Toglo gwelededd dewislen symudol

Hysbysiad awdurdod dros dro

Yn dilyn marwolaeth, analluogrwydd, ansolfedd neu newid mewn statws mewnfudo deiliad trwydded mangre, gellir creu hysbysiad awdurdod dros dro fel nad yw'r drwydded mangre yn dod i ben.

Er mwyn gwneud cais am hysbysiad awdurdod dros dro dylai fod gennych

  • fudd penodol yn y fangre neu
  • gysylltiad â'r person a oedd yn meddu ar y drwydded mangre yn union cyn y daeth hysbysiad awdurdod dros dro'n ofynnol.

Bydd rhaid i'r hysbysiad awdurdod dros dro cael ei gyflwyno o fewn 7 niwrnod a bydd yn para am uchafswm o ddeufis. 

Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch mewn perthynas â chais neu os ydych chi'n dymuno cyflwyno sylwadau, e-bostiwch Trwyddedu.IyA@abertawe.gov.uk.

Close Dewis iaith