Toglo gwelededd dewislen symudol

Plac glas Jessie Donaldson

I gofio am ymgyrchydd yn erbyn caethwasiaeth, gweithredydd ac athrawes.

Jessie Donaldson blue plaque
Lleoliad: Wal adeilad Dinefwr, PCDDS

Brwydrodd Jessie Donaldson o Abertawe yn ddewr yn erbyn caethwasiaeth yn America tua 170 o flynyddoedd yn ôl. Teithiodd Jessie i Ohio yn y 1850au i gynnal tŷ diogel, ac roedd mewn perygl o dderbyn dirwyon a dedfrydau carchar am gynnig llety a diogelwch i gaethweision wrth iddynt geisio dianc o daleithiau'r de i ogledd America.

Cyflwynwyd yr enwebiad plac glas i'r cyngor gan yr hanesydd diwylliannol o Abertawe, yr Athro Jen Wilson, sylfaenydd Treftadaeth Jazz Cymru sydd wedi'i lleoli yng Nghanolfan Dylan Thomas y ddinas fel rhan o PCDDS.

Meddai'r Athro Wilson, sydd wedi ymchwilio i fywyd Jessie dros nifer o flynyddoedd, "Gadawodd Jessie Donaldson Abertawe yn 57 oed i gychwyn ar fywyd rhyfeddol o wleidyddiaeth ryngwladol ar raddfa fawr. Ei thŷ ar lannau afon Ohio oedd y trydydd tŷ diogel dan arweiniad pobl o Gymru i gaethweision a oedd wedi rhedeg i ffwrdd. Ffrindiau Jessie yn y mudiad gwrth-gaethwasiaeth oedd Frederick Douglass, caethwas wedi'i ryddhau, y caethweision ffoëdig Ellen a William Craft, yr ymgyrchydd brwd, William Lloyd Garrison, a Harriet Beecher Stowe, awdur Uncle Tom's Cabin. Drwy gydol Rhyfel Cartref America bu Jessie'n gweithio ochr yn ochr â'i ffrindiau, gan alluogi ffoaduriaid o'r planhigfeydd ar draws yr afon i geisio rhyddid. Dychwelodd Jessie gartref i Abertawe ym 1866."

Dadorchuddiwyd y plac glas yn y ddinas lle'i magwyd ar 19 Mehefin - y dathliad hynaf sy'n hysbys o ddiwedd caethwasiaeth yn yr Unol Daleithiau. 

 

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 29 Mawrth 2022