mae'n rhaid gadael stribyn yr ymyl pren caled ar ochr y clo'n gyfan.
  • Os yw'r agoriadau fframiau drws presennol yn anarferol o fawr, mae'n bosibl gosod drws tân a ffrâm safonol y tu mewn i'r ffrâm hon. Bydd hyn wedyn yn lleihau'r gwaith addasu angenrheidiol i'r wal o gwmpas y ffrâm. 
  • Os defnyddir y fframiau drws presennol trwy drefniad blaenorol, mae'n rhaid gwneud yr holl waith atgyweirio i'r ffrâm cyn gosod y drws.
  • Yn yr achos hwn, nid oes modd gosod drws tân safonol ac mae'n rhaid defnyddio drws tân plaen solet. Gellir torri'r drysau hyn i unrhyw faint, ond mae'n rhaid eu hail-hogi gan ddefnyddio stribyn pren caled 10mm yr un trwch â'r drws tân plaen. Gellir gwneud hyn mewn gweithdy'n unig, nid ar y safle. Bydd angen ail-hogi pedair ymyl y drysau plaen hyn, a'u gludo a'u pinio yn eu lle.
  • Pa fath bynnag o ddrws tân a ddefnyddir, mae'n rhaid i gefn y drws fod yn finfin ac yn syth ag ymyl y ffrâm, nid yr architraf.
  • Mae dyfnder trothwy neu'r rabed rhwng 12.5mm a 25mm.
  • Mae trothwyau'n cael eu gludio a'u sgriwio i'w lle. Mae'n rhaid iddynt beidio â bargodi dros ymyl y ffrâm. Cyn sgriw-osod y stopiau, driliwch dwll peilot a gwrthsoddwch y pen i atal y pren rhag hollti. Ar yr adeg addurno, gellir llenwi dros bennau'r sgriwiau a'u sandio'n wastad.

Ailosod drysau

Ar ôl cwblhau'r gwaith, y bwlch uchaf ar waelod y drws a'r trothwy fydd 3mm. Bydd y bylchau ar ochr y colfach, ochr y clo a'r pen yn dibynnu ar y math o bâst chwyddedig a/neu stribyn sêl fwg a ddefnyddir. Bydd y bwlch hwn oddeutu 3mm - 4.5mm. Y prif ffactor i fesur y bwlch hwn fydd bod rhaid i'r stribyn sêl brwsh, lle mae angen seliau mwg, gyffwrdd ag ymyl y drws neu'r ffrâm.

Stribynnau chwyddedig a sêl fwg (gweler ffigwr 3)

Mae'n rhaid gosod y rhain ar fframiau, nid drysau.

Mae'r bwlch rhwng ymyl y drws a'r ffrâm yn dibynnu ar y math o stribyn a ddefnyddir:

i) Os defnyddir stribynnau arwyneb, bydd y bwlch oddeutu 3mm
ii) Os defnyddir stribynnau plaen cafnu, bydd y bwlch oddeutu 4.5mm.

D.S. Pa stribyn bynnag a osodir, mae'n rhaid i stribyn y brwsh gyffwrdd ag ymyl y drws.

Hefyd, mae'n rhaid gosod deunydd chwyddedig o dan ddau lafn y colfach. Bydd hyn ar ochr y drws ac ochr y ffrâm.

Trothwy (gweler ffigwr 4)

Wrth osod drws, cofiwch ystyried gosod trothwy coed ar ffrâm y drws. Bydd hyn yn sicrhau bod isafswm bwlch 3mm rhwng gwaelod y drws a'r trothwy.

Sicrhewch fod rhan y trothwy y mae'r drws yn mynd drosti'n wastad. Os darperir rhan onglog i atal problem sŵn troed, mae'n rhaid estyn y trothwy dros gefn y ffrâm. Gall fod yn 25mm o ddyfnder i ganiatáu am loriau goleddol. Os yw'r lloriau'n wastad ac mae'r drysau'n agor i 90° i ffrâm, gellir lleihau dyfnder y trothwy i 12.5mm.

Bydd trothwy pren caled yn para'n hwy nag un pren meddal ond, os yw'r dyfnder yn cael ei leihau i 12.5mm, mae'n rhaid defnyddio trothwy pren caled. Ffactor arall a fydd yn penderfynu ar y dyfnder fydd gorchudd y llawr, felly gwiriwch a ddefnyddir carped ac isgarped. Mae'r trothwy i'w osod gan ddefnyddio sgriwiau rhif 10 38mm â bylchau 230mm.

Gwastadu trothwyau

Os oes angen gwastadu neu bacio trothwyau, mae'n rhaid gwneud hyn fel a ganlyn:

Mae'n rhaid gosod stribynnau pren ar draws lled y trothwy. Gallant fod o drwch amrywiol, ond bydd angen i bob un gael ei osod yn sownd i'r llawr. Wedyn, mae'r trothwy i'w osod ar y brig i sicrhau isafswm bwlch 3mm rhwng gwaelod y drws a phen y trothwy. Ar ôl cwblhau'r gwaith, mae'n rhaid darparu sêl fastig a stribyn gorchudd coed i ochr ystafell ac ochr cyntedd y trothwy. 

Sbandrel (gweler ffigwr 5)

Y sbandrel a grybwyllwyd yn eich atodlen hysbysiadau/trwyddedau yw'r triongl rhwng postyn grisiau'r llawr gwaelod a phostyn pen grisiau'r llawr cyntaf ac mae fel arfer wedi'i adeiladu o ffrâm bren ysgafn a phren tafod a rhigol.

Efallai y bydd eich atodlen hysbysiadau/trwyddedau'n nodi bod rhaid cau'r rhan hon o'r eiddo i ddiogelu'r prif lwybr dianc rhag tân o loriau uchaf yr eiddo. Bydd gennych yr opsiwn o osod drws tân a ffrâm i'r pared newydd, ond y perchennog fydd yr unig un â mynediad allwedd i'r rhan hon o'r eiddo. Ni chaiff ei defnyddio fel storfa.

Efallai y bydd eich atodlen hysbysiadau/trwyddedau'n gofyn i'r holl fesuryddion nwy a thrydan gael eu symud. Mewn rhai achosion, gall y mesuryddion trydan aros, ond mae'n well symud yr holl fesuryddion ac unedau defnyddwyr o'r rhan hon o'r eiddo. Os yw'r mesuryddion trydan yn aros, mae'n rhaid gosod synhwyrydd tân ychwanegol ar y rhan hon o dan y grisiau. Gellir gosod yr uned defnyddwyr yn y cyntedd neu yn yr ystafell fyw gymunedol.

Yn y rhan fwyaf o achosion, mae angen cau'r grisiau. Mae hyn yn golygu darparu plastrfwrdd 12.5mm gyda gorffeniad sgim plastr gypswm 3.2mm i gau grisiau ac wynebau agored y grisiau.

Edrychwch ar eich atodlen hysbysiadau/trwyddedau ar gyfer manylion penodol eich eiddo.

Nenfydau (gweler ffigwr 6)

Gall yr hysbysiad/atodlen nodi bwlch hanner awr neu un awr. Mae hyn yn golygu gosod dwy haen o blastrfwrdd 12.5mm, gyda gorffeniad sgim plastr gypswm llyfn 3.2mm.

Gellir gwneud hyn trwy 'adnewyddu'r' nenfwd, gosod y plastrfwrdd yn uniongyrchol i ddistiau'r llawr neu drwy wella'r nenfwd presennol trwy 'gau'.

Cau nenfydau 

  • Os gwneir hyn, mae gosod y diogelwch ychwanegol yn ddigonol yn bwysig. Gosodir gwifren cwt ieir yn ddiogel o dan y nenfwd presennol trwy hoelio'r dist gan ddefnyddio hoelion breision galfanedig heb fwy na 150mm rhyngddynt. 
  • Wedyn, mae'n rhaid estyllu'r nenfwd (50mm x 25mm er enghraifft) i gael y plastrfwrdd newydd a'r gorffeniad plastr gypswm. Yn ddelfrydol, dylid sgriwosod yr estyll i'r distiau presennol gyda'r sgriwiau'n treiddio'r distiau i o leiaf 20mm o ddyfnder. Ni ddylai'r bylchau rhwng y sgriwiau hyn fod yn fwy na 150mm.
  • Mae'r dull gosod yn bwysig oherwydd y cynnydd yn y llwyth. Os bydd unrhyw ran o'r nenfwd presennol yn cael ei datgysylltu, mae'r wifren cwt ieir yn sicrhau nad yw'r llwyth yn cael ei symud i'r plastrfwrdd a'r estyll sydd ar gau.
  • Cyn defnyddio'r gorffeniad plastr gypswm, bydd yr holl ddistiau yn y nenfwd plastrfwrdd newydd yn cael eu llenwi a'u tapio â thâp sgrim 90mm o led.
  • Mae'n rhaid i'r swyddog archwilio archwilio'r gorffeniad plastr cyn gwneud gwaith addurno. Ni ellir defnyddio Artex yn lle plastr gypswm gan nad yw'n darparu gorffeniad gwrthdan i'r plastrfwrdd.

Diffoddiaduron, blancedi ac arwyddion tân

Gall y rhain i gyd gael eu prynu a'u gosod gan gontractwyr lleol.

Paentio ac addurno

Argymhellir bod yr holl ddrysau a fframiau'n cael eu staenio neu eu paentio i amddiffyn y gorffeniad arwyneb. Gellir defnyddio unrhyw orffeniad ar yr amod ei fod yn cynnwys dŵr. Os yw'r geiriau tra fflamadwy/highly flammable ar y tun, peidiwch â defnyddio'r cynnyrch hwn.

Gosod nwy

Mae'n rhaid i'r system gael ei harchwilio gan osodwr cofrestredig Cofrestr Diogelwch Nwy. Bydd angen i chi roi copi o gofnod diogelwch nwy'r landlord i'r Tîm HMO.

Gosod trydanol

Mae'n rhaid archwilio a phrofi'r prif gylchedau pŵer a goleuadau'n unol ag argraffiad presennol Rheoliadau Weirio Sefydliad y Peirianwyr Trydanol. Mae'n rhaid unioni unrhyw ddiffyg a restrwyd yn yr adroddiad hwn. Mae'n rhaid bod y contractwr wedi'i gofrestru gyda'r NICEIC neu'r ECA ac mae'n rhaid iddo roi tystysgrif.

System canfod tân

Bydd yr atodlen hysbysiadau/trwyddedau'n rhoi cyngor i chi o ran pa system i'w gosod. Gallai hyn fod yn nifer o synwyryddion mwg a gwres cysylltiedig a weithredir gan brif gyflenwad neu system L2 lawn.

Mae'n rhaid bod y gosodwr yn gontractwr cymeradwy'r NICEIC neu'r ECA. Mae'n rhaid rhoi tystysgrif comisiynu synhwyro tân, pa system bynnag a osodir.

Cyfarwyddiadau os bydd tân

Dylid arddangos cyfarwyddiadau tân ger pob uned larwm tân.

Mae'r camau i'w cymryd wedi'u nodi isod:

  1. Os darganfyddwch dân, gweithredwch y larwm tân ar unwaith.
  2. Ffoniwch y gwasanaeth tân o'r ffôn agosaf, gan ddeialu 999
  3. Rhowch y rhif ffôn i'r gweithredwr a gofynnwch am y gwasanaeth tân
  4. Pan fydd y gwasanaeth tân yn ateb, rhowch y neges yn ddigamsyniol/glir.
  5. Peidiwch â rhoi'r derbynnydd i lawr nes i'r gwasanaeth tân ailddweud eich cyfeiriad.
  6. Os oes modd, ceisiwch ddiffodd y tân, ond peidiwch â chymryd risgiau personol.
  7. Gadewch yr adeilad.

Arferion tân 

Sicrhewch fod pob deiliad yn gwybod am y mesurau rhagofalon tân sylfaenol canlynol:

  1. Dylent ymgyfarwyddo â'r brif ffordd o ddianc.
  2. Ni ddylid defnyddio'r brif ffordd o ddianc ar gyfer storio pethau ac ni ddylid ei rhwystro o gwbl.
  3. Peidiwch â gadael plant ar eu pennau eu hunain, yn enwedig mewn ystafelloedd ag offer gwresogi neu goginio. Cadwch fatsis a thanwyr o'u gafael. 
  4. Dylid osgoi defnyddio padellau sglodion os oes modd. Fodd bynnag, os defnyddir un, peidiwch byth â llenwi mwy na thraean ohoni a pheidiwch byth â'i gadael gyda'r gwres ymlaen heb neb i gadw llygad arni. Os bydd yn mynd ar dân, diffoddwch y gwres a'i fygu â blanced dân. PEIDIWCH â thaflu dŵr arno.
  5. Cadwch lygad ar yr henoed a phobl ddiamddiffyn eraill, yn enwedig gyda sigaréts, pibellau a blancedi trydan.
  6. Peidiwch â smygu yn y gwely. Sicrhewch fod bonion sigaréts a phibellau wedi'u diffodd yn llwyr cyn eu gadael.
  7. Peidiwch â defnyddio gwresogyddion cludadwy, na chaniatáu eu defnyddio, yn enwedig y rhai nwy neu baraffîn.
  8. Peidiwch â rhoi dillad golchi o flaen tanau i'w sychu.
  9. Cyn amser gwely:
    1. diffoddwch yr holl offer trydanol
    2. edrychwch am sigaréts neu bibellau sy'n llosgi
    3. rhowch giard ar unrhyw dân agored
    4. caewch ddrws pob ystafell: nid yw drysau tân yn gweithio os cânt eu gadael ar agor.
Close Dewis iaith