Mabwysiadu gwely blodau
Mabwysiadu gwely blodau hyfryd yng ngerddi godidog a mawreddog Abertawe.
Mae gan flodau, llwyni a phlanhigion ran bwysig wrth wella a bywiogi'n hamgylchedd dinesig, boed yn ein parciau a'n parciau a'n mannau agored neu ar ein strydoedd.
Mae cynllun 'mabwysiadu gwely blodau' 3 blynedd newydd gan Ddinas a Sir Abertawe'n ffordd wych i gefnogi a gwerthfawrogi'n gerddi ym mharciau Abertawe lle mae llawer o bobl yn mwynhau treulio amser gyda'u teuluoedd ac mae'n rhoi lle i breswylwyr ac ymwelwyr ei werthfawrogi pa bynnag dymor yw ef. Mae'r cynllun yn cynnig y cyfle i gwmnïau, sefydliadau neu unigolion i fabwysiadu gwely blodau a chynyddu ymwybyddiaeth o'r cwmni neu'r sefydliad, neu i gofio am anwylyn a chael lle personol a diriaethol yn un o erddi hardd Abertawe.
Mae gennym welyau blodau yn nifer o'n parciau yn y ddinas sy'n cael eu cynnal gan ein tîm parciau'n llawn amser.
Mae pobl, busnesau a grwpiau cymunedol yn cael y cyfle i fabwysiadu gwely blodau yn 2 o'n parciau mwyaf poblogaidd a mawreddog yn y ddinas. Mae'r gwelyau blodau ym Mharc Victoria, parc hynaf Abertawe, yn arddangos gerddi rhosod, llwyni a phlanhigion anhygoel. Mae ein gerddi botaneg yn arddangos eu blodau a phlanhigion unigryw ym Mharc Singleton.
Bydd unrhyw fusnes, sefydliad neu unigolyn sy'n mabwysiadu gwely blodau'n derbyn ffrâm bren i'w chadw gyda phlac dur gwrthstaen wedi'i engrafu yn y gwely blodau o'u dewis i gydnabod eu cyfraniad a'u cefnogaeth i'r amgylchedd yn ogystal â gwneud Abertawe'n ddinas fywiog a lliwgar ac yn lle gwych i fyw ynddo.
Dim ond Parc Victoria a gwelyau blodau'r Gerddi Botaneg Singleton sy'n rhan o'r cynllun hwn.
Sut mae cyflwyno cais
Unwaith byddwch wedi penderfynu ar eich lleoliad, a'ch bod am barhau â mabwysiadu gwely blodau, cwblhewch y ffurflen ar-lein isod.
Gwneud cais ar lein - mabwysiadu gwely blodau Mabwysiadu gwely blodau - Gwneud cais ar lein