Toglo gwelededd dewislen symudol

Tâl am faethu

Ydw i'n cael fy nhalu i faethu? Dyma'r cwestiwn y mae'r rhan fwyaf o bobl yn ofni'i ofyn neu'n rhagdybio bod gofalwyr maeth yn ei wneud yn wirfoddol.

Fodd bynnag, mae ein gofalwyr maeth yn derbyn cymorth ariannol ar gyfer pob plentyn maeth y maent yn gofalu amdano. Cyfrifir taliadau maethu yn wythnosol gan ddibynnu ar oedran a nifer y plant y maent yn eu maethu.

Rhennir y taliadau i'r lwfans plant - y bwriedir iddo helpu i dalu costau gofalu am blentyn fel bwyd, gwres a dillad - a ffi gofalwr - sy'n cydnabod y sgiliau, yr hyfforddiant, yr amser, a'r ymrwymiad sydd eu hangen i ofalu am ein plant.

Isod ceir y taliadau wythnosol y mae ein gofalwyr maeth yn eu derbyn.

Oed

Lwfans plentyn a ffi gofalwr wythnosol

0-4 oed

£359.80

5-10 oed

£365.57

11-15 oed

£402.25

16 ac yn hŷn

£425.25

Isod ceir rhai enghreifftiau'n unig o'r hyn y gallwch ddisgwyl ei dderbyn yn seiliedig ar un neu ddau senario. Mae'r rhain yn seiliedig ar unrhyw blentyn rydych yn gofalu amdano drwy gydol y flwyddyn (365 diwrnod).

Senario

Cyfanswm y taliad a dderbyniwyd (y flwyddyn)

Gofal am faban

£18.709.60

Gofal am blentyn 13 oed

£20,917

Gofal am grŵp o siblingiaid - rhwng 3 ac 8 oed

£37,719.24

Gofal am blentyn 11 oed ac 16 oed

£43,030

DS: Bydd gofalwyr maeth sy'n gofalu am blant, yr ystyrir bod ganddynt anghenion cymhleth, yn derbyn ffi gofalwr uwch.

A oes rhaid talu treth am dâl gofal maeth?

Dim fel arfer. Gelwir eithriad o dreth incwm ar dâl gofal maeth yn Ryddhad Gofal Cymwys ac mae'n golygu nad oes angen i chi dalu treth ar y £10,000 cyntaf y mae eich cartref yn ei ennill mewn unrhyw flwyddyn. Mae tâl gofal maeth yn destun gostyngiad treth ychwanegol o hyd at £250 yr wythnos am bob wythnos y mae plentyn yn eich gofal.

Os byddaf yn maethu, a fydd hyn yn effeithio ar fy nhaliadau?

Na fydd, oherwydd y Rhyddhad Gofal Cymwys, ni fydd bod yn ofalwr maeth yn effeithio ar y rhan fwyaf o fudd-daliadau a gewch.

Os ydych yn derbyn tâl gofalwr maeth (lwfans maethu), rydych yn parhau i fod yn gymwys i gael budd-daliadau penodol. Ni fydd eich lwfans maethu yn effeithio ar eich cymhwysedd ar gyfer Budd-dal Tai, Credyd Cynhwysol, neu Lwfans Gofalwr/Lwfans Byw i'r Anabl ar gyfer eich plentyn eich hun. Ystyrir maethu fel bod yn hunangyflogedig, felly efallai y bydd gennych hawl i Gredyd Treth Gwaith a Chredyd Treth Plant.

Yr unig eithriad yw Lwfans Ceisio Gwaith, a fydd yn cael ei effeithio os ydych yn derbyn lwfans maethu.

Maethu a gwaith

Mae llawer o bobl yn gofyn a allwch chi fod yn ofalwr maeth a gweithio. Os ydych chi am faethu ond nid ydych am roi'r gorau i'ch gyrfa, y dewis gorau fyddai cysylltu â'ch awdurdod lleol. Bydd rhai asiantaethau maethu yn eich annog i roi'r gorau i'ch swydd er mwyn maethu. Fodd bynnag, mae maethu ar gyfer awdurdodau lleol yn hyblyg ac yn amrywiol.

Mae rhai gofalwyr maeth ar gyfer awdurdodau lleol yn gweithio, mae rhai gofalwyr maeth gartref yn ystod y dydd, mae gan rai blant maeth drwy'r amser, mae rhai yn lleihau eu horiau gwaith er mwyn mynd â'r plant i'r ysgol, ac mae rhai gofalwyr maeth wedi ymddeol.

Mae gennym ofalwyr maeth sydd â phroffesiynau amrywiol sy'n dangos pa mor hyblyg y gall maethu fod. Mae rhai swyddi'n cynnwys:

  • Staff y cyngor
  • Staff y GIG
  • Peirianwyr
  • Gweithredwr Draeniau
  • Gyrrwr Trên
  • Darlithydd
  • Technegydd Labordy

Os ydych chi'n gofalu am blant dan 5 oed, yna byddai angen i un person yn yr aelwyd fod ar gael 24/7. Os ydych chi'n gofalu am blant o oedran ysgol gorfodol, yna mae disgwyl i rywun yn yr aelwyd fod ar gael i fynd â'r plant i'r ysgol.

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 16 Rhagfyr 2022