Toglo gwelededd dewislen symudol

Mae anabledd gan fy mhlentyn

Gwybodaeth i rieni a gofalwyr plant a phobl ifanc anabl yn Abertawe.

Yn Abertawe, mae llawer o weithwyr proffesiynol o wasanaethau statudol a sefydliadau gwirfoddol ar gael i helpu a chefnogi rhieni i sylweddoli efallai fod gan eu plentyn anabledd.

Bydd y gweithwyr proffesiynol yn gweithio gyda chi i nodi anghenion eich plentyn a rhoi cynlluniau ar waith i'ch helpu chi a'ch teulu i gael mynediad i gefnogaeth gan wasanaethau. Rhaid i'r cynlluniau hyn fod mewn partneriaeth a'r rhieni, i gefnogi rhieni i ddiwallu anghenion eu plentyn yn y ffordd orau. Bydd yn rhaid i'r gwasanaeth sy'n ymwneud a chi a'ch plentyn weithio mewn ffordd gydlynol i sicrhau caiff gwybodaeth ei rhannu heb fod yn rhaid i chi ailadrodd gwybodaeth i amrywiaeth o weithwyr proffesiynol.

Gall paediatregwyr gyfeirio pobl i'r Gwasanaethau Cymdeithasol neu gallwch ofyn am gymorth eich hun.

Efallai y byddwch yn gymwys am gymorth gweithiwr cymdeithasol i'ch plentyn.

Y cam cyntaf yw cysylltu a:

Un pwynt cyswllt (UPC) Un pwynt cyswllt (UPC)

Gan ddibynnu ar anghenion eich plentyn, gallant eich cyfeirio i'r Tim Anableddau Plant.

 

Mae gan fy mhlentyn anabledd - chwilio am gefnogaeth

Ceir sefydliadau a gwefannau sy'n cynnig amrywiaeth eang o wybodaeth, adnoddau a chefnogaeth.

Un pwynt cyswllt (UPC)

Gall teuluoedd sy'n byw yn Abertawe gysylltu â'r UPC eu hunain i ofyn am help neu gyngor.

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 14 Gorffenaf 2021