Nodiadau y marfer ar gyfer ffyrdd o ddianc os bydd tân HMO
Pwysig
Rydym wedi bod yn ymdrechu'n barhaus i wella safonau diogelwch tân mewn tai amlfeddiannaeth. Felly, gallai'r safonau drysau tân sy'n ofynnol yn y ddogfen hon fod yn wahanol i'r safonau mewn ardaloedd awdurdodau lleol eraill.
Mae'n hanfodol bod y ddogfen hon yn cael ei dilyn yn llawn gan fod drysau a osodir heb ystyried y ddogfen yn debygol o fethu arolygiad, gan arwain at gostau diangen a gwastraffu amser. Achubwch ar y cyfle i gael cyngor am ddim gan y swyddogion arolygu dros y ffôn, ac/neu i gael ymweliad er mwyn gwirio'r drws cyntaf yn ei le cyn gosod rhagor o ddrysau. Bydd hyn yn cyfyngu ar y risg y gwneir gwaith diangen neu'r risg y bydd y drysau'n methu arolygiad.
Arweiniad i berchnogion a chontractwyr tai rhentu preifat
- Mae'n rhaid darllen y nodiadau hyn ar y cyd ag atodlen eich hysbysiad/trwydded.
- Peidiwch â chyflogi saer heb sicrhau yn y lle cyntaf fod ganddo gopi o'r ddogfen hon. Bydd angen iddo ddilyn ei gofynion yn llawn.
- Ar ôl i un drws tân a ffrâm gael eu gosod, cysylltwch â'r Tîm Tai Amlfeddiannaeth i gadarnhau bod y drws yn bodloni'r safonau gofynnol.
- PEIDIWCH â gosod drysau eraill nes i'r arolygiad hwn gael ei gynnal.
- Dim ond ar ôl cwblhau'r holl waith plastro a rhoi cyfle i'r tŷ sychu y dylid gosod y drysau a'r fframiau hyn.
Pan fydd eich contractwr ar y safle, neu pan fydd ar fin dechrau ar y gwaith, dylai gysylltu â'r swyddog arolygu neu'r Tîm Amlfeddiannaeth fel a ganlyn -
- Ffôn: 01792 635600
- Ebost: HPH@abertawe.gov.uk
Drysau tân
Gosodir tri cholfach rholferyn dur gwrthstaen 100mm ar bob drws tân.
Peidiwch â gosod colfachau bôn codi
- Mae atodlen eich hysbysiad/trwydded yn nodi y dylid gosod drws tân a ffrâm. Fel arfer, bydd y rhain i safon hanner awrond gallant, mewn rhai amgylchiadau, fod yn safon un awr. Gwiriwch eich atodlen yn ofalus i gadarnhau pa safon y mae ei hangen.
- Peidiwch byth â gosod mwy nag un drws tân a ffrâm cyn i swyddog o Dîm Tai Amlfeddiannaeth y cyngor eu harchwilio.
- Gellir prynu'r drysau a'r fframiau hyn fel pecyn mewn gweithdai saernïaeth arbenigol neu gan werthwyr coed.
- At ddibenion y ddogfen hon, mae drysau safonol yn mesur y dimensiynau canlynol yn unig: - 686mm o led (27") fesul 1981mm o uchder (78"), 762mm o led (30") fesul 1981mm o uchder (78") neu 838mm o led (33") fesul 1981mm o uchder (78"). Os ydych yn ystyried gosod unrhyw ddrysau wedi'u gweithgynhyrchu nad ydynt yn cyd-fynd â'r dimensiynau hyn, BYDD angen y dystiolaeth ganlynol ar yr awdurdod
- y math o ddrws, gan gynnwys enw'r gwneuthurwr,
- y dimensiynau i'w defnyddio a chopi o'r cyfarwyddiadau gosod.
D.S. Dim ond ar ôl cael cadarnhad gan y swyddog arolygu y dylid dechrau'r gwaith gosod.
