Maethu
Os hoffech wybod mwy am faethu yn Abertawe, siaradwch â ni - ni yw Maethu Cymru Abertawe.
![Boy skateboarding with foster parent](/image/10262/Boy-skateboarding-with-foster-parent/standard.jpg?m=1668538669437)
![Foster Wales Swansea logo](/image/2177/Foster-Wales-Swansea-logo/gi-responsive__100.png?m=1673856740223)
Gallwch hefyd ein ffonio ni'n uniongyrchol ar 0300 555 0111 neu e-bostio maethucymru.abertawe@abertawe.gov.uk
Ydych chi'n ystyried maethu?
Stondinau gwybodaeth
Dewch i siarad ag aelod o Dîm Maethu Cymru Abertawe i ddarganfod beth mae maethu yn ei olygu.
- Dydd Llun 13 Mai - Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, 11.00am - 1.00pm
- Dydd Mwrth 21 Mai - Cwadrant Abertawe
Digwyddiad wyneb yn wyneb
- Nos Fercher 15 Mai, 6.00-8.00pm - ystafell gymunedol Archfarchnad Tesco, y Llansamlet
Yn ystod y digwyddiad gwybodaeth rhithwir, gallwch ddysgu mwy am faethu, yr hyn sy'n rhan o'r broses, a siarad â gofalwyr maeth ac aelodau Tîm Maethu Cymru Abertawe. Yn fwy nag erioed, mae angen teuluoedd maethu newydd arnom sydd ag ystafelloedd gwely sbâr a'r hyn y mae ei angen i newid bywydau plant a phobl ifanc lleol.
I gadw lle ar gyfer y digwyddiad, e-bostiwch fosterwales.swansea@swansea.gov.uk gan ddarparu enw cyswllt a chyfeiriad e-bost. Neu, ffoniwch 01792 636103 a darparwch yr wybodaeth hon.
Yna, byddwn yn anfon dolen atoch ar gyfer ein digwyddiad gwybodaeth rhithwir.