Toglo gwelededd dewislen symudol

Cynlluniau'r dyfodol ar gyfer ysgolion arbennig yn Abertawe - Hysbysiad

Cynlluniau ar gyfer ysgolion arbennig yn y dyfodol yn Hysbysiad Statudol Abertawe.

Hysbysir trwy hyn yn unol ag Adran 44 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 2013 a'r Côd Trefniadaeth Ysgolion fod awdurdod lleol Dinas a Sir Abertawe, ar ôl ymgynghori â'r bobl angenrheidiol, yn cynnig:

1)  Cau Ysgol Pen-y-Bryn (Glasbury Road, Treforys, Abertawe SA6 7PA) ac Ysgol Crug Glas (Croft Street, Abertawe SA1 1QA) ar 31 Awst 2025. Mae'r ddwy ysgol yn ysgolion arbennig cymunedol cymysg cyfrwng Saesneg a gynhelir gan Ddinas a Sir Abertawe. Mae gan Ysgol Pen-y-Bryn 195 o leoedd ar gyfer disyblion ag anawsterau dysgu cymedrol i ddifrifol (ADC / ADD) ac Anhwylder y Sbectrwm Awtistig (ASA). Mae gan Ysgol Crug Glas 55 o leoedd ar gyfer disgyblion ag anawsterau dysgu dwys a lluosog (ADDLI).

2)  Sefydlu ysgol arbennig gymunedol gymysg cyfrwng Saesneg newydd (wedi'i chyfuno) o 1 Medi 2025 ar safleoedd presennol yr ysgolion uchod ar gyfer disgyblion 3-19 oed sydd â Datganiad o Anghenion Addysgol Arbennig. Y nifer arfaethedig o leoedd cynlluniedig ar ôl i'r elfen hon o'r cynnig gael ei rhoi ar waith fydd 250. Bydd yr ysgol sydd newydd ei chyfuno yn parhau i ddarparu addysg i ddisgyblion ag anawsterau dysgu dwys a lluosog (ADDLI), anawsterau dysgu cymedrol i ddifrifol (ADC / ADD) ac Anhwylder Sbectrwm Awtistig difrifol (ASA). Dinas a Sir Abertawe fydd yr awdurdod derbyn ar gyfer yr ysgol, a gwneir trefniadau derbyn drwy Banel Angehnion Dysgu Ychwanegol yr awdurdod lleol. Bydd disgyblion ar y gofrestr o'r Dosbarth Derbyn i Flwyddyn 14 yn Ysgol Pen-y-Bryn ac Ysgol Crug Glas ar 31 Awst 2025 yn trosglwyddo'n awtomatig i'r ysgol arbennig newydd ar 1 Medi 2025. Bydd y trefniadau cludiant yn parhau yn eu fformat presennol.

3)  Gwneud newid a reoleiddir i adleoi'r ysgol wedi'i chyfuno uchod i adeilad newydd ar safel ar Mynydd Garnlwyd Road, ar dir sy'n agos at safle presennol Ysgol Pen-y-Bryn a fydd yn barod i'w defnyddio ym mis Ebrill 2028. Bydd y trefniadau cludiant yn cael eu hadolygu gan ystyried y newid mewn lleoliad, ond byddant yn 

4)  Gwneud newid a reoleiddir i ychwanegu 100 o leoedd cynlluniedig ar gyfer disgyblion ar adeg adleoli i'r safle newydd ar Mynydd Garnlwyd Road. Bydd hyn yn cynyddu cyfanswm nifer y lleoedd cynlluniedig i 350 o fis Ebrill 2028.

Ymgymerodd Dinas a Sir Abertawe â chyfnod o ymgynghori cyn penderfynu cyhoeddi'r cynnig hwn. Mae adroddiad ymgynghori sy'n cynnwys crynodeb o'r materion a godwyd gan yr ymgynghorion, ymateb y cynigydd a barn Estyn ar gael yn Future plans for Special Schools in Swansea.

Gall unrhyw berson wrthwynebu'r cynigion o fewn 28 niwrnod ar ôl dyddiad cyhoeddi'r cynigion hyn, sef erbyn 5 Mawrth 2024. Dylid anfon gwrthwynebiadau at y Cyfarwyddwr Addysg, Dinas a Sir Abertawe, Canolfan Ddinesig, Abertawe SA1 3SN neu e-bostio trefniadaethysgolion@abertawe.gov.uk.

Bydd Dinas a Sir Abertawe'n cyhoeddi crynodeb o unrhyw wrthwynebiadau a wneir (na chât eu tynnu'n ôl yn ysgrifenedig) yn ystod y cyfnod gwrthwynebiadau, yn unol â'i sylwadau arnynt, o fewn y cyfnod 28 niwrnod ar ôl y cyfnod gwrthwynebiadau.

Helen Morgan-Rees
Cyfarwyddwr Addysg


Nodyn Esboniadol

(Nid yw hyn yn rhan o'r hysbysiad ffurfiol. Ei nod yw darparu gwybodaeth bellach a chefndir i'r cynigion.)

  1. Cynnig yw hwn i ddechrau i gyfuno'r ddwy ysgol arbennig (Ysgol Pen-y-Bryn ac Ysgol Crug Glas) yn un ysgol arbennig sy'n cynnwys adeiladau presennol ar y safleoedd presennol, ac yna symud yr ysgol i adeilad newydd ar 1 Ebrill 2028.
  2. Gall y disgyblion sy'n llenwi'r lleoedd hyn ddod o bob rhan o Ddinas a Sir Abertawe a thu hwnt. Darperir cludiant yn unol â pholisi cludiant y Cyngor.
  3. Bydd cyllid dirprwyedig ar gyfer yr ysgol newydd yn unol â fformiwla gyllido leol Dinas a Sir Abertawe ar gyfer ysgolion.
  4. Gellir cael copïau caled neu fersiynau amgen o'r holl ddogfennaeth ar gais gan y Tîm Trefniadaeth Ysgolion:
    E-bost: trefniadaethysgolion@abertawe.gov.uk
    Rhif ffôn: 01792 636509
    Cyfeiriad post: Helen Morgan-Rees, Cyfarwyddwr Addysg, Canolfan Ddinesig, Heol Ystumllwynarth, SA1 3SN.

 

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 19 Chwefror 2024