
Gwasanaeth gwybodaeth y Llinell Llyfrgelloedd
Gall gwasanaeth gwybodaeth y llinell llyfrgelloedd eich helpu ag unrhyw gwestiynau sydd gennych gan gynnwys ble i ddod o hyd i wybodaeth.
Bydd un o'n harbenigwyr o'r tîm gwybodaeth yn ateb eich ymholiad. Byddwn yn:
- Ateb eich cwestiwn o fewn 2 ddiwrnod gwaith
- Ateb cwestiynau ffeithiol
- Eich helpu i ddod o hyd i wybodaeth ac adnoddau perthnasol ar-lein neu wedi'u hargraffu
- Eich cyfeirio at asiantaethau eraill lle y bo'n briodol
- Defnyddio adnoddau ag awdurdod