Toglo gwelededd dewislen symudol

LMDB - Ysgol Gynradd Penyrheol

Ariennir y prosiect hwn gan grant cyfalaf Lleihau Maint Dosbarthiadau Babanod Llywodraeth Cymru.

Diben y grant cyfalaf hwn yw cefnogi lleihau maint dosbarthiadau babanod i dan 29 o blant a chodi safonau.

Mae'r prosiect yn cynnwys gwaith ailfodelu mewnol i newid un o ystafelloedd dosbarth mawr 120m yr ysgol yn ddwy ystafell ddosbarth gyda gwaith cysylltiedig i goridor cyfagos. Mae'r prosiect yn cynnwys gosod ac uwchraddio systemau mecanyddol a thrydanol newydd yn ogystal â gosodion a ffitiadau goleuadau. Darparwyd canopi dan gaead allanol hefyd.

Mae manteision y prosiect yn cynnwys:

  • Ysgol 3-11 oed yw Ysgol Gynradd Seaview. Bydd y prosiect hwn yn cael effaith gadarnhaol iawn ar addysg pob plentyn 3-11 oed sy'n mynychu'r ysgol nawr ac yn y dyfodol, gan y bydd yr ardaloedd newydd wedi'u hail-lunio'n darparu amgylchedd dysgu gwell i'r rheini sy'n mynychu'r ysgol.
  • Bydd y prosiect hwn yn cael effaith gadarnhaol iawn ar y staff sy'n gweithio yn yr ysgol nawr ac yn y dyfodol, yn ogystal â chymuned ehangach yr ysgol. Bydd y gwelliannau'n caniatáu i athrawon gael niferoedd llai o ddisgyblion yn y babanod a fydd yn arwain at roi mwy o sylw i'r plant hynny.
  • Gwella cyflwr presennol yr adeilad a lleihau'r gwaith cynnal a chadw sydd heb ei wneud yn yr ysgol yn gymedrol.

Y diweddaraf am y cynnydd - Tachwedd 2020

  • Mae'r ysgol (y penaethiaid ac aelodau Uwch-dîm Rheoli'r ysgol) wedi bod yn llwyr ymrwymedig ers sefydlu'r prosiect, ac mae hyn wedi parhau drwy gylch oes y prosiect er mwyn sicrhau yr ystyrir barn y rhanddeiliaid yn llawn.
  • Dechreuodd gwaith ar y safle ddydd Llun, 12 Awst 2019.
  • Cwblhawyd yr ystafelloedd dosbarth wedi'u hailfodelu'n fewnol erbyn diwedd mis Awst 2019 yn barod ar gyfer y disgyblion ym mis Medi.
  • Cwblhawyd yr ardal ganopi allanol dros hanner tymor mis Hydref 2019.

 

Amserlen

Dyddiad

Carreg filltir

Ebrill 2018Datblygu briff y cleient
Mai 2018Cynnwys rhanddeiliaid
Mai - Gorffennaf 2018Arolygon ar y safle
Gorffennaf 2018Cymeradwyaeth grant gan Lywodraeth Cymru
Mai - Mehefin 2019Proses dendro gan gynnwys gwerthusiad
Gorffenaf 2019Penodi contractwr
Awst 2019Dechrau adeiladu
Medi 2019Cwblhau'r gwaith adeiladau mewnol
Hydref 2019Cwblhau'r canopi allanol

 

Tim y prosiect

Mrs Alison Williams, Pennaeth

Kevin Williams, Swyddog Cynllunio a Gweithredu Prosiectau'r Ysgol

Jo Holdsworth, Swyddog Cefnogi Prosiectau

Gemma Thomas-Morris, Syrfëwr Prosiectau Pensaernïol

Nigel Hawkins, Rheolwr Prosiectau a Chaffael.

Close Dewis iaith