- Nid oes modd lleihau na thorri drysau safonol o gwbl. Yr unig eithriad yw y gellir befelu'r ymyl blaen ar ochr y colfach i atal y drws rhag cyffwrdd â'r ffrâm. Pe baech yn cael anawsterau wrth osod drws neu set safonol, dylech gysylltu â'r swyddog arolygu cyn gwneud unrhyw benderfyniadau a allai achosi i'r drysau fethu arolygiad. Os ydych yn cael anhawster wrth gysylltu â'r swyddog arolygu, gellir cysylltu â'r Tîm Amlfeddiannaeth drwy ffonio 01792 635600 neu drwy e-bostio HPH@abertawe.gov.uk
- Os nad yw'r agoriad yn addas i osod set drws a ffrâm safonol, mae dau ddewis arall. Gallwch naill ai defnyddio drws tân pwrpasol sy'n wahanol i'r meintiau safonol a restrir uchod neu ddefnyddio drws tân plaen solet. Os defnyddir drws tân plaen, gellir ei dorri i unrhyw faint, ond rhaid adfer yr ymyl i o leiaf 10mm o stribed pren caled o'r un trwch â'r drws tân plaen. Gellir gwneud hyn mewn gweithdy yn unig, yn hytrach nag ar y safle. Bydd angen adfer ymylon y drysau plaen hyn ar bob un o'r pedair ochr, eu gludio a'u pinio, a'u meitro ar y corneli. Wrth ddefnyddio'r drysau tân plaen hyn, gellir gosod y stribedi selio mwg chwyddedig yn y ffrâm fel arfer neu eu gosod ar ymylon y drws (gweler yr adran isod). Os defnyddir un o'r ddau ddewis arall hyn, BYDD angen gwybodaeth ar yr awdurdod, gan gynnwys y math o ddrws, enw'r gwneuthurwr, dimensiynau'r drws a chopi o'r cyfarwyddiadau gosod. Dim ond ar ôl cael cadarnhad gan y swyddog arolygu y dylid dechrau'r gwaith gosod.
- Os yw agoriadau'r fframiau drws presennol yn anarferol o fawr, mae'n bosib gosod drws tân a ffrâm safonol y tu mewn i'r ffrâm hon. Bydd hyn wedyn yn lleihau'r gwaith addasu angenrheidiol i'r wal o gwmpas y ffrâm. Rhaid cael cytundeb gan y swyddog arolygu yn y lle cyntaf.
- O bryd i'w gilydd, efallai y bydd modd cadw'r fframiau presennol. Bydd yn rhaid trafod hyn â'r swyddog arolygu a chytuno arno ar y safle. Yn yr achos hwn, ni chaniateir gosod drws tân safonol, ac mae'n rhaid defnyddio drws tân plaen solet.
- Pa fath bynnag o ddrws tân a ddefnyddir, mae'n rhaid i gefn y drws fod yn wastad ac yn cyfateb i ymyl y ffrâm.
- Dylai dyfnder y stop drws fel arfer fod yn 12.5mm. Rhaid gludio a sgriwio stopiau drysau yn eu lle 230mm rhwng mannau canolog.
Ailosod drysau
Ar ôl cwblhau'r gwaith, mae'n ofynnol na ddylai maint y bwlch fod yn fwy na 4mm o amgylch y drws, ac eithrio ar waelod y draws, lle dylai'r bwlch fod mor fach ag y bo'n ymarferol, gan sicrhau bod y drws yn annhebygol o gael ei ddal ar y llawr hyd yn oed os bydd y drws yn gostwng ychydig ar y colfachau. Fel arfer, byddai disgwyl i'r bwlch wrth fôn y drws fod yn 6mm ar y mwyaf.
Cloeon
Fel gofyniad lleiaf, gosodir clicied a dolen fortais fetel ar bob drws tân.
Os gosodir clo, mae'n rhaid i chi osod clo mortais a dolenni proffil Ewropeaidd â mecanwaith clo y gellir ei droi gyda bys bawb y tu mewn i'r ystafell.
- Peidiwch â gosod cloeon dull Yale.
- Ni chaniateir cliciedau â phelenni metel na phlastig
- Dylid caniatáu cyn lleied o le ag y mae ei angen i atal gwagleoedd a fyddai'n gwanhau'r clo a galluogi tân i dreiddio drwyddo. Mae'n rhaid llenwi gwagleoedd â phast neu fastig chwyddedig.
