Toglo gwelededd dewislen symudol

Mabwysiadu gwely blodau - amodau a thelerau

Darllenwch ein hamodau a'n telerau.

Lleoliad

Bydd y Gwasanaeth Parciau'n ceisio bodloni ceisiadau am fabwysiadu gwely blodau penodol ond cedwir yr hawl i adleoli yn yr un man agored os bydd angen.

Dyluniad blodau

Bydd ein garddwyr tirlunio medrus yn dylunio ac yn plannu planhigion caled gan ddibynnu ar y tymhorau. Bydd gan rai parciau a gerddi welyau blodau o siapiau a meintiau gwahanol, a bydd y gost y dibynnu ar y lleoliadau hyn. Eiddo'r cyngor fydd y gwelyau blodau.

Fandaliaeth a difrod

Bydd y cyngor yn cynnal y gwelyau blodau a fabwysiadwyd a'r plac yn unol â'i amserlen cynnal a chadw safonol. Os bydd y plac coffa'n cael ei ddifrodi neu ei ddwyn o fewn 12 mis ar ôl ei osod, bydd y cyngor yn gosod un newydd ac ef fydd yn talu am hyn.

Arysgrif

Gall yr arysgrif ar gyfer y plac fod yn uchafswm o 120 o nodau a gofod ar 4 rhes.

Amserlen

Unwaith bydd eich ffurflen gais a'ch taliad wedi'u prosesu, bydd y cyngor yn trefnu'r pethau angenrheidiol ac yn cael y plac wedi'i engrafu, ac yna'n trefnu i'w osod. Bydd hyn yn cymryd oddeutu 8 i 12 wythnos.