Toglo gwelededd dewislen symudol

Prosiect cael gwared ar iorwg Castell Pennard

Mae Castell Pennard sy'n edrych dros Bae y Tri Chlogwyn yn un o ddelweddau mwyaf adnabyddus Gŵyr. Clwb Golff Pennard sy'n berchen ar ac yn rheoli'r castell fel Heneb Gofrestredig.

Ym mis Mehefin 2024 cafwyd gwared ar yr iorwg ac mae'r coesynnau sy'n weddill wedi cael eu trin â chwynladdwr i helpu i gael gwared ar yr iorwg yn gyfan gwbl yn nes ymlaen, a chynhaliwyd asesiad o gyflwr y wal. Mae'r cerrig rhydd a oedd ar ben y wal wedi cael eu symud er rhesymau diogelwch ac maent yn cael eu storio dros dro mewn basgedi caergewyll yn y castell.

Peidiwch â dringo ar y basgedi caergewyll gan nad ydynt yn ddiogel. Caiff y cerrig eu hail-osod yn waliau'r castell yn ystod y gwaith ailbwyntio ym mis Hydref.