Llogi Cyfarpar Symudedd Abertawe
Rydym yn darparu sgwteri a chadeiriau olwyn trydan a chadeiriau olwyn arferol i helpu pobl â symudedd cyfyngedig (o ganlyniad i anabledd parhaol neu dros dro, salwch, damwain neu oedran).
Os ydych chi am logi unrhyw gyfarpar, bydd angen i chi fod yn aelod a thalu ffi flynyddol neu gallwch ymuno fel ymwelydd a thalu ffi untro.
- Llogi am y diwrnod
- Llogi tymor hir
- Cymhorthion symudedd ar werth
- Storio bagiau
- Gwybodaeth am logi cyfarpar symudedd Abertawe (oriau agor, lleoliad, cyfleusterau, aelodaeth)
Llogi am y diwrnod
Mae'r sgwteri sydd ar gael yn amrywio o ran terfynau pwysau:
- hyd at 16 stôn
- 16 - 24 stôn
- 24 - 35 stôn
Cerbydau symudedd ar gael i'w llogi am y diwrnod
Llogi cerbyd symudedd am y diwrnod Llogi cerbyd symudedd
Ffïoedd a thaliadau ar gyfer llogi am y diwrnod
- £3.20 ar gyfer sesiwn hanner diwrnod (9.00am - 12.45pm neu 12.45 - 4.30pm)
- £5 ar gyfer sesiwn diwrnod cyfan
Llinell ffin cerbyd symudedd ar gyfer llogi am y diwrnod
Llogi tymor hir
- cadeiriau olwyn (hyd at 18 stôn)
- sgwter (hyd at 20 stôn) - un o'r rhain sydd ar gael ar hyn o bryd
I wneud trefniadau ar gyfer llogi amser hir, ffoniwch ni: 01792 461785
Ffïoedd a thaliadau ar gyfer llogi tymor hir
- Cadeiriau olwyn:
- £4.80 y noson
- £13.50 y penwythnos (dydd Gwener i ddydd Llun)
- £30 yr wythnos
- Sgwter (un o'r rhain sydd ar gael ar hyn o bryd)
- £21 y noson
- £52.50 y penwythnos (dydd Gwener i ddydd Llun)
- £105 yr wythnos
Cymhorthion symudedd ar werth
Rydym yn gwerthu amrywiaeth o gymhorthion a chyfarpar yn y siop. Dewch i'n siop i weld ein dewis llawn neu ffoniwch ni ar 01792 461785 os ydych chi am wirio cyn ymweld.
Storio bagiau
Gadewch eich bagiau neu'ch siopa mewn man diogel wrth i chi siopa. Mae gennym 16 o loceri diogel yn y siop felly nad oes angen i chi gario'ch bagiau a'ch siopa wrth i chi fod yng nghanol y ddinas:
Man storio bagiau yng nghanol y ddinas Man storio bagiau yng nghanol y ddinas
Gwybodaeth am logi cyfarpar symudedd Abertawe
Aelodaeth a thrwyddedau ymwelwyr
Aelodaeth flynyddol - i gofrestru fel aelod, bydd angen i chi gwblhau ffurflen gofrestru syml yn swyddfa llogi cyfarpar symudedd Abertawe. Bydd hefyd angen i chi ddarparu dau fath a brawf adnabod sy'n dangos eich enw a'ch cyfeiriad.
- £15 y flwyddyn
Trwydded ymwelwyr - bydd angen i dwristiaid ac ymwelwyr dydd ddarparu dau fath o brawf adnabod.
- taliad untro o £7.50 (ar yr ymweliad cyntaf)
- ymweliadau dilynol - £7.50 diwrnod llawn, £3.90 hanner diwrnod (9.00am - 12.45pm neu 12.45pm - 4.30pm)
Oriau agor
Amserau agored Nadolig
Dydd Mawrth 24 Rhagfyr: 9.00am - 2.00pm
Dydd Mercher 25 - dydd Gwener 27 Rhagfyr: Ar gau
Dydd Sadwrn 28 Rhagfyr: 9.00am - 4.30pm
Dydd Llun 30 Rhagfyr: 9.00am - 5.00pm
Dydd Mawrth 31 Rhagfyr: 9.00am - 5.00pm
Dydd Mercher 1 Ionawr: Ar gau
Dydd Llun - dydd Sadwrn, 9.00am - 5.00pm.
Sylwer, mae angen dychwelyd yr holl gyfarpar cyn 4.30pm fan bellaf.
Ar gau ar wyliau banc.
Cyfleusterau
Changing Places
Parcio
Mae cyfleusterau parcio ceir cyfyngedig ar gael i gwsmeriaid ar Garden Street yng nghefn y swyddfa llogi cyfarpar symudedd (codir tâl bach). Rhoddir trwyddedau gan staff a rhaid eu dangos ar gerbydau ar bob adeg. Gweithredir y maes parcio ar sail y cyntaf i'r felin, fodd bynnag, mae maes parcio aml-lawr y Cwadrant drws nesaf os bydd y maes parcio'n llawn.
Sut i gyrraedd
Gallwch ddod o hyd i ni yng Ngorsaf Fysus Dinas Abertawe, ar ochr y de tuag at Tesco. Mae gennym leoliad canolog ar gyfer mynediad hawdd at y siopau a'r cyfleusterau yng nghanol y ddinas. Gall cerbydau gael mynediad at y maes parcio drwy Garden Street (dilynwch yr arwyddion ffordd).