Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Hysbysiad o fudd mewn mangre

Os oes gennych ddiddordeb cyfreithiol mewn adeilad trwyddedig, gallwch wneud cais i dderbyn hysbysiad am unrhyw faterion trwyddedu sy'n effeithio ar y fangre.

Gallwch gyflwyno cais os yw'r canlynol yn berthnasol i chi:

  • chi yw'r rhydd-ddeiliad neu'r lesddaliwr
  • rydych yn godwr morgais cyfreithiol ar y fangre
  • chi sy'n meddu ar y fangre
  • rydych wedi cael eich pennu gan yr Ysgrifennydd Gwladol.

Bydd yr hysbysiad yn para am 12 mis o'r dyddiad y derbynnir y ffurflen gennym a gallwch ail-gyflwyno'r cais bob blwyddyn.

Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch mewn perthynas â chais neu os ydych chi'n dymuno cyflwyno sylwadau, e-bostiwch Trwyddedu.IyA@abertawe.gov.uk.

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 17 Ionawr 2025