- Lle mae drws yn agor ar wal neu reiddiadur, mae'n rhaid gosod stop drws i atal difrod i'r drws, y wal neu'r rheiddiadur. Dylid defnyddio stop drws rwber solet neu fetel yn hytrach na stop drws troellog gwannach.
Dyfeisiau cau drws
Mae'n rhaid gosod dyfais cau drws effeithiol ar BOB drws tân.
Bydd hyn ar ffurf un o'r canlynol:
- braich uwchben rhesel a phiniwn
- colfach rholferyn dur gwrthstaen â dyfais cau drws fewnol
Ni dderbynnir math arall o ddyfais cau drws
Stribedi selio mwg chwyddedig
Mae'n rhaid gosod y rhain ar fframiau, yn hytrach na drysau.
Bydd y bwlch rhwng ymyl y drws a'r ffrâm rhwng 3mm a 4mm, ac mae'n rhaid i'r stribed brwsh gyffwrdd ag ymyl y drws.
Hefyd, mae'n rhaid gosod deunydd chwyddedig o dan ddau lafn y colfach. Bydd hyn ar ochr y drws ac ochr y ffrâm.
Ni ddylid defnyddio unrhyw fath o seliau mwg chwyddedig sy'n wahanol i'r uchod heb gytundeb ymlaen llaw gan yr awdurdod. Rhaid cysylltu â'r swyddog arolygu neu, os nad yw ar gael, dylid cysylltu â'r Tîm Tai Amlfeddiannaeth drwy ffonio 01792 635600, neu drwy e-bostio HPH@abertawe.gov.uk
Trothwy
Wrth osod drws, dylech ystyried gosod trothwy coed ar ffrâm y drws. Bydd hyn yn sicrhau bod isafswm bwlch o 6mm rhwng bôn y drws a'r trothwy.
Sicrhewch fod y rhan o'r trothwy sydd o dan y drws yn wastad. Os darperir rhan onglog i atal problem sŵn troed, mae'n rhaid estyn y trothwy heibio i gefn y ffrâm. Gall y dyfnder fod yn 25mm i ystyried lloriau sydd ar ogwydd. Os yw'r lloriau'n wastad ac os yw'r drysau'n agor 90° i'r ffrâm, gellir lleihau dyfnder y trothwy i 12.5mm.
Bydd trothwy pren caled yn para'n hwy nag un pren meddal, ond os yw'r dyfnder yn cael ei leihau i 12.5mm, mae'n rhaid defnyddio trothwy pren caled. Ffactor arall a fydd yn pennu'r dyfnder fydd gorchudd y llawr, felly gwiriwch a ddefnyddir carped ac isgarped.
Rhaid sgriwio trothwyon yn eu lle 230mm rhwng mannau canolog.
Lefelu trothwyon
Os oes angen lefelu neu bacio trothwyon, mae'n rhaid gwneud hyn fel a ganlyn:
Mae'n rhaid gosod stribedi coed ar draws lled y trothwy. Gallant fod o drwch amrywiol, ond bydd angen iddynt oll gael eu cysylltu'n ddiogel â'r llawr. Yna dylid gosod y trothwy ar y brig i sicrhau uchafswm bwlch o 6mm rhwng bôn y drws a brig y trothwy. Ar ôl cwblhau'r gwaith, mae'n rhaid darparu sêl fastig a stribed gorchudd coed ar ochr yr ystafell ac ochr y trothwy i'r cyntedd.
Sbandrel
Y sbandrel a grybwyllwyd yn atodlen eich hysbysiad/trwydded yw'r triongl rhwng postyn grisiau'r llawr gwaelod a phostyn pen grisiau'r llawr cyntaf ac mae fel arfer wedi'i adeiladu o ffrâm goed ysgafn a choed tafod a rhigol.
Efallai y bydd atodlen eich hysbysiad/trwydded yn nodi y bydd yn rhaid cau'r rhan hon o'r eiddo i ddiogelu'r prif lwybr dianc rhag tân o loriau uchaf yr eiddo. Bydd gennych yr opsiwn o osod drws tân a ffrâm ar y pared newydd, ond y perchennog fydd yr unig berson sy'n cael mynediad i'r rhan hon drwy allwedd. Ni chaiff yr ardal ei defnyddio fel storfa.
Efallai y bydd atodlen eich hysbysiad/trwydded yn gofyn bod yr holl fesuryddion nwy a thrydan yn cael eu symud. Mewn rhai achosion, gall y mesuryddion trydan aros, ond mae'n well symud yr holl fesuryddion ac unedau defnyddwyr o'r rhan hon o'r eiddo. Os yw'r mesuryddion trydan yn aros, mae'n rhaid gosod synhwyrydd tân ychwanegol yn y rhan hon o dan y grisiau. Gellir gosod yr uned defnyddwyr yn y cyntedd neu yn yr ystafell fyw gymunedol.
Yn y rhan fwyaf o achosion, mae angen gorchuddio'r grisiau. Mae hyn yn golygu darparu plastrfwrdd 12.5mm â gorffeniad sgim plastr gypswm 3.2mm i gau'r grisiau a'r wynebau agored.
Edrychwch ar atodlen eich hysbysiad/trwydded ar gyfer manylion penodol eich eiddo.
Nenfydau
Gall atodlen yr hysbysiad/drwydded nodi bwlch o hanner awr neu un awr. Mae hyn yn golygu gosod un neu ddwy haen o blastrfwrdd 12.5mm, ynghyd â gorffeniad sgim plastr gypswm llyfn 3.2mm. Gellir gwneud hyn drwy adnewyddu'r nenfwd, gosod y plastrfwrdd yn uniongyrchol ar ddistiau'r llawr neu wella'r nenfwd presennol trwy ei orchuddio.
Gorchuddio nenfydau
Os gwneir hyn, mae'n bwysig gosod y mesur diogelwch ychwanegol yn foddhaol. Dylid gosod rhwyd wifren yn ddiogel o dan y nenfwd presennol drwy hoelio'r dist, gan ddefnyddio hoelion breision galfanedig o fewn 150mm ar y mwyaf i'w gilydd. Yna mae'n rhaid estyllu'r nenfwd (50mm x 25mm, er enghraifft) i gael y gorffeniad plastrfwrdd a phlastr gypswm newydd. Yn ddelfrydol, dylid sgriwio'r estyll ar y distiau presennol, gan dreiddio o leiaf 20mm o ddyfnder i'r distiau. Ni ddylai'r bylchau rhwng canol y sgriwiau hyn fod yn fwy na 150mm.
Mae'r dull gosod yn bwysig oherwydd y cynnydd yn y llwyth. Pe bai unrhyw ran o'r nenfwd presennol yn cael ei datgysylltu, byddai'r rhwyd wifren yn sicrhau na fyddai ei llwyth yn cael ei throsglwyddo i'r plastrfwrdd a'r estyll sydd wedi'u gorchuddio.
Cyn gosod y gorffeniad plastr gypswm, bydd yr holl ddistiau yn y nenfwd plastrfwrdd newydd yn cael eu llenwi a'u tapio â thâp sgrim 90mm o led.
Mae'n rhaid i'r swyddog arolygu gael cyfle i adolygu'r gorffeniad plastr cyn gwneud gwaith addurno. Ni ellir defnyddio Artex yn lle plastr gypswm gan nad yw'n darparu gorffeniad gwrthdan i'r plastrfwrdd.
Diffoddiaduron, blancedi ac arwyddion tân
Gall contractwyr lleol brynu a gosod y rhain i gyd ac mae'n rhaid iddynt gydymffurfio â'r Safon Brydeinig bresennol.
Paentio ac addurno
Argymhellir bod yr holl ddrysau a fframiau'n cael eu staenio neu eu paentio i amddiffyn y gorffeniad arwyneb. Gellir defnyddio unrhyw orffeniad ar yr amod ei fod yn cynnwys dŵr. Os yw'r tun yn dweud bod cynnyrch yn dra fflamadwy, peidiwch â'i ddefnyddio.
Gosod nwy
Mae'n rhaid i'r system gael ei harolygu bob blwyddyn gan osodwr sydd wedi'i gynnwys ar y Gofrestr Diogelwch Nwy. Bydd angen i chi roi copi o gofnod diogelwch nwy'r landlord i'r Tîm Tai Amlfeddiannaeth.
Gosodiadau trydan
Mae'n rhaid arolygu a phrofi'r prif gylchedau pŵer a goleuadau yn unol ag argraffiad presennol rheoliadau weirio Sefydliad y Peirianwyr Trydanol. Mae'n rhaid unioni unrhyw ddiffygion a restrir yn yr adroddiad. Mae'n rhaid i'r contractwr fod yn gymwys ac yn aelod o gorff llywodraethu cydnabyddedig fel y Cyngor Archwilio Cenedlaethol ar gyfer Contractio Gosodiadau Trydanol (NICEIC) neu'r Gymdeithas Contractwyr Trydanol (ECA) ac mae'n rhaid iddo gyflwyno tystysgrif prawf.
System synhwyro tân
Bydd atodlen yr hysbysiad/drwydded yn rhoi cyngor i chi ynghylch pa system i'w gosod. Gall gynnwys nifer o synwyryddion mwg a gwres cysylltiedig a weithredir gan y prif gyflenwad neu system L2 lawn.
Rhaid i'r gosodwr fod yn gymwys ac yn aelod o gorff llywodraethu cydnabyddedig fel NICEIC neu ECA. Mae'n rhaid rhoi tystysgrif comisiynu synhwyro tân pa system bynnag a osodir.
Cyfarwyddiadau os bydd tân
Dylid arddangos cyfarwyddiadau tân ger pob blwch gweithredu larwm tân.
Mae'r camau i'w cymryd wedi'u nodi isod:
Os darganfyddwch dân, gweithredwch y larwm tân ar unwaith.
- Ffoniwch y gwasanaeth tân o'r ffôn agosaf, gan ddeialu 999.
- Rhowch y rhif ffôn i'r gweithredwr a gofynnwch am y GWASANAETH TÂN.
- Pan fydd y gwasanaeth tân yn ateb, rhowch y neges yn ddigamsyniol/glir.
- Peidiwch â dod â'r alwad i ben nes i'r gwasanaeth tân ailadrodd eich cyfeiriad.
- Peidiwch â chymryd risgiau personol nac aros i geisio diffodd tân. Caewch ddrws ar y tân os oes modd a defnyddiwch y cyfarpar diffodd tân i adael yr adeilad yn ddiogel.
- Gadewch yr adeilad drwy'r allanfa agosaf.
Ymarferion tân
Sicrhewch fod pob deiliad yn gwybod am y rhagofalon tân sylfaenol canlynol:
- Dylid ymgyfarwyddo â'r prif lwybr dianc.
- Ni ddylid defnyddio'r prif lwybr dianc ar gyfer storio pethau ac ni ddylid ei rwystro o gwbl.
- Don't charge e-bikes and e-scooters in bedrooms or escape routes - for example, hallways.
- Dylid osgoi defnyddio pedyll sglodion os oes modd. Fodd bynnag, os defnyddir padell, peidiwch byth â llenwi mwy na thraean ohoni a pheidiwch byth â gadael y gwres ymlaen os nad oes neb yn cadw llygad ar y badell. Os bydd yn mynd ar dân, diffoddwch y gwres a mygwch y badell â blanced dân. PEIDIWCH â thaflu dŵr arni.
- Peidiwch â smygu yn y gwely. Sicrhewch fod bonion sigaréts a phibellau wedi'u diffodd yn llwyr cyn eu gadael.
- Peidiwch â defnyddio gwresogyddion cludadwy, na chaniatáu iddynt gael eu defnyddio, yn enwedig rhai nwy neu baraffîn.
- Peidiwch â rhoi dillad golchi o flaen gwresogyddion tân i'w sychu.
- Cyn amser gwely:
- diffoddwch yr holl offer trydanol diangen
- diffoddwch neu trowch i lawr unrhyw beth a allai gychwyn tân, e.e. sigarét, cannwyll, tân agored
- gwiriwch fod yr holl boptai a gwresogyddion wedi'u diffodd wrth y prif gyflenwad
- caewch ddrws pob ystafell: dim ond os ydynt ar gau y mae drysau tân yn gweithio.