Toglo gwelededd dewislen symudol

Hysbysiad o fân amrywiad i dystysgrif mangre clwb

Os hoffech wneud newid bach i'ch trwydded mangre, gallwch wneud cais am fân amrywiad i fangre clwb. Mae hon yn ffordd ratach a chyflymach o ddiwygio'ch trwydded.

Defnyddir y broses ar gyfer newidiadau megis:

  • newidiadau bach i adeiladwaith neu gynllun mangre
  • ychwanegu awdurdodiad ar gyfer lluniaeth gyda'r hwyr neu adloniant wedi'i reoleiddio (megis perfformiadau dramâu neu ddangos ffilmiau)
  • newidiadau bach i oriau trwyddedu (ond gweler isod y newidiadau sy'n ymwneud ag alcohol)
  • diwygio, diddymu ac ychwanegu amodau (gallai hyn gynnwys diddymu neu ddiwygio amodau sydd wedi dyddio, sy'n amherthnasol neu'n ddi-rym, neu ychwanegu amodau gwirfoddol).