Mabwysiadu neu roddi coeden
Byddwn yn gosod plac dur gwrthstaen wedi'i bersonoli, wedi'i ysgythru a'r geriau o'ch dewis ar y goeden a fabwysiedir neu a roddir o'ch dewis.
Mae cynllun 'Mabwysiadu Coeden' Cyngor Abertawe'n ffordd wych o gefnogi a mwynhau parciau a gerddi Abertawe y mae llawer o bobl yn eu mwynhau gyda'u teuluoedd ac mae'n rhoi lle i breswylwyr eistedd ac ymlacio ynddynt boed law neu hindda.
Mae rhoi cyfraniad tuag at fabwysiadau coeden bresennol neu roi rhodd o goeden newydd yn ffordd ddelfrydol o nodi carreg filltir, digwyddiad neu i goffau bywyd anwylyn neu anifail anwes.
Mae'r cynllun yn cynnig cyfle i fusnesau, sefydliadau neu unigolion gael lle penodol yn un o'n gerddi, parciau neu ardaloedd hamdden hyfryd.
Adoption / donation details
Gellir mabwysiadu coed presennol am £242 i gwsmeriaid preifat neu £290.40 i fusnesau neu sefydliadau (yn cynnwys TAW).
Gellir rhoddi coed newydd am £380 i gwsmeriaid preifat neu £456 i fusnesau neu sefydliadau (yn cynnwys TAW).
Er mwyn cydnabod y cyfraniad, byddwn yn gosod plac dur gwrthstaen wedi'i ysgythru a'r geiriau o'ch dewis ar goeden o'ch dewis. Bydd y rhodd yn ariannu ac yn cynnal y goeden a'r plac wedi'i ysgythru. Bydd y goeden yn cael ei phlannu yn ystod mis Ionawr a Chwefror fel arfer, neu pan fydd yr amodau'n addas.
Gellir ond rhoddi neu fabwysiadu coed dan y cynllun hwn ar dir y mae Cyngor Abertawe'n berchen arno. Byddwn yn caniatau mabwysiadu neu roddi coeden mewn unrhyw barc neu ardal hamdden. Y ffactorau cyfyngu fyddai'r math o goeden ddewisol a'r lle sydd ar gael. Cadarnheir hyn gan y parciau.
Does dim safleoedd pellach ar ôl yng Ngerddi Clun ar gyfer coed coffa neu goed a fabwysiadwyd.
Sut mae cyflwyno cais
Unwaith rydych wedi penderfynu ar eich lleoliad ac rydych wedi darllen yr amodau a'r telerau, ac rydych am fwrw ymlaen i fabwysiadu / roddi, cwblhewch y ffurflen ymholiad ar-lein isod.
Mabwysiadu neu roddi coeden - gwneud cais ar-lein Mabwysiadu neu roddi coeden - gwneud cais ar-lein
Unwaith bydd y ffurflen ymholiad wedi'i derbyn ac mae manylion eich archeb wedi'u cadarnhau, bydd dolen i'r ffurflen talu ar-lein yn cael ei hanfon yn uniongyrchol atoch. Os nad yw'n bosib i chi dalu ar-lein, darperir opsiynau eraill.
Caiff y ffioedd am goed a roddir neu a fabwysiedir eu hadolygu'n flynyddol ac efallai y byddant yn destun cynnydd, gydag unrhyw gynnydd o'r fath yn weithredol o 1 Ebrill tan 31 Mawrth bob blwyddyn, a bydd angen i'r cyngor gael taliad llawn ymlaen llaw. Ni osodir yr archeb am y goeden a'r gwaith nes derbyn y taliad.
Caiff archebion ar gyfer coed NEWYDD a gyflwynwyd ar ol 1 Ionawr 2023 eu plannu ym mis Ionawr / Chwefror 2024.