Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Galw Cynhyrchion Kinder Yn Ôl - Diweddariad gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd

Rydym yn gofyn i bob manwerthwr wneud yn siŵr eu bod wedi tynnu cynhyrchion Kinder sy'n gysylltiedig ag achosion o salmonela oddi ar eu silffoedd.

Credir bod y cynhyrchion wedi achosi i nifer sylweddol o blant fynd yn ddifrifol wael, gyda llawer o achosion hysbys yn ddigon gwael i orfod mynd i'r ysbyty i gael triniaeth.

Manylion y cynhyrchion
Enwau'r cynhyrchionMaint y pecynnauDyddiadau 'ar ei orau cyn'
Kinder Surprise20gPob dyddiad hyd at ac yn cynnwys 04 Ionawr 2023
Kinder Surprise20g x 3 packPob dyddiad hyd at ac yn cynnwys 04 Ionawr 2023
Kinder Surprise100gPob dyddiad hyd at ac yn cynnwys 21 Awst 2022
Kinder Mini eggs75gPob dyddiad hyd at ac yn cynnwys 21 Awst 2022
Kinder Egg Hunt kit150gPob dyddiad hyd at ac yn cynnwys 21 Awst 2022
Kinder Schokobons70g, 200g and 320gPob dyddiad hyd at ac yn cynnwys 04 Ionawr 2023

Roedd hysbysiad galw cynnyrch yn ôl cynharach yn berthnasol i rai o'r cynhyrchion uchod yn unig, felly mae'n bwysig sicrhau eich bod wedi tynnu'r cynhyrchion ychwanegol a gafodd eu cynnwys yn yr hysbysiad diweddaraf oddi ar y silffoedd. Mae'r hysbysiad galw cynnyrch yn ôl sydd wedi'i ddiweddaru yn cynnwys yr holl gynhyrchion Kinder a gynhyrchwyd ar eu safle yn Arlon yng Ngwlad Belg rhwng mis Mehefin 2021 a'r dyddiad presennol. Mae ymchwiliadau wedi nodi bod rhai cynhyrchion sydd wedi'u cynnwys yn yr hysbysiad yn parhau i fod ar werth.

Efallai na fydd deunydd pecynnu'r cynhyrchion a alwyd yn ôl yn cyfeirio at y ffatri yng Ngwlad Belg lle cawsant eu cynhyrchu, a gallant gynnwys cyfeiriad cyswllt gwahanol, felly mae'n bwysig iawn eich bod yn gwirio eu cynhyrchion yn erbyn y rhestr yn yr hysbysiad galw cynnyrch yn ôl i sicrhau bod eich cwsmeriaid yn ddiogel.

Close Dewis iaith