Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

e-Lyfrau, e-Lyfrau Llafar, e-Gylchgronau ac e-Bapurau Newydd

Gall aelodau'r llyfrgell lawrlwytho e-Lyfrau, e-Lyfrau Llafar, e-Gylchgronau ac e-Bapurau Newydd am ddim.

Os nad oes gennych eich dyfais eich hunan i wylio neu wrando arni, gallwch ddefnyddio un sydd ar gael yn eich llyfrgell leol.

e-Lyfrau

Lawrlwythwch e-lyfrau am ddim i'ch cyfrifiadur, eich tabled a'ch ffôn gyda BorrowBox.

e-Lyfrau Llafar

Lawrlwythwch e-Lyfrau Llafar am ddim i'ch cyfrifiadur, eich tabled a'ch ffôn gyda BorrowBox a OverDrive.

e-Gylchgronau

Lawrlwythwch e-gylchgronau i'ch cyfrifiadur, eich tabled neu'ch ffôn gyda OverDrive.

e-Bapurau Newydd

Gyda PressReader gallwch gyrchu dros 7,000 o gylchgronau a phapurau newydd i'w darllen ar-lein neu eu lawrlwytho i fynd â nhw gyda chi a'u darllen yn union fel y fersiynau argraffedig.