Toglo gwelededd dewislen symudol

Llwythi anarferol

Gelwir llwythi mawr neu drwm sydd angen eu cludo yn llwythi anarferol. Os ydych yn bwriadu mynd â llwyth anarferol ar hyd y briffordd, mae angen i chi roi gwybod i ni ymlaen llaw.

'Llwyth anarferol' yw cerbyd sydd ag unrhyw un o'r canlynol:

  • pwysau o fwy na 44,000 cilogram
  • llwyth echel o dros 10,000 cilogram ar gyfer echel sengl heb yriant, a 11,500 cilogram ar gyfer echel sengl â gyriant
  • lled o fwy na 2.9 metr
  • hyd o fwy na 18.65 metr

Os ydych yn symud llwyth anarferol, yna mae'n rhaid i chi hysbysu'r heddlu, yr awdurdod priffyrdd (y cyngor) a pherchnogion pontydd eraill megis Network Rail.

Gall Dinas a Sir Abertawe eich cynghori ar allu strwythurol pontydd ond nid oes ganddo wybodaeth am led ffyrdd, lleoliadau celfi stryd na strwythurau neu lystyfiant sy'n hongian dros y ffordd. Y cludwr sy'n gyfrifol am sicrhau bod y llwybr yn addas ar gyfer y llwyth anarferol.

Mae'n rhaid i unrhyw gais ar gyfer gwiriad cludo llwyth anarferol ar hyd llwybr arfaethedig gynnwys yswiriant iawndal i sicrhau bod cost adfer unrhyw ddifrod i'r briffordd a achosir gan gludo'r llwyth anarferol gael ei adennill.

Gallwch gysylltu â ni am gyngor drwy ffonio Llwythi Anarferol.

Gallwch hysbysu'r holl awdurdodau am lwyth anarferol trwy ddefnyddio system gwasanaeth electronig cyflwyno llwythi anarferol (Yn agor ffenestr newydd) yr Asiantaeth Briffyrdd.

Llwythi Anarferol

Enw
Llwythi Anarferol
Rhif ffôn
01792 635182
Close Dewis iaith