Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweithio Abertawe - Arweiniad llythyr eglurhaol

Mae llythyr neu e-bost eglurhaol yn eich helpu i nodi pam rydych am gael y swydd ac i dynnu sylw at rai sgiliau allweddol sy'n eich gwneud chi'n addas ar gyfer y cwmni.

  • Yr hyn y dylwn ei ysgrifennu
  • Sut ydw i'n gosod fy llythyr ar y dudalen ac yn dewis y fformat cywir?
  • Sut ydw i'n sicrhau bod y llythyr eglurhaol yn gosod y naws gywir?

Ydy'r cwestiynau hyn yn gyfarwydd? Os ydynt, peidiwch â phoeni!  Beth am ddarllen ein Harweiniad Llythyr Eglurhaol i'ch helpu?

 

Bara a Menyn

Yn ei hanfod, eich llythyr eglurhaol yw'ch bara a menyn. Dyma'r unig gyfle i ddweud wrth y cyflogwr yn union pwy ydych chi. Mae'r llythyr yr un mor bwysig â'ch CV wrth gyflwyno cais am swydd, yn enwedig yn llygaid cyflogwr doeth a phrofiadol sy'n dda am ddod o hyd i bobl fedrus.

 

Yr Her

Mae'r her o ddod o hyd i swydd yn un go iawn. Ni chaiff unrhyw beth ei roi i ni ar blât ac weithiau mae angen brwydro yn erbyn cannoedd o gystadleuwyr, a'u curo. Nid yw hynny'n golygu na fyddwch yn cael cyfle yn rhywle arall, ond mae angen gwneud y gorau o'ch gallu os hoffech chi gael y swydd. Rydych chi wedi brwydro'n galed am gyfnod hir i ennill y sgiliau sydd gennych, a'r swydd yw eich nod erbyn hyn!

 

Argraff dda

Denwch sylw'r cyflogwr. Cyflwynwch eich hun yn ffurfiol ac, yn fras, amlinellwch mai bwriad y llythyr yw gwneud cais am y swydd. Peidiwch â diflasu'r darllenwr yn syth trwy falu awyr - nodwch y swydd rydych yn gwneud cais ar ei chyfer ac yna gadewch i'ch doniau gwych ddisgleirio.

Rhowch gyfle i'r darllenwr ddatblygu syniad da o bwy ydych chi. Tynnwch sylw at eich doniau trwy ymchwilio i'r cwmni, y fanyleb person ar gyfer y swydd a'ch profiadau sy'n bodloni'r fanyleb swydd, gyda'ch bwriad i weithio'n galed ar bob adeg.

 

Ni chaiff swyno ei werthfawrogi digon

Peidiwch â bod yn rhy ormesol neu'n rhy ddiflas wrth ddweud wrth y cyflogwr eich bod chi'n hyderus yn eich gallu i gwblhau'r tasgau sy'n ofynnol fel rhan o'r swydd. Bydd canmoliaeth yn gwneud byd o wahaniaeth, fodd bynnag, dylai eich diddordeb yn y cwmni fod yn ddilys ac mae angen i'ch cyflogwr weld hynny. Gallwch hefyd dynnu sylw at eich cyflawniadau mewn rolau a phrofiadau o'r gorffennol a all fod o fudd i rannau allweddol eraill o'r cwmni. Yn y pen draw, dylech esbonio pam mai chi yw'r ymgeisydd gorau ar gyfer y swydd wrth fod yn greadigol.

Gallwch gyfeirio at eich CV tuag at ddiwedd y llythyr a nodi ei fod yn amlinellu trosolwg o'ch hanes gwaith a sgiliau allweddol, ac os oes gan y cyflogwr unrhyw gwestiwn am swyddi'r gorffennol, mae croeso iddo gysylltu â chi i ofyn.

Cymerwch amser i ddiolch i'r darllenydd am eich ystyried ar gyfer y swydd.

 

Fformat

Personolwch y llythyr ar gyfer y cyflogwyr, gan gynnwys ei enw cyntaf, ei gyfenw a chyfeiriad y cwmni ar yr ochr chwith.

Dylech hefyd gynnwys eich gohebiaeth eich hunain i'r dde a chynnwys y dyddiad.

Gallwch hefyd roi teitl i'r llythyr gan nodi'r swydd rydych yn gwneud cais ar ei chyfer cyn dechrau ar eich llythyr.

Llofnodwch eich llythyr er mwyn gorffen gydag elfen bersonol.

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 08 Tachwedd 2021