Man storio bagiau yng nghanol y ddinas
Gadewch eich bagiau a'ch nwyddau mewn lle diogel wrth i chi siopa.
Mae 16 o loceri meintiau gwahanol ar gael yn y siop Llogi Cyfarpar Symudedd Abertawe i chi adael eich pethau yno.
| Maint y locer | Nifer y loceri sydd ar gael | Cyfradd ddyddiol lawn* | Cyfradd hanner diwrnod* |
|---|---|---|---|
| Safonol | 6 | £4 | £2.65 |
| Canolig | 4 | £5.25 | £4 |
| Mawr | 4 | £6.60 | £5.25 |
| Mawr iawn (maint cês ddillad) | 2 | £7.85 | £6.60 |
| Mae cyfleuster storio dros nos hefyd ar gael am ffi o £17.35. | |||
* ceir hefyd ffi allwedd ddychweladwy o £3 ar ben y cyfraddau hyn.
Cyntaf i'r felin fydd hi i gael locer a byddant ond ar gael yn ystod oriau agor y siop llogi cyfarpar symudedd.
Bydd angen i ddefnyddwyr ddarparu ID, cwblhau ffurflen syml a llofnodi i ddweud y byddant yn cadw at yr amodau defnyddio.
Dewis iaith
Addaswyd diwethaf ar 21 Hydref 2